Pymtheg oeddwn i pan ymaelodais gyntaf â phlaid wleidyddol. Am dros hanner canrif bu imi ffydd disigl yng ngrym gwleidyddiaeth i wella bywydau. Onid oedd y Gwasanaeth Lles a’r Gwasanaeth Iechyd yn dystion i hynny? Credwn, hefyd, fod gwleidyddion, at ei gilydd, yn bobl sydd eisiau gwasanaethu eu cyd-wladwyr, a gwella bywydau a byd. Fodd bynnag, peidiwch am eiliad â meddwl mod i’n ddigon gwirion i gredu fod pob gwleidydd yn berffaith, nac mai gan un blaid mae’r holl atebion. Na, cred gyffredinol oedd f’eiddof, nid cred ddall.
Bu imi fwrw pleidlais ar bob achlysur, o bob math, a phob safon, ers imi dderbyn yr hawl bron i hanner canrif yn ôl, bellach; a hynny am fy mod yn wirioneddol gredu ei bod yn fraint imi gael yr hawl i bleidleisio. Credwn, pe na defnyddiwn yr hawl, y byddwn yn bradychu’r dewrion rheiny fu’n brwydro i bob oedolyn gael pleidlais, o’r Siartwyr yn yr 1840au i’r tenantiaid a drowyd o’u ffermydd yn 1868, i syffrajetiaid dechrau’r 20fed ganrif. Roeddwn, hefyd, yn grediniol na ddylwn feirniadu cyfundrefn os nad oeddwn am gyfrannu i’w newid, a’r ffordd i wneud hynny oedd bwrw pleidlais i hyrwyddo’r newid hwnnw.
Mewn hanner canrif, dim ond unwaith y gwrthodais fwrw pleidlais; ethol Comisiwn yr Heddlu y tro cyntaf oedd hynny. Bu imi fulo y tro hwnnw am y credwn yn angerddol na ddylai rheolaeth heddlu fynd o afael biwrocratiaeth, ac , yn sicr, na ddylai fynd o dan reolaeth aelod o blaid wleidyddol benodol. Ac ni phleidleisiais. Ond fe wneuthum yr eildro! Cydwybod, o bosibl, rhag cywilyddio’r tadau ….
Sylwasoch, o bosibl, imi ddefnyddio amser gorffennol y ferf hyd yn hyn. Yr wyf, welwch chi, heddiw, yn dwys ystyried mod i , am hanner canrif, wedi camgymryd yn ddybryd, ac wedi fy nhwyllo fy hun.
Edrychaf o’m cwmpas. A digalonnaf. ( heneiddio, meddai siniciaid yn eich plith; ella, wir, ond ni chredaf hynny, rywsut ).
Mae cyflwr ein pobl yn gwaethygu; o leiaf, mae bywydau carfan helaeth o’r gymdeithas yn dirywio, a hynny’n sylweddol. Gwelaf rai â digonedd yn meddwl y dylid torri ar gymorth i’r rhai heb lawer, gweinidogion seneddol cyfoethog yn credu ei bod yn iawn i dlodion fyw ar lai, ac i’r anabl golli eu cymorth. Creigiau o arian yn trin gweiniaid fel ystadegau. Trwy drethu’r rhai â digon ( a gormod ) y mae codi arian. nid trwy lwgu’r newynog, Ond gallai codi trethi golli pleidleisiau!
Pan oeddwn yn fachgen, roedd sawl crwydryn o gwmpas, ond, oherwydd y Wladwriaeth Les, a sefydlwyd gan wleidyddion â thân yn eu boliau i wella bywydau , diflannodd Washi Bach, a’i fêts o’n ffyrdd. Bellach, dychwelodd eu disgynyddion, yn eu cannoedd, yn ddigartref a diymgeledd ar strydoedd ein dinasoedd a’n trefi. Ym mhob tref, bellach, mae’r digartref yn amlwg yn nrysau adeiladau, gyda’u hysgrepannau pitw. Ac mae’r biwrocratiaid yn gwrthod arian iddynt am nad oes ganddynt gyfeiriad cartref! Gwleidyddion efo waled ble dylai calon fod.
Heddiw , mae banciau bwyd ym mhob tref, yn ein hatgoffa o geginau cawl ganrif yn ôl, ac mae cynnydd sylweddol iawn yn y defnydd ohonynt Nid y di-waith yn unig sydd wrth eu drysau yn ymbil; mae nifer mewn gwaith yn gorfod eu defnyddio, hefyd. Yn ddiweddar, fe nododd un undeb fod darlithwyr prifysgol yn gorfod defnyddio’r banciau bwyd lleol. Ac mae hyn yn chweched economi mwya’r byd. . Mor drist pa mor bell y methasom gerdded mewn canrif!
O’m cwmpas, oherwydd toriadau didostur, diddiwedd, mae holl fframwaith gynhaliol fy nghymdeithas yn breuo a phydru, fel corff eryraidd Lleu Llaw Gyffes gynt. Yr unig bethau sy’n cynyddu yw difartrefedd, banciau bwyd, a thlodi. A thra bod hyn i gyd yn digwydd, mae nifer o’n gwleidyddion yn gwadu’r sefyllfa, ac yn pluo eu nythod eu hunain trwy ennill miloedd fel ‘ymgynghorwyr’.
Tros y misoedd diwethaf mae Brecsit bondigrybwyll a’r holl ddadlau wedi crisialu’r sefyllfa. Rhaid cyfaddef fy mod yn credu mai gwallgofrwydd a thrasiedi uffernol yw gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid hynny sy’n fy nhristau fwyaf. Yn hytrach cyfyd y tristwch o ymddygiad y gwleidyddion sydd i fod wrth y llyw.
Gwelaf brif weinidog sy’n poeni mwy am sicrhau undeb ei phlaid nag am les y wlad.
Clywaf wleidyddion yn palu celwyddau, ac yn meddwl nad oes neb yn sylweddoli hynny. Fe’u clywaf yn taeru fod du yn wyn, fod tlodi’n gyfoeth, a bod bach yn fawr.
Gwelaf styfnigrwydd plentynnaidd y rhai sy’n gwrthod unrhyw gyfaddawd, dim ond yn mynnu eu safbwynt eu hunain.
Gwelaf wleidyddion yn gwerthu eu hegwyddorion, yn dweud fod yn rhaid iddynt blygu i ewyllys eu hetholwyr. Gofalu am les eu hetholwyr yw eu gwaith, nid adlewyrchu beth mae’r rheiny’n feddwl. Poeni am eu dyfodol eu hunain y maent, ofn colli’r sedd, a’r miloedd o bunnau sydd ynghlwm i’r sedd a’r swydd, a’r ymgynghoriaethau
Clywaf rai uchel eu cloch yn mynnu fod yn rhaid i Ogledd Iwerddon fod yn union yr un peth â Phrydain, gan wrthwynebu popeth Ewropeaidd, ond yn fwy na hapus cael bod yn wahanol ar erthylu a materion eraill. Seiclopiaid cyfoes!
Bu adeg pan oedd pleidiau yn San Steffan, a gwyddem ar ba dir y safai pob un. Heddiw, does dim pleidiau, dim ond amryfal grwpiau styfnig ac aelodau diegwyddor yn poeni amdanynt eu hunain,yn mynnu nad oes ond un maen yn cael mynd i’r wal, ac na fydd wal ond y maen hwnnw.
Gwelais wleidyddion yn twyllo eu costau, ac un arall, sy’n gyfreithiwr, yn cael ei dedfrydu i garchar am ddweud celwydd, ac, wedyn, yn gwrthod ildio ei sedd, am mai’r senedd yw ei ffon fara.
Cyfaddefaf fod ambell wleidydd cydwybodol o hyd, yn gweithio’n gydwybodol, ac yn tarannu yn erbyn anghyfiawnder, ond lleiafrif ydynt , yn cael eu boddi gan y swnllyd, y styfnig, yr uchelgeisiol, y annhrugarog, y celwyddog, a’r unllygeidiog.
Ar draws yr Iwerydd, yng ngwlad y dewr a’r rhydd, gwelaf Arlywydd, a etholwyd yn ddemocrataidd i swydd o urddas, yn ymddwyn fel comanjac, yn bytheirio’n gyhoeddus, gan enllibio’n bersonol, a rhaffu celwyddau. Ym mlwyddyn gyntaf ei arlywyddiaeth, roedd yn dweud, ar gyfartaledd, 6 celwydd y dydd; erbyn hyn, mae’r rhif hwnnw wedi cyrraedd 22. Mae ganddo frodyr ymarferol yn y ffydd yn San Steffan.
Ac rydw i wedi bwrw pleidlais am hanner canrif;hanner canrif o bleidleisio’n ddiffael, yn llawn gobaith.
Dydw i ddim yn meddwl y traffertha i eto – er imi gywilyddio’r tadau yn eu heirch!
Ymddangosodd y rhefru hwn gyntaf yn y cylchgrawn Barn