Fory, fory, hen blant bach

(‘Nid yw un pluen mewn eirlithriad fyth yn teimlo unrhyw gyfrifoldeb’

Stanislaw Lec 1909-1966)

Rydw i’n poeni’n ddifrifol am ddyfodol y blaned, cymaint,yn wir, nes mod i’n colli blewyn o gwsg ambell noson; ambell bnawn, hefyd. Poenaf oherwydd effeithiau newid hinsawdd, cynhesu byd-eang, colli bio-amrywiaeth, colli bywyd gwyllt, a difodiant cyffredinol. A dweud y gwir, rydw i bron yn niwrotig am y sefyllfa. Ac nid y fi ydy’r unig un. Dyna i chi’r eneth un ar bymtheg oed ‘na o Sweden, Greta Thunberg, sydd wedi tanio dychymyg a chynhyrfu cydwybod miloedd ar filoedd o bobl ar draws y byd gyda’i hareithiau emosiynol apocalyptaidd am beryglon peidio newid ein ffordd o fyw. Mae’n wir nad ydy’r ferch ifanc wedi swyno na Thrump, na Putin, na Bolsonaro, gyda’r cyntaf, yn nodweddiadol, yn dweud pethau pur annifyr amdani. Daw’r geiriau ‘mul’ a ‘chic’ i’r meddwl? Yr un yw agwedd fulaidd Boris at fudiad Gwrthryfel Diwydiant, a sefydlwyd gan ddilynwyr Greta. Ond dyna ydy natur gwleidyddion y dydd; heddiw sy’n bwysig , hynny a llwyddiant plaid, a llwyddiant personol yn fwy fyth; dydy fory fawr o gonsyrn i sawl gwleidydd modern.

Ond nid felly fi..  Mae llun Greta gennyf, yn hawlio lle o barch rhwng lluniau Ghandi a Martin Luther King, a’r tu blaen i lun taid Bwlch, fy arwyr eraill.

Newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf, newid sy’n cael ei yrru gan  ddynoliaeth yn rhyddhau gormod o garbon i’r amgylchedd, ac yn cynhesu’r blaned, gan ddadmer rhew’r pegynau a chwyddo’r moroedd. Mae cytundeb cyffredinol y bydd lefelau’r mor, erbyn diwedd y ganrif hon,  wedi codi digon i foddi llawer rhan o’r byd, gan gynnwys ardaloedd yma yng Nghymru. Diolch i’r nefoedd, fe fydd y ty ‘ma yn ddiogel. Byddai raid i’r mor godi dros 600 troedfedd i fygwth y drws ffrynt. Mae hynny’n gysur.

Y rheswm am gynhesu byd-eang yw llosgi tanwydd ffosil, glo, nwy, ac olew, yn bennaf i greu trydan, cynhesu tai, a gyrru peiriannau o bob math. Os ydym am osgoi llawer o sgil-effeithiau’r cynhesu, rhaid inni leihau allariadau carbon yn sylweddol, ac yn fuan, Ond sut? Mae’n rhaid imi wrth drydan; onid yw popeth yn y ty ‘ma’n cael ei yrru ganddo, ac onid yw popeth yn hollol hanfodol i’m byw bach. Mae’r mil trugareddau  sy’n cael eu gwefru ym mhob soced drydan yn y ty, yn bethau na allaf fyw hebddynt. Felly rhaid dal i gynhyrchu trydan, ond nid efo glo a nwy: tanwydd ffosil, ywch! Nid efo ynni niwclear, ychwaith: mae gen i ofn hwnnw trwy ‘nhin ac allan. Melinau gwynt: on’d ydyn nhw yn bethau hyll, yn anharddu bryniau ein gwlad? Swnllyd, hefyd! Dydyn nhw ddim yn ddel ar y mor, chwaith; stemars yn ddelach. Na, dim melinau! Ynni o’r haul, ta, y paneli mawr, hyll ‘na sydd yn ymddangos fel madarch ar doeau tai ym mhobman. Ond nid fy nho i; beryg iddyn nhw ei sigo. Erbyn hyn mae na ffermydd paneli solar, gyda chaeau yn sgleinio fel llynnoedd yn yr heulwen. Dolur llygad go iawn. Ynni’r mor, ‘ta, ond meddyliwch am y chwalfa amgylcheddol y gallai cynlluniau megis  morglawdd Abertawe ei achosi. Yr unig ateb, felly, ydy i bawb ddefnyddio llai o drydan. Ac rydw i eisoes wedi dechrau cyfrannu – dydw i ddim, bellach, yn defnyddio’r soced drydan sydd y tu ol i’r cwpwrdd yn y sied. Wrth gwrs, mae’n rhaid i eraill arbed mwy, yn enwedig mewn gwledydd eraill, gwledydd pell i ffwrdd. Yn amlwg, does arnyn nhw ddim angen yr holl offer trydan sy’n hanfodol i mi.

Moduron, wedyn, yn gollwng allariadau i’r amgylchedd. Dylai pawb fynd am gerbyd trydan. Wrth gwrs, fyddai car trydan yn da i ddim i mi ( Onid ydwyf yn ceisio lleihau fy nefnydd o drydan? ). Ac mae’n rhaid i mi gael car – dydy’r bwsiau sy’n mynd o’r pentref yma bob hanner awr ddim yn mynd i’r union le y byddaf i am fynd iddo. A rhaid inni gael dau gar, wrth reswm, oherwydd, ambell dro, mae fy ngwraig a minnau am fynd i wahanol lefydd. Ond eithriad ydym ni ; byddai’n hawdd iawn i bawb arall gyfyngu ar eu defnydd o geir.

Awyrennau, wedyn. Wyddech chi fod un awyren, ar daith fer, yn cynhyrchu cymaint o allariadau carbon ag a wna unigolyn cyffredin mewn blwyddyn? Mae holl awyrennau’r byd yn cynhyrchu dros ugain gwaith mwy o garbon nag a wna holl boblogaeth y byd. Rhywsut, rhaid inni gyfyngu ar yr holl deithiau awyrennau hyn. Rydw i’n gwneud fy rhan, oherwydd dim ond rhyw bedair gwaith y flwyddyn y byddaf i’n hedfan dramor ar wyliau. Treiffls, chwedl y dramodydd!

Welsoch chi’r holl danau yna yn y fforestydd trofannol yr haf hwn. Roedd rhai yn danau naturiol, ond roedd llawer wedi eu cynnau yn fwriadol er mwyn clirio tiroedd ar gyfer ffermio ac ati. Nid yn unig byddai colli’r fforestydd trofannol yn drasiedi, byddid yn colli’r coed sy’n sugno’r carbon o’r amgylchedd, ac, felly’n cyflymu cynhesu byd-eang. Rydw i’n caru coed. Roedd gen ihanner dwsin o rai mawrion yn yr ardd yma, ac roedd hi’n loes calon imi orfod eu cwympo am eu bod yn cadw’r haul oddi ar y lawnt, a’r fainc bren lle’r ydw i’n torheulo.

Mae plastig, yn awr, wedi mynd yn broblem fawr, gyda thunnelli ar dunnelli ohono yn tagu ein moroedd, a gorchuddio ein tir. Mae’n mygu a maglu adar a physgod, ac mae meicro-plastig yn llenwi’r gadwyn fwyd, ac yn lladd. Ond nid fy mhlastig i. Rydw i’n ailgylchu pob tamaid ohono sy’n dod i’r ty yma yn ddeddfol; mae na focsaid mawr glas ohono yn mynd oddi yma bob wythnos. Does gen i  ddim obedeia i ble mae’n mynd, ond rydw i’n gwneud fy rhan!

Ydy, wir, mae hi’n unfed awr ar ddeg ar y blaned, os nad yn nes i hanner nos. Os ydym am unrhyw fath o ddyfodol i’n plant a phlant ein plant, mae’n rhaid inni dorchi llewys, a mynd i’r afael a’r llu o wahanol broblemau dyrys sy’n ein wynebu. Mae’n rhaid inni aberthu os am sicrhau dyfodol; rhaid aberthu ein byw cysurus. Fe allwn fynd ymlaen ac ymlaen, yn manylu ar y peryglon i’r blaned, ar ddifodiant anifeiliaid mawr a bach, ar chwalu bioamrywiaeth, ond, yn anffodus, fedra i ddim ar hyn o bryd. Mae’n rhaid imi gefnogi protestwyr Gwrthryfel Difodiant trwy eu gwylio ar  un o’r tri teledu sydd yn y ty. Wedyn mae’r hogan bach Greta na’n siarad, a rhaid gwrando ar honno. Efallai yr af i hepian ychydig wedyn, i wneud iawn am y cwsg y gallaf ei golli heno yn poeni am fory.

Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf yn y cylchgrawn Barn