O Gopa Moel Faban

moel-faban-rock-cannon-20110422-02Moel Faban

Rydw i’n sefyll ar gopa Moel Faban, yn edrych i lawr ar y wlad helaeth oddi tanaf. Y tu ol imi, i’r dwyrain mae’r Carneddau, y Glyderau, a chrib Nant Ffrancon. I’r gorllewin mae’r tir yn disgyn tua Bangor, a Mon, gyda’r ynys i gyd yn y golwg, a’i thir yn ymestyn draw at Fynydd Twr yng Ngaergybi. Draw i’r gogledd mae Llandudno a’r Gogarth, ac i’r de mae Arfon ac Abermenai. Oddi yna, rydw i’n gallu gweld y byd i gyd! A chan fy mod yn gallu ei weld, rydw i’n gallu rhoi fy marn ar yr hyn sy’n digwydd ynddo, yn y tir helaeth sydd yn y golwg oddi tanaf, ac yn y tir sy’n anweledig yr tu draw i’r gorwel.

Ar droad blwyddyn fel hyn, mae sawl peth yn gwibio trwy’r meddwl, y mwyafrif helaeth yn codi oherwydd edrych tuag at yn ol, ac edrych tuag ymlaen. Nid rhyfedd fod Ionawr wedi ei enwi ar ol y duw Rhufeinig Ianws, y duw oedd yn llythrennol yn ddau wynebog, un yn edrych ymlaen, a’r llall tuag at yn ol. Y prif gwestiwn sy’n llenwi fy meddwl fel y try 2017 yn 2018, a minnau’n carlamu tuag oed yr addewid, ( ond nid eleni!) yw i ble’r aeth y llanc goddefgar gynt, ac i ble y diflannodd y gwr canol oed rhyddfrydig, gan adael i henwr beirniadol gymryd eu lle. Peidiwch a’m camddeall, rydw i ymhell, bell o fod yn debyg i’r hen Victor Meldrew hwnnw, a fu’n llenwi ein sgriniau teledu am flynyddoedd gyda’i safbwyntiau finegraidd, a’i surni cyffredinol. Na, yr hyn a olygaf yw fy mod yn llawer mwy croendenau nag y bum, yn fwy parod i weld bai, yn fwy chwannog i gyffroi pan welaf ambell beth na hoffaf. Eto, wedi meddwl, efallai nad goddefgar oeddwn pan yn iau, na rhyddfrydig pan yn ganol oed; efallai mai malio llai am bethau yr oeddwn. Ac, mae’n debyg fod gennyf yn awr fwy o amser i gael fy ngwylltio ( er fod gwylltio yn air rhy gryf o lawer i ddisgrifio fy natur; byddai ‘cyffroi’ yn air mwy addas). Beth bynnag am hynny, dyna ddigon o ddoethinebu gwag, ac yn hen bryd mynd i’r afael â’r blogyn hwn. Ond, eto, dyna pam y rhagymadroddi; prif bwrpas y blogyn fydd rhoi cerbyd imi wyntyllu fy syniadau am faterion amrywiol sy’n tynnu fy sylw, yn cosi fy nhrwyn, ac yn hanner fy nghyffroi, yn awr ac yn y man. Gallai’r rheiny amrywio o wleidyddiaeth i chwaraeon, o addysg i datws newydd, o grwydro i aros adref; mewn gair, byddaf yn rhoi fy marn fach fy hun am unrhyw beth arall, bach neu fawr. Fydd na ddim trefn i gynnwys, na hyd, na phryd y bydd y blogiau’n ymddangos; gallant fod yn ddyddiol, yn wythnosol, neu’n fisol, yn hollol ddibynnol ar ffactorau. Efallai y bydd na ambell ddarllenydd yn gyfarwydd gyda cholofn sydd gen i yn y cylchgrawn Barn; rhywbeth tebyg i hynny fydd y blogyn, ond heb fod mor drefnus, na mor rheolaidd, na mor ymataliol.

Felly, i ffwrdd a ni: Tali ho!

RHESTR Y DALENNAU A’R PYNCIAU

Democratiaeth

Prinder Ymgeiswyr ar gyfer bod yn athrawon

Uchelgaer uwch y weilgi

Darllen

4Wales C Ingland

Marwolaeth diwylliant

Dignit

Ymddiriedaeth 21.10.20

Cudd i bawb ei farn

Ni chrwydraf, nid af o dy

Trwy beiriant amser

http://Daeargryn addysgol

Y bluen eira groendenau

Yr un hen rigol

Yr ifanc a wyr

Myfyrdod yn ystod y clo mawr

Cywilyddi’r tadau yn eu heirch

Addysg, addysg, addysg!

Pendilio ar y ffens

Mae’r hetiau bach yn gwasgu

Fory, fory, hen blant bach

Boris yn tynnu i’r canol

Hyfforddi Athrawon

Darllen

I’r rhai ohonom sy’n darllen llawer, mae’r rhan fwyaf o lyfrau a ddarllenwn yn rhai digon cyffredin, yn amrywio o’r diflas i’r difyr. Cânt eu darllen yn ddigon cydwybodol, ac, yna, fe’u gosodir ar y silff, lle yr arhosant, fyth i’w hail-ddarllen, os nad ydynt yn llyfrau cyfeiriadol, i droi atynt am wybodaeth bob hyn a hyn. Mae gennyf ddwsinau ar ddwsinau o lyfrau nad agorwyd eu cloriau ers eu darllen flynyddoedd yn ol, ond a gedwir, yn bennaf am resymau sentimental. Llyfrau Cymraeg yw’r rhain, gan amlaf, neu lyfrau Saesneg sy’n cael eu cadw am resymau megis pwy a’u rhoddodd imi, neu ble, pryd, neu pam, y’u cafwyd. Tynged nifer o lyfrau eraill, digon difyr yn aml, yw eu symud i siopau elusen er mwyn eu hailgylchu i sylw darllenwyr cyffelyb i mi.

Ond mae na lyfrau sydd y tu allan i ffiniau’r mwyafrif a nodais. Rhaid cyfaddef fod ambell un sy’n disgyn yn is na’r ffin, y llyfrau rheiny, am wahanol resymau, na allaf, yn aml, orffen eu darllen. Efallai mai arnaf i mae’r bai am y diffyg ymroddiad hwn, gan mai’r prif reswm am roi’r gorau iddynt ar eu hanner ( neu gynt ) yw diffyg dealltwriaeth o’r cynnwys, neu ddiflastod llwyr gyda’r hyn a drafodir. Tynged y rheiny, yn sicr, yw’r siop elusen, beth bynnag fo iaith y llyfrau.

Ond mae na lyfrau sydd uwchben y ffin cyffredinedd, nifer ohonynt, a dweud y gwir, sef y llyfrau rheiny sy’n mynnu darlleniad ar un eisteddiad ( neu un darlleniad sydd heb gynnwys darllen llyfr arall yr un pryd ). Mae’r rhain yn aros gyda rhywun am gyfnod hir. Yn gyffredinol, wedyn, disgyn y llyfrau hyn i ddwy garfan, Yn gyntaf, ceir y llyfrau hynny sy’n aros efo rhywun am byth, y llyfrau sydd a’u cynnwys yn aros yn fyw yn y cof am flynyddoedd, neu’r llyfrau hynny a ddarllennir dro ar ol tro. Mae gennyf nifer o’r rheiny ar fy silffoedd, fel sydd gan bob darllenwr arall. Nid af i’w henwi, gan mai llinyn mesur personol sy’n gyfrifol am leoliad pob un ar silffoedd pawb. Yn ail, mae’r llyfrau rheiny sy’n taro rhywun wrth eu darllen, ac yn gwneud argraff fawr ar y pryd, ond heb gyrraedd y garfan sy’n mynd i aros efo rhywun am byth.

Un o’r garfan olaf hon yw llyfr Saesneg yr wyf newydd ei ddarllen, sef ‘Hillbilly Elegy’ gan J D Vance. Hunangofiant yw’r llyfr, a hwnnw’n hunangofiant o’r Unol Daleithiau. Rwan, i Gymro Cymraeg, mae hunangofiant ymhell, bell o fod yn anghyffredin; onid ydym yma yng Nghymru yn crymu o dan hunagofiannau. Mae pawb a phopeth, sydd wedi gwneud unrhyw beth bychan o bwys, neu heb wneud dim byd o bwys, a dweud y gwir, wedi, neu yn, ysgrifennu hunangofiant. Ond mae ‘Hillbilly Elegy’ yn wahanol. Nid yn unig mae’n anghyffredin oherwydd mai 31 oed yn unig yw ei wrthrych, J D Vance; mae’n anghyffredin, hefyd, oherwydd ei fod yn hunangofiant diwylliant cyfan a chymdeithas sy’n prysur ddiflannu.

Mae’r awdur wedi ei fagu yn y gymdeithas honno o weithwyr cyffredin, sydd heb addysg uwch, a elwir yn ‘hillbillies’, cymdeithas sy’n ddisgynyddion, yn gyffredinol, o ymfudwyr Gwyddelig ac Albanaidd, ac yn gymdeithas sy’n ymestyn ar draws rhan helaeth o ddwyrain a chanolbarth yr Unol Daleithiau. Bu hon yn gymdeithas o weithwyr yn yr hen ddiwydiannau trymion. Bellach mae’r diwydiannau rheiny wedi mynd, a gadael y gymdeithas mewn gwagle, yn ddiwaith ac yn ddiystyr, yn byw mewn byd nad oes lle iddynt ynddo. Mae tair cenhedlaeth yn amlwg yn y llyfr, sef taid a nain yr awdur, ei fam, ac ef a’i gyfoedion. Cenhedlaeth y taid a’r nain yw’r un sydd wedi arfer gweithio’n galed, a byw’n galed hefyd. Pobl gyffredin, garw, ond gweithgar ydynt, yn barod i symud ar ôl y gwaith. Mae’n arwyddocaol mai gyda ei daid a’i nain y cafodd yr awdur ei fagu. Roedd hynny’n bennaf oherwydd fod ei fam yn perthyn i genhedlaeth iau. Mae hi’n nyrs, ond yn gaeth i gyffuriau, ac yn symud o un partner i’r llall, gyda phob un, yn ei dro yn ei churo a’i chamdrin. Mae hi’n perthyn i’r genhedlaeth sy’n colli gobaith oherwydd nad oes gwaith i’w gael, a’r byd yn eu gadael ar ôl. Ac yna mae cenhedlaeth yr awdur ei hun, cenhedlaeth sydd ddim am weithio, ddim am wneud unrhyw ymdrech, ac yn gweld bai ar bawb arall am eu cyflwr hwy o anobaith. Dyna’r disgrifiad o gydweithiwr iddo pan oedd yn llanc, dyn ifanc oedd yn cyrraedd ei waith yn hwyr bob bore, yn cymryd hanner awr o seibiant wedi awr o waith, ac yna’n rhoi’r bai ar ei gyflogwr pan gaiff ei ddiswyddo. Mae’r cydweithiwr hwnnw’n nodweddiadol o’i genhedlaeth. Wnaf i ddim difetha mwy ar y llyfr trwy ddatgelu mwy ar ei gynnwys. Digon yw dweud mai oherwydd iddo ddod o dan ddylanwad ei daid a’i nain, er eu garwed, a’u hegwyddor sylfaenol fod yn rhaid i bawb fod yn gyfrifol am ei lwyddiant ei hun, mai oherwydd hynny y mae’r awdur, yn y diwedd, yn llwyddo i ddod yn gyfreithiwr.

Pam mae’r llyfr wedi gwneud argraff, felly? Nid oherwydd yr awdur, nid oherwydd ei stori, ac nid oherwydd ei deulu. Mae’n gwneud argraff oherwydd ei fod yn gosod digwyddiadau cyfoes yn eu cyd-destun. Fel y nodais, cafodd ‘Hillbilly Elegy’ ei gyhoeddi yn 2015, ond, yn anfwriadol, mae’n egluro, a gosod cyd-destun, dau ddigwyddiad yn 2016, a hynny mewn dwy ran wahanol o’r byd. Mae’r llyfr yn dangos pam yr etholwyd Trump yn Arlywydd yr UDA, ac mae’n dangos pam y pleidleisiodd mwyafrif ym Mhrydain dros Brecsit. Yr un anobaith sydd yn y werin bobl yn yr UDA, ag sydd yng ngwerin cymoedd De Cymru, a’r un yw eu hymateb – rhoi’r bai ar bawb eraill, yn enwedig mewnfudwyr, a rhoi cic i’r sefydliad yn ei din. Mae Trump a Brecsit yn perthyn i’r un anobaith cymdeithasol, i’r un ymdeimlad o werin yn teimlo nad ydynt yn perthyn bellach, ac i’r hunglwyf a diffyg pwrpas sy’n codi o segurdod. Mae rhoi bai ar eraill am eich sefyllfa yn haws na’i hwynebu, a cheisio gwneud rhywbeth amdani. Dyna’r rheswm syml pam y mae’r UDA a Phrydain yn yr un sefyllfa, a dyna’r goleuni sy’n cael ei daflu ar y sefyllfa honno gan ‘Hillbilly Elegy’. Hunangofiant syml yw’r llyfr, ond fe’i goresgynnwyd gan ddigwyddiadau; oherwydd hynny, mae’n codi uwchben ei fwriad gwreiddiol. Mae’n llyfr gwerth ei ddarllen, ac wedi gadael argraff fawr – am y tro!

Ar lan y Fenai

Croesi'r Bont

UCHELGAER UWCH Y WEILGI

Ddoe cychwynnodd ymgynghoriad ar gael trydydd llwybr i groesi’r Fenai, a hynny oherwydd fod tagfeydd traffig ar y pontydd ( Pont Britania yn arbennig ), yn benodol ar rai adegau o’r diwrnod, ac ar rai adegau o’r flwyddyn. Mae hwn yn bwnc sy’n pegynu barn, yn union fel y gwna Brecsit. Ar un ochr mae’r rhai huawdl sydd eisiau trydydd llwybr dros y Fenai; ar y llaw arall mae carfan sy’n gwrthwynebu trydydd llwybr, gan honni fod pethau’n iawn fel ag y maent.

Hyd y gwelaf i, mae dwy safbwynt sylfaenol gan y rhai sy’n cefnogi unrhyw opsiwn sy’n gwella’r ddarpariaeth bresennol i groesi’r Fenai.

Yn gyntaf, mae llais y gyrrwyr rheiny nad ydynt yn hoffi eistedd yn eu ceir mewn ciw, hyd yn oed am ddeng munud. Yn ôl y rhain, ni ddylent hwy orfod ciwio am eiliad, ac fe ddylent gael rhyw hawl dwyfol i groesi’r Fenai yn hollol ddirwystr.

Yn ail, mae safbwynt awdurdodau’r ynys, sy’n hawlio fod tagfeydd ar y bont yn rhwystr i ddatblygiad economaidd Mon, ac yn atal cwmniau rhag sefydlu yno.

Mae a wnelo’r safbwynt wrthgyferbyniol yn bennaf ag ystyriaethau cadwriaethol. Mynn honno na ddylid amharu ar yr amgylchfyd, yn enwedig mewn ardal mor hardd, gan bont arall, neu drwy ehangu’r Bont Britannia bresennol. Ymhellach, haerant nad oes, mewn gwirionedd, angen ehangu’r ddarpariaeth bresennol, oherwydd nad yw dadleuon y safbwynt arall yn dal dŵr. Wedi dwys ystyried, ( fel y dydlid, ar fater mor bwysig ), penderfynnais i mai ar hoelen yr ail garfan hon yr wyf i am hongian fy het.

Mae dwy bont yn croesi’r Fenai. Agorwyd pont Menai, pont grog Telford, yn 1826, yn fodd i deithwyr ar droed, neu geffyl, neu gerbyd, groesi o’r tir mawr i’r ynys, neu fel arall, wrth reswm. Yna, yn 1850, agorwyd pont Stevenson, sef Pont Britania, ( wedi ei chamenwi, gan nad oes wnelo affliw o ddim a Britania rwls ddy wefs! ), er mwyn cario trenau dros y culfor. Felly y parhaodd pethau, nes i’r Tiwb ( enw lleol Pont Britania ) fynd ar dân yn 1970. Fe’i hatgyweiriwyd, i raddau, i gario trenau, ond, yn 1980 agorwyd y bont gyda llwyfan ffordd uwchben y rheilffordd, er mwyn cario’r A55 newydd. Mae dilysrwydd, felly, i’r ddadl sy’n mynnu mai pont wedi ei hadeiladu ar gyfer traffig 1980 yw’r bont bresennol, a bod cynnydd sylweddol mewn traffig yn y 38 mlynedd ers hynny. Ond gadewch inni edrych ar y sefyllfa go iawn, a hynny’r sefyllfa sy’n bod yn 2018.

Yr wyf i yn croesi Pont Britania fwy nag unwaith y dydd ers nifer o flynyddoedd. Yn y blynyddoedd rheiny gallaf gyfrif ar fysedd fy nwy law sawl gwaith yr wyf wedi fy nal mew ciw arni. Mewn gwironedd, mae cael eich dal mewn tagfa yn rheolaidd ar y ffordd o neilltu’r bont yn ddibynnol ar ddau factor syml, sef amser a chyfeiriad. Yn gyffredinol, mae tagfa traffig ar y ffordd i Bont Britania am rhyw hanner awr i dri chwarter yn y bore, rhwng tua 8.15 a 9.00, a rhyw awran yn y pnawn, rhwng 4.30 i 5.30, a hynny ar ddyddiau gwaith yn unig. Ymhellach, dim ond ar un ochr i’r bont y mae’r tagiad, sef ar ochr Môn i’r tir mawr yn y bore, ac ar ochr y tir mawr tua’r ynys yn y pnawn. Prif achos y tagiadau, fel y gellir tybio, yw trigolion yr ynys yn mynd i’w gwaith yn Arfon yn y bore, gan ddychwelyd adref yn y pnawn. Mae tagiadau, hefyd, ar Bont Menai, ond nid hanner cymaint a’r rhai sydd i groesi’r bont arall. Bydd tagiadau ar y pontydd ar adegau eraill, weithiau, megis pan fydd heidiau o ymwelwyr yn dod i Fon ar wyliau banc ac ati, neu pan fydd achlysur arbennig ar yr ynys, megis y Primin ganol Awst, wrth i ffermwyr gweddill Gogledd Cymru ruthro tuag adref i odro a bwydo’r da ( ynghyd ag ymwelwyr cyffredinol ac arddangoswyr, wrth reswm) . Gellir cael tagfeydd erchyll ar Bont Menai ar yr achlysuron prin hynny pan fydd Pont Britania ar gau, oherwydd gwynt neu ddamwain. Os ystyriwch sawl Gŵyl Banc sydd mewn blwyddyn, sawl dydd Gwener sydd mewn haf, sawl Primin sydd, a sawl gwaith y caeewyd Pont Britania, am unrhyw reswm, y llynedd, fe allwch roi nifer tagfeydd ger y bont yn ei gyd-destun.

Y tagefydd eu hunain, wedyn, a’r cwyno am faint o amser sy’n cael ei wastraffu yn eistedd ynddynt mewn car. Yn yr ychydig adegau pan wyf i wedi cael fy nal mewn tagfa ger y bont, ni chredaf imi fod yno, unwaith, am lawer mwy na deng munud . Onid yw’r ffaith nad yw holl dagfa’r bore yn parhau mwy na thri chwarter awr ynddo’i hun yn dangos pa mor hir mae pob car unigol yn gorfod aros i groesi’r bont. Rai wythnosau yn ôl, cymrais awr ac ugain munud i deithio 6 milltir i ganol Lerpwl. Rydw i wedi bod mewn tagfa naturiol ( hynny yw, nid oherwydd damwain ) am ddwyawr a mwy mewn ardal ddinesig yn Lloegr. O’i osod ym mherspectif y darlun mawr, dydy tagfeydd i groesi’r Fenai ddim yn dagfeydd. Anghyfleusterau bychain ydynt, ac anghyfleuster y gellid, yn aml, eu hosgoi trwy gychwyn oddi cartref rhyw flewyn yn gynt.

Y dadleuon economaidd wedyn. Dydw i ddim yn economegydd, nac yn fab i un, ond fedra i ddim dychmygu y bydd diwydiannau lu yn rhuthro i adleoli i Fôn os adeiledir pont arall dros y Fenai, neu ehangu’r llwybrau presennol. A chan fod yr awdurdodau ar yr ynys yn ddall i bopeth ond Wylfa newydd, ac yn canolbwyntio’n llwyr ar honno fel achubiaeth economaidd, fe allaf eu sicrhau’n llwyr na fydd dyfodol honno yn ddibynnol ar ehangu Pont Britania. Wnaiff Horizon ddim rhoi’r ffidil yn y to, a chodi pac, dim ond oherwydd tagfa geiniog a dimai ger Pont Britania. Wedi’r cwbl, dydyw i ddim wedi clywed am unrhyw ardal arall fyddai’n rhoi gwahoddiad i’w pwerdy niwclear, heb son am fynd ar eu gliniau a chrefu iddynt ddod yno. Beth bynnag, petai trigolion Môn yn poeni mor uffernol am waith a sefyllfa economiadd yr ynys, fydden nhw ddim wedi pleidleisio o fwyafrif o blaid Brecsit, gan beryglu holl ddyfodol porthladd Caergybi a’i gyswllt gyda Iwerddon a’r Farchnad Ewropeaidd.

Beth mae’r trydydd llwybr yn mynd i’w olygu i ni, tybed? Yn sicr, bydd yn golygu llygru llawer mwy ar ardal hardd glannau’r Fenai. Dydyn ni’n sicr ddim angen pont arall; gormod o bwdin i dagu ci fyddai hynny. Mae’r ddwy sydd yno’n barod, yno, fel y nodais, ers bron i ddwy ganrif, ac yn rhan, erbyn hyn, o’r amgylchedd a’r olygfa. Byddai trydydd pont yn graith ar yr olygfa. Yn sicr, dydy pontydd modern ddim ar batrwm sy’n ychwanegu at harddwch naturiol ardal, hyd yn oed os yw honno’n ardal drefol, hyll. Anghenfilod esgyrnog ydynt, wedi eu llunio er effeithiolrwydd yn hytrach na gweddu i’r amgylchfyd. Bydd unrhyw waith i gysylltu’r A55 gydag unrhyw lwybr newydd, hefyd, yn amharu mwy ar yr amgylchfyd, ac at ddifetha un o’r golygfeydd naturiol gorau yng Nghymru, os nad ym Mhrydain gyfan. A’r cwbl dim ond er lles modurwyr trahaus, hunanol, diamynedd, sy’n mynnu fod eu bywydau prysur a phwysig hwy yn bwysicach na phopeth arall, ac nad oes gan ddim byd hawl i’w gorfodi hwy i aros mewn ciw am chwarter awr bob dydd.

Ond, er yr holl ddadleuon yn erbyn, mae’n sicr mai dod a wna’r trydydd llwybr dros y Fenai, beth bynnag fydd ffurf a natur y llwybr hwnnw. Ac nid oherwydd dadleuon modurwyr, na Chyngor Môn, y daw, ond, yn hytrach, oherwydd Llywodraeth y Cynulliad. Mae honno, welwch chi, yn poeni cymaint am y cwynion parhaus ‘mai i’r De y mae popeth yn mynd’, yn torri silff ei thin i ddangos nad gwir mo hynny. A’r hyn fydd yn dangos eu tegwch i ni fydd horwth o anghenfil diangenrhaid, fydd ond yn gysur i ychydig, ond yn chwalfa i lawer.

Darllen

I’r rhai ohonom sy’n ddarllenwyr brwd mae na sawl gwahanol fath o lyfr sy’n cael ei ddarllen. Rydym, yn sicr, yn darllen y llyfrau hynny sydd o ddiddordeb inni. Wrth reswm, mae na bron cymaint o ddiddordebau ag sydd o wahanol fathau o lyfrau. Yn fy achos i, llyfrau ffeithiol sy’n denu fy mryd gan amlaf, a’r rheiny yn llyfrau hanes , fel arfer. Dosbarth arall o lenyddiaeth sy’n tynnu dŵr o’m dannedd yw ffuglen sydd wedi ei gyfieithu o ieithoedd eraill, yn enwedig nofelau ditectif o wledydd Sgandinafia. Ar fy silffoedd mae holl nofelau Mankell, Larsson, a Nesbo, ynghyd â phob math o lyfrau ffeithiol ar hanes, ac enwau lleoedd. Ac mae llawer o lenyddiaeth amrywiol yn y ddwy iaith yn trwmlwytho’r silffoedd fyrdd. Bendith mawr i mi yw fy mod yn ddwyieithog, gan fy mod yn gallu manteisio ar lyfrau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Druaned ydyw’r uniaith

Na ŵyr ond llyfrau un iaith

Rheswm pwysig, ar wahân i ddiddordeb, am ddarllen math arbennig o lyfr yw dyletswydd. Gall y dyletswydd hwn fod yn wahanol fathau o ddyletswydd. Nodais eisoes y credaf mai bendith yw’r ffaith fod gennyf ddwy iaith i fanteisio ar y llyfrau a gyhoeddir ynddynt. Ond, yn fwy na mantais, credaf ei bod yn ddyletswydd arnaf i ddarllen y llyfrau Cymraeg a gyhoeddir. Ar un adeg, pan oeddwn yn iau, tueddwn i brynu pob lyfr a gyhoeddid yn fy mamiaith, a hynny, yn syml, am eu bod yn cael eu cyhoeddi. Y canlyniad, yn aml, oedd fod rhai llyfrau oedd yn llenwi fy silffoedd un ai ond yn cael eu bras-ddarllen, neu heb gael eu darllen o gwbl, hyd yn oed. Erbyn heddiw, oherwydd fod cymaint mwy o lyfrau yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg, a diolch am hynny, mae’n amhosibl imi brynu pob un. Mae fy nghyfrif banc yn hynod ddiolchgar am hyn! Ond mae pob un a brynaf yn cael ei ddarllen.

Dyletswydd arall sy’n gyfrifol pam fod nifer o lyfrau ar fy silffoedd nad ydynt, lawer ohonynt, hyd yn hyn, wedi eu darllen, er fod rhai yno ers sawl blwyddyn bellach. Y rhain yw’r ‘clasuron’, sef y llyfrau rheiny – Saesneg, gan amlaf – y dywed rhai pwysicach na mi y dylai pob person ‘diwylliedig’ eu darllen cyn iddo roi cic i’r bwced fawr. Oni ddarllenasoch y rhain, meddent hwy, ni ellwch hawlio eich bod yn ddiwylliedig. Rydw i ar fy ffordd, felly, i hawlio fy mod yn ‘ddiwylliedig’; o leiaf, mae’r arfau gennyf. Onid ydynt hwy, holl nofelau Dickens, a Hardy, a Conrad, a sawl awdur arall, yn rhythu arnaf oddi ar y silffoedd o’m cwmpas, y cyfan yn barod i’m diwyllio, a’r un ohonynt a’i gloriau eto wedi ei agor Rhyw ddiwrnod, fy hen gyfeillion, rhyw ddiwrnod …

Dyletswydd arall, er fod cyfrifoldeb yn air mwy addas, yw’r llyfrau hynny yr oedd, neu y mae, rhai ohonom yn gorfod eu darllen oherwydd ein gwaith. Fe dreuliais i gyfnod helaeth yn athro Cymraeg, gan ddysgu llawer iawn o ddysgwyr tuag ar arholiadau’r Safon Uwch yn yr iaith a’i llenyddiaeth. Er mwyn gwneud hynny’n effeithiol, roedd hi’n angenrheidiol darllen yn helaeth o gwmpas y gwahanol bynciau, gan gadw gwybodaeth a syniadaeth yn gyfredol. Eto nid dyletswydd na chyfrifoldeb oedd gwneud hynny mewn gwirionedd; yn hytrach, pleser ydoedd. Os oes gan unrhyw athro, neu athrawes, ddiddordeb gwirioneddol ac ysol yn ei faes, fel sydd gen i, y mae darllen am y maes yn bleser pur.

Ac, yn olaf, mae na ddosbarth helaeth o ddeunydd darllen na ellir ei ddosbarthu o dan yr un teitl, nac mewn unrhyw gategori penodol. Y rhain yw’r cylchgronnau, pamphledi, a’r llyfrau amrywiol sydd wedi tynnu’r sylw, neu ennyn diddordeb y funud. Yn aml iawn, arwynebol ac amrywiol yw’r cynnwys, wedi eu darllen yn gyflym, unwaith yn unig, mwynhau’r mwyafrif ar y pryd, ac yna eu anghofio. Yn aml iawn, bydd nifer o’r rhain, yn enwedig yn llyfrau yn eu plith, yn cael eu rhoi i ryw siop elusen neu’i gilydd, er budd y elusen, ac er budd y chwilotwyr brwd hynny sy’n cribinio’r cyfryw siopau yn feunyddiol am ddeunydd darllen ysgafn, difyr, unwaith-ac-am-byth, fel u gwneuthum innau pan yn eu prynu. Rhag ofn i rywun feddwl mai oherwydd fy natur trugarog yr wyf yn rhoi nifer helaeth o lyfrau i siopau elusen, brysiaf i egluro mai’r prif, efallai’r unig, gymhelliad am eu symud o’r silff i’r siop yw er mwyn gwagio peth ar fy silffoedd gorlawn fy hun; hynny gyda’r bwriad o fynd allan i chwilio am fwy o gyfrolau i gymryd eu lle.

Cyn gorffen, fe glywaf ambell un yn gofyn pam nad wyf yn cadw’r holl lyfrau ar y teclyn digidol hwnnw sydd mor boblogaidd heddiw. Wel, mae gennyf un o’r rheiny; fe’i prynais rai blynyddoedd yn ôl, bellach, gyda’r union fwriad o ysgafnhau’r silffoedd crwmlwythog. Fe’i defnyddiais hefyd, am gyfnod byr, ond bellach does gen i mo’r syniad lleiaf ble mae’r teclyn. Chymrais i ddim ato o gwbl, dydy darllen o’i sgrin ddim byd tebyg i droi dalennau llyfr, ac, yn waeth na dim, fedrwch chi mo’i fodio fel bodio llyfr. Felly, hen ffasiwn neu beidio, parhau i ddarllen llyfrau a wnaf i, darllen er mwyn pleser, a pheth dyletswydd, a pharhau i lenwi, a gwagio, silffoedd siopau elusen, a silffoedd fy nghartref

 mynegai5-feb-y-ddraig-goch

4 Wels c Ingland

Yn ddiweddar bu i arweinydd Plaid Cymru rybuddio y byddai Brecsit caled yn arwain i ddileu’r gwahaniaeth rhwng Lloegr a Chymru. Gallai Gogledd Iwerddon a’r Alban fynd eu ffordd eu hunain, meddai hi, a byddai hynny’n arwain i sefyllfa ble y byddai Lloegr, i bob pwrpas, yn traflyncu Cymru. Darlun tywyll dros ben. Fodd bynnag, nid proffwydoliaeth wag yw geiriau Leanne Wood, gan fod y traflyncu yn digwydd eisoes. Lol, meddech, onid yw Cymru’n bod o hyd yr ochr hon i Glawdd Offa? Ydy, meddaf innau, ond nid am dir, na gwlad ar fap, nac unrhyw ddiriaeth yr wyf yn son; ond am safbwyntiau, am agweddau, am feddylfryd. Ydy, mae Cymru ddiriaethol yn bod. Onid yw mwyafrif ein pobol yn gwirioni ar lwyddiant ein tim pêl-droed, a miloedd yn gweiddi eu cefnogaeth groch i’r tim rygbi cenedlaethol trwy dinau gwydrau cwrw? Ond nid yr un peth yw canu Hen Wlad fy Nhadau ar gychwyn gêm, a’i byw wedi’r chwiban olaf. Canu un anthem a byw un arall yw hanes mwyafrif trigolion Cymru. Mae’n wir fod lleiafrif bychan dewr yn brwydro yn erbyn y llif, ond bychan ydynt, a mawr yw’r frwydr. Oni fu i Iwcip, yn ei hanterth, gael yr un gefnogaeth yng Nghymru ag a gafodd yn Lloegr? Ni wnaeth Iwcip unrhyw grych ar wyneb dyfroedd yr Alban, ond llanwyd hwyliau ei llongau jingoistaidd yng Nghymru â gwynt cryf o’r dwyrain. A’r un ei chwymp disymwth o bobtu’r Clawdd. Y refferendwm wedyn. Dim gwahaniaeth o gwbl rhwng Cymru a Lloegr. 51.9% o bleidleiswyr Lloegr o blaid gadael yr UE, 52.5% yng Nghymru. Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn pleidleisio i aros, ond Cymru fel ci rhech Lloegr. Yna, ddiwedd Ebrill, dangosodd un Pol Piniwn fod y cynnydd yn y gefnogaeth i’r Toriaid yn Lloegr yn cael ei adlewyrchu yng Nghymru. Cyn ichi ruthro i ddangos imi rai o ganlyniadau’r etholiadau lleol, mae’r rheiny’n wahanol, gan mai pleidlais bersonol i ymgeisydd sy’n gyrru’r rheiny yn aml, ac nid ystyriaethau pleidiol. Ond fe ddangoswn ichi ganlyniadau etholiadau’r cynghorau yn rhannau gwledig, mwy Seisnig Cymru – yr un darlun cyffredinol â’r un yn Lloegr. Ble mae Lloegr yn arwain, mae Cymru yn dilyn yn slafaidd. Hen wlad fy Hope and Glory! Does dim angen Brecsit caled, Leanne, i Gymru ddiflannu, mae ei phobl eisoes yn rhuthro’n lemingaidd tua chlogwyn difancoll.

Ond pam, tybed, mae hyn yn digwydd? Mae’r ateb yn syml ble mae 20% o’r boblogaeth yn y cwestiwn. Dangosodd Cyfrifiad 2011 mai dyma’r gyfran o boblogaeth Cymru sydd wedi eu geni y tu allan i’r wlad, gyda mwyafrif llethol y rheiny wedi eu geni yn Lloegr. Mae’n naturiol, felly, fod mwyafrif y rheiny, wedyn, yn cario eu meddylfryd Seisnig gyda hwy yn eu pocedi cesail. Mewn tegwch, allwn ni ddim disgwyl i aelod o genedl arall sy’n mewnfudo yma droi’n Gymro, tra, ar yr un pryd, ddisgwyl i Gymro sy’n ymfudo i wlad arall barhau’n Gymro. Does dim tebyg i safonau deublyg!

Beth bynnag am hynny, erys 80% o’r boblogaeth a ddylai feddwl fel Cymry, gan mai yma y‘u ganed. Pam, felly, na wna’r rhan fwyaf? Yn hollol syml, oherwydd diffyg , a diffygion, cyfryngau torfol cenedlaethol, yn benodol yn y Saesneg. O leiaf, mae’r cyfryngau Cymraeg yn ceisio meithrin hunaniaeth,. Mwya’r tristwch, canran fechan iawn o’r Cymry Cymraeg, hyd yn oed, sy’n dewis cysylltu efo’r cyfryngau hynny. Teledu a radio cyfrwng Saesneg o Loegr mae mwyafrif ein pobl yn eu dewis. Hyd yn oed ar ein dwy sianel Saesneg ni, dim ond atodiad bychan lleol yw newyddion Cymru, o’i gymharu â’r newyddion pwysig sy’n dod o, yn canolbwyntio ar, ac yn adlewyrchu meddylfryd, Llundain a Lloegr. Mae’n debyg mai’r peth pwysicaf i’r rhai sy’n rhoi unrhyw sylw i’r atodiad o Gymru yw beth fydd tywydd trannoeth. Mae un gorsaf radio leol ar Ynys Môn yn darlledu newyddion yn uniongyrchol o asiantaeth yn Lloegr, newyddion Lloegr-ganolog pur – dim un gair am Gymru, heb son am Fôn. O weld y diffyg sylw i’n gwlad ar ein cyfryngau, ac o gofio nad yw trwch y Cymry yn dewis yr ychydig sianelau/ gorsafoedd sydd ar gael, er gwaethaf ymdrechion cynhyrchwyr rhaglenni newyddion y sianelau hynny, oes unrhyw ryfedd mai yr un â’u cymheiriaid dros y ffin yw meddylfryd y Cymry.

Ac, yna, mae’r wasg. Yn wahanol i wledydd eraill, nid oes gan Gymru wasg genedlaethol Saesneg, dim un papur cenedlaethol pur sy’n arwain a hyrwyddo barn, dim tarannu o blaid hunaniaeth Gymreig, fel sydd o safbwynt Lloegr yn y papurau sy’n llenwi parlyrau ein meddwl. Y Mail a’r Sun a’r Mirror a’r lleill sy’n meithrin yr hunaniaeth yn yr isymwybod, ac nid hunaniaeth Gymreig mo hwnnw. Nid yw papurau Llundain yn ystyried am eiliad fod angen unrhyw fath o sylw difrifol i Gymru. Ac mae hyd yn oed ein rhaglenni newyddion Cymraeg ar y radio yn trafod straeon papurau Llundain bob bore, sydd ond yn atgyfnerthu eu dylanwad. A heddiw ddiwethaf, ail brif stori newyddion Cymraeg Radio Cymru, oedd cynlluniau Theresa ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd wedi’r etholiad. Perthnasol iawn i Gymru, RC!

Ond, meddech, mae gennym ddau bapur sy’n rhoi sylw i faterion Cymru. Hollol wir, a, chwarae teg, maen nhw’n ymdrechu. Yn wir, yn ddiweddar, derbyniodd un ohonynt wobr am y papur lleol gorau. Ond dyna graidd y broblem; nid papurau cenedlaethol sy’n gosod safbwynt cenedlaethol Cymreig ydynt, ond papurau bro mawr, un i’r Gogledd, a’r llall i’r De. Fel papurau bro, maent yn ddigon cymeradwy, er fod tudalennau’r un a ddaw i’m ty i yn ddyddiol yn orlawn o hanesion achosion llys. Petawn yn rhoi coel arno ambell ddiwrnod, gallwn dybio nad oes dim ond drwgweithredwyr yn ein mysg – a’r rheiny’n ddrwgweithredwyr y Gogledd-ddwyrain gan mwyaf.. Ie, papurau bro mawr ydynt, a phapurau sy’n gwneud yn llwyddiannus yr hyn maent am ei wneud. Ond nid hynny yw gosod safbwynt, a meithrin a llywio barn cenedl.

A dyna pam mae trwch poblogaeth Cymru yn meddwl yn union fel trwch poblogaeth Lloegr. Papurau Llundain sy’n bwydo ein gwybodaeth a phennu lwybr ein meddwl. Gwnewch arbrawf bychan. Ewch allan i stryd leol, unrhyw stryd leol, a gofynnwch i ddeg person, ar hap, pwy sy’n rheoli addysg ac iechyd a thai yng Nghymru. Cewch weld wedyn beth yw effaith y cyfryngau Llundeinig ar drwch y Cymry. ( ac ambell Olygydd Radio Cymru!)

Na, Leanne, nid Brecsit caled fydd diwedd ein hunaniaeth fel cenedl, nid Brecsit caled fydd yn gyfrifol am inni gael ein traflyncu gan Loegr. Mae’n digwydd eisoes, mae’n draflyncu meddyliol, yn agwedd a safbwynt a barn, ac mae’n digwydd am nad oes gennym wasg a chyfryngau yn yr iaith Saesneg sy’n gosod safbwynt Cymru, yn arwain barn, ac yn meithrin meddylfryd o genedl, yn hytrach nag yn ategu’r meddylfryd mai atodiad ydym i’r byd mawr pwysig sydd rhwng Clawdd Offa a Môr y Gogledd. Hyd nes y cawn hynny, ein gwasg ddyddiol genedlaethol – ar bapur neu yn ddigidol – ysglyfaeth i’n traflyncu fyddwn.

A Brecsit, caled, neu feddal, neu unrhyw ddull arall, fyddwn ni ddim yma, dim ond fel y Western England a ragfynegwyd gan un o’n prif nofelwyr bron i dri chwarter canrif yn ol.

Ar wahân i adeg pan fydd gêm bêldroed a rygbi!

Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf yn y cylchgrawn Barn

ATHRAWON LLANW

Wele ni unwaith eto, yn yr un hen rigol. Yn dynn ar gynffon canlyniadau profion Pisa, sy’n dangos fod perfformiad disgyblion Cymru wedi dirywio yn hytrach na gwella, fel y gobeithiwyd, cafwyd adroddiad arall ar athrawon cyflenwi gan ESTYN. Prif ddarganfyddiad eleni yw nad yw mwyafrif penaethiaid cynradd yn rheoli presenoldeb y gweithlu yn ddigon da. Bu adroddiadau ar yr un maes yn 2013, a 2015. Mae’r adroddiadau dilynol i un 2013 wedi digwydd oherwydd prif gasgliad syfrdanol Adroddiad 2013,

Mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, mae dysgwyr yn gwneud llai o gynnydd

pan fydd yr athro dosbarth yn absennol, ac mae ymddygiad dysgwyr yn aml yn

waeth’

Nid y casgiad sy’n syfrdanol, ond y ffaith fod angen holl adnoddau ymenyddol sylweddol Arolygwyr Estyn i weld hynny. Deuid i’r un casgliad trwy ofyn i unrhyw un sydd wedi bod o fewn poeriad nico i ysgol. Beth yw’r rheswm, tybed, am y diffyg cynnydd hwn?

Yn sylfaenol, mae gwahanol fathau o absenoldebau. Yn gyntaf mae absenoldeb salwch tymor hir. Nodais, yn un o’m colofnau diweddar, beth yw hyd a lled y broblem honno, yn enwedig oherwydd straen, yn ysgolion Cymru. Yna mae absenoldeb tymor byr, diwrnod neu ddau, neu ychydig yn hwy. Mae hwnnw’n absenoldeb salwch, neu oherwydd fod athrawon ar hyfforddiant, neu’n ymwneud â rhywbeth y tu allan i’r dosbarth – yn aml yn gwrando ar, neu’n gwneud gwaith i, yr union asiantaethau sy’n beirniadu eu hysgolion am ddiffyg cynnydd yn y disgyblion oherwydd eu habsenoldeb. Yn olaf, ond nid leiaf, mae’r absenoldeb oherwydd y 10% o amser digyswllt a roir i athrawon yn y cynradd i baratoi a marcio.

Beth bynnag fo’r absenoldeb, mae’n creu cur pen mawr i’r penaethiaid. Eu consyrn cyntaf yw gwarchod y dosbarthiadau di-athro. Coeliwch neu beidio, ni fyddai llond dosbarth o angylion bach, beth bynnag fo’u hoed a’u cefndir, yn ymddwyn fel angylion pe gadewid hwy heb oruchwyliaeth. Iechyd a diogelwch, felly, yw’r flaenoriaeth; eilbeth yw cynnydd. Fel y nododd adroddiad Estyn yn 2013, mae ymddygiad disgyblion yn aml yn waeth gydag athro cyflenwi. Meddyliwch am yr ymddygiad hwnnw heb athro o gwbl!

Pan fo’r absenoldeb yn un tymor hir, mae problemau ychwanegol. Y cyntaf yw cael unrhyw athro cyflenwi i ymrwymo i waith tymor hir. Yr ail yw cael arbenigwr, yn enwedig yn yr uwchradd. Fel ag y mae, mae cael athrawon parhaol arbenigol mewn nifer o bynciau yn yr uwchradd yn profi’n anodd, gyda llawer o ddisgyblion yn derbyn eu haddysg, hyd at arholiadau allanol, gan rai nad ydynt yn arbenigwyr yn y pwnc. Mae’n arwyddocaol mai’r pynciau a brofir gan Pisa – Mathemateg a Gwyddoniaeth – sy’n dioddef fwyaf o hyn. Ond os yw’n anodd penodi arbenigwyr i swyddi parhaol, mae’n llawer anos cael yr union arbenigedd a ddeisyfir mewn athro cyflenwi. Byddai’n hynod ddiddorol gwneud arolwg o holl ysgolion Cymru ar un neu ddau o ddyddiau penodol i ganfod yn union sut mae arbenigedd pob athro llanw yn cyfateb i’r angen yn ei ddosbarth. Byddwn yn barod i fentro fy nghrys mai pegiau sgwar mewn tyllau crynion fyddai’r mwyafrif llethol.

A beth am y pegiau sgwar hyn, pwy ydynt? Yn sylfaenol, rhennir athrawon cyflenwi yn dair carfan

  1. Y rheiny sy’n methu cael swydd barhaol. Diffyg swyddi, nid diffyg gallu, sy’n gyfrifol am hynny gan amlaf, a hynny oherwydd y sefyllfa ariannol, sy’n gorfodi ysgolion i dorri swyddi. O reidrwydd, mae llawer o’r garfan hon yn athrawon newydd gymhwyso, sy’n methu cael y swydd y maent wedi eu hyfforddi amdani. Yn yr union gyfnod pan ddylent fod yn dysgu eu crefft o dan arweiniad cydweithwyr profiadol, cânt eu bwrw’n ynysig i waith ysbeidiol gyda disgyblion gwahanol mewn ysgolion gwahanol ar ddyddiau gwahanol, nid y sefyllfa ddelfrydol i fwrw prentisiaeth. Fodd bynnag, mae rhai o’r garfan hon yn methu cael swyddi parhaol am resymau effeithiolrwydd, ond maent hwythau yn begiau derbyniol pan fo angen llenwi tyllau.
  1. Y rheiny sy’n dewis bod yn athrawon llanw, am wahanol resymau. Gall hynny fod yn gweddu i’w dull o fyw, neu, yn amlach na heb, gall fod oherwydd fod llai o atebolrwydd a straen i waith athro cyflenwi.
  1. Y rheiny sydd wedi rhoi’r gorau i addysgu’n llawn amser, un ai ar ganol gyrfa, neu wedi ymddeol yn gynnar, ac yn gweithio fel athrawon cyflenwi i ychwanegu at y pensiwn.

Pa garfan bynnag, maent oll yn yr un sefyllfa. Dydy bod yn athro cyflenwi ddim yn hawdd – yn wir, gall fod yn gythreulig o anodd. Y prif reswm am hynny yw mai craidd addysgu da, a hanfod athro da, yw adnabyddiaeth lwyr o bob un disgybl unigol o dan ei ofal, gwybodaeth glir o’i gryfderau a’i wendidau, o ble mae wedi cyrraedd, ble mae am fynd nesaf, a sut i fynd ag ef yno. Ond pan fo athro cyflenwi yn cerdded i mewn i ddosbarth, does ganddo mo’r syniad lleiaf am yr un o’r hanfodion hyn. Yn amlach na heb, mae’r athro cyflenwi druan, hefyd, y tu allan i’w arbenigedd, yn symud o ddosbarth i ddosbarth, ac o ysgol i ysgol, fel iâr ar felt tragwyddol ei ruthr. Oes unrhyw ryfedd nad yw disgyblion yn gwneud cystal cynnydd gydag athrawon cyflenwi? Yn wir, ffliwcan fydd unrhyw gynnydd a wneir. Nid yw adnabyddiaeth o bolisiau, cyfundrefnau, na maes yr addysgu, yn mynd i gymryd lle yr adnabyddiaeth o’r plant. Ac nid trwy fod yn athro cyflenwi y mae caffael hynny.

Yn ôl yr ystadegau mae 10% o wersi disgyblion Cymru yn cael eu haddysgu gan athrawon cyflenwi. Mae’n deg tybio , felly, fod tua 10% yn llai o gynnydd. Gall 10% gyfateb i ddwy radd TGAU. Tybed sut byddai 10% yn newid lleoliad ar dablau Pisa? Yn ôl yr ystadegau eto, mae absenoldeb athrawon Cymru bron i ddwywaith absenoldeb eu cymheiriaid yn Lloegr. Mae’n arwyddocaol yn y cyswllt hwn fod canlyniadau profion Pisa disgyblion Lloegr yn sylweddol well na rhai Cymru. Profwyd yn rhyngwladol fod cyfatebiaeth glir rhwng cyfran absenoldeb athrawon a pherfformiad eu disgyblion. Yn yr Unol Daleithiau mae’r gyfran uchaf o absenoldeb athrawon yn nhalaith Nevada; mae ysgolion y dalaith honno yn perfformio gyda’r gwaethaf trwy’r wlad gyfan.

Fel y nodais, does dim angen craffter arbennig i ddod i’r casgliadau yn adroddiadau Estyn ar athrawon cyflenwi ers 2013. Oherwydd hynny, hoffwn awgrymu y byddai wedi bod yn llawer gwell defnydd o’u hamser fynd at wraidd y broblem, yn hytrach na chwarae efo’i heffeithiau. Nid efo powdwr gwyn ar y croen y mae gwella’r frech goch! Yn hytrach na beirniadu athrawon cyflenwi, penaethiaid, ac ysgolion, oni fyddai’n well mynd i’r afael â’r broblem go iawn, sef absenoldeb cymaint o athrawon sydd mewn swyddi parhaol? Mae cyfran helaeth iawn o absenoldeb athrawon yn digwydd oherwydd straen. Mae hwnnw yn cael ei greu gan y gofynion eithafol ac afresymol a roddir arnynt gan y Llywodraeth, y newidiadau cyson, a’r pwysau a ddaw oddi wrth awduron yr union adroddiadau sy’n beirniadu’r ysgolion. Petai ychydig o’r pwysau gormesol sydd ar athrawon yn cael ei godi, yna byddai llai o lawer yn dioddef straen, a llai o absenoldebau. Byddai hynny, wedyn, yn nacau’r galw am gymaint o athrawon cyflenwi, gan, a dilyn rhesymeg Estyn, godi cyflawniad a chynnydd disgyblion, Canlyniad hynny, mae’n amlwg, fyddai codi safonau a dringo i fyny tabl profion Pisa, yn ogystal â phob tabl addysgol arall.

Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf yn y cylchgrawn Barn