Fu mi fawr o un am fyfyrio erioed; hyd yn oed yn y blynyddoedd gleision hynny pan oeddwn i’n fyfyriwr, doeddwn i ddim yn myfyrio rhyw lawer. Yn y blynyddoedd meithion ers y dyddiau melynion hynny, fyfyriais i fawr ddim. Rydw i’n un o’r bobl hynny sy’n well ganddynt wneud na meddwl, mynd nag eistedd; mae na hen duedd bleserus iawn ynof pan wyf yn ymdroi i fyfyrio, o ddisgyn i gysgu yn weddol handi. Fodd bynnag, yn y misoedd cloedig, cofedig, diweddar hyn daeth myfyrio yn rheidrwydd.
Fel yr oedd y drws ar roi clep, a’r clo ar roi clic, fe wneuthum restr, rhestr o’r pethau rheiny a allai lenwi’r wythnosau gweigion oedd o’m blaen, y pethau a allai gymryd lle’r golff, y dyletswyddau dyddiol teidiol y tu allan i’r ysgol gynradd, y mynych ymweliadau â thai coffi, ac ati, ac ati, sef y pethau hafodol a phwysig sy’n llenwi dyddiau heulog y rhai sydd wedi ymddeol. Ac, wele, ymddangosodd rhestr hir o bethau anghyfarwydd, yn cynnwys tasgau yn y ty, a’r ardd, y tasgau ysgrifennu, y teithiau cerdded lleol,y seiclo lleol, yr holl lyfrau nas darllenwyd, sy’n tyfu’n domen gynyddol ar fy silffoedd. Rhestr hir, hir.
A dyna fi, yn barod am yr ynysu mawr.
Doeddwn i fawr o feddwl y deuai adeg y byddwn i yn diolch mod i’n arddwr o ddyletswydd yn hytrach nag o ddiddordeb, a bod gen i ardd fawr. Canlyniad hynny oedd fod ar y rhestr sawl tasg sylweddol oedd wedi eu hadnabod dros y blynyddoedd, ac wedi eu gyrru’n syth i gefn y meddwl. Och!, ymwthiasant i’r blaen. Roeddwn yn hynod ffodus inni gael dyddiau hirfelyn tesog, oherwydd cwblhawyd y tasgau, a hynny’n araf, ofalus, drefnus. Dydy’r ardd fawr taclusach, ond mae nghydwybod fel un babi. Ffodus wedyn mod i’n byw ar lethrau’r Carneddau, a’m bod yn gallu camu o’m gardd i’w crwydro, a hynny heb dorri dim ar unrhyw gyfarwyddyd cofidaidd. Tramwyais yma a thraw ar eu hyd, ac ar hyd llwybrau’r ardal,fel y tystia lluniau a ffilmiau fil a beledais at y we. Seiclais fel Geraint Thomas( hen, ond yr un mor gyflym, gan fod batri yn y beic). Darllenais flewyn hefyd, er nid hanner cymaint ag y dylaswn, nag yr arferwn ei wneud.Eto, er yr holl brysurdeb hwn, roedd gennyf amser dros ben. Fel yr â’r rhestr yn llai, bydd yr amser gwag y mynd yn fwy. Dim ond unwaith y gellwch adeiladu sied, a does ar ddyn ddim eisiau mynd i Ffynnon Gaseg bob dydd ( er bod y Carneddau’n fawr! )
A dyna pryd y daeth y myfyrio i’m byd; oherwydd digonedd o amser, fe’m cefais fy hun, er fy ngwaethaf, yn llithro i fyfyrio. Manylaf ar ambell un
Myfyrdod 1.
Onid yw’n rhyfeddod mi mor gyflym y mae rhywun yn gallu addasu, yn gallu symud o un rhigol i rigol arall, a hynny yn hollol hapus a bodlon. Ymgynefino efo’r anghynefin! Un wythnos roeddwn i’n gwybod, ambell dro’n fras, ambell dro’n fanwl, ble byddwn i ar wahanol adegau o’r wythnos – pryd yn chwarae golff, pryd yn sefyll yng nghanol teidiau a neiniau eraill tu allan i ysgol gynradd, pryd yn eistedd mewn caffi yn drachtio coffi, ac yn y blaen, ac yn y blaen, rhaglen bendant, anysgrifenedig, rhigolaidd yn diffinio dydd a dydd, ac wythnos ac wythnos.Ac yna daeth y cofid! Eto nid chwalu a wnaeth, dim ond trosglwyddo, trosglwyddo o un rhigol i rigol arall. Fe’m hesgymunwyd o’r cwrs golff, fe gaewyd drysau’r ysgolion, ac aeth pob caffi yn hesb. Ond daeth pethau eraill i gymryd eu lle, a buan y gwelais fy hun yn disgyn i’w rhigolau hwy. Bellach roedd gennyf batrwm gwahanol i’m diwrnod, ond patrwm er hynny, a hwnnw’n batrwm pendant. Efallai mai adlewyrchiad o’r natur ddynol yw ein bod, fel hil, yn fwy bodlon mewn rhigol, efo canllawiau cadarn, nag yn cael ein taflu o don i don ar gefnfor diganllaw.
Myfyrdod 2
Rydw i, bellach, yn gwrthbrofi geiriau John Donne am ddyn ac ynys, mewn un ystyr, beth bynnag. Wrth fynd ar fy nhaith o gwmpas yr ardal yr wyf wedi byw ynddi ers dros ddeugain mlynedd, roedd pobl yn croesi’r ffordd wrth ddod i’m cyfarfod, nid i’m cyfarch, ond, yn hytrach, i’m osgoi. Oedden nhw’n gwneud hyn er fy mwyn i, neu er eu mwyn hwy? Beth ydy’r ots, cyhyd â bod osgoi.
Myfyrdod 3
Mae geiriau Donne yn cael eu profi’n wir, hefyd. Mae cymaint o bobl yn yr ardal yn barod i gynnig cymorth i mi ac eraill, sydd mewn mwy o berygl o’r covid, fel bod calon rhywun yn codi i’r entyrchion. Mae rhwydwaith eang o wirfoddolwyr yn y dyffryn yn gweithio’n ddiarbed i roi cymorth i’r anghenus. Eto, mae pwy sydd yn cynnig cymorth, a phwy nad ydynt yn destun myfyrdod pellach – os caf fwy o amser
Myfyrdod 4
Dydy’r covid ddim yn fater gwleidyddol, er gwaethaf y ffaith fod rhai o ddilynwyr y Donald yn mynnu mai cynllwyn gan y democratiaid i bardduo eu heinun ydyw. Mae’r cofid yn ymosod ar bawb, ac mae pawb yn y frwydr yn ei erbyn. Ond eto mae’n rhaid imi gyfaddef imi fyfyrio’n ddwfn a oes gan y rhai sy’n arwain ym Mhrydain y syniad lleiaf beth maent yn ei wneud yn yr ymgyrch yn erbyn cofid. Mae cynllun ‘gorau’r byd’ yn cael ei gyhoeddi heddiw, yn cael ei newid fory, a’i daflu i’r bwced drennydd. Mae swyddogion yn gwrthddweud ei gilydd yn feunyddiol, tra bod pob un yn taflu addewid ar ôl addewid i’r gwynt, gan wybod yn iawn nad oes bwriad fyth eu gwireddu, ac ami celwyddau gwynion dynt oll. Mae’n rhaid eu bod yn credu fy mod i a gweddill eu cynulleidfa yn hygoelus ddwl; ella eu bod yn iawn!
Myfyrdod 5 Mae Llywodraeth Cymru yn hynod o ofalus, efallai yn ormodol felly ar rai agweddau. Eto, mwyaf sydyn, mewn ambell gyfeiriad, maent yn carlamu’n ddireolaeth wyllt. Ni allaf weld y rheswm. Rydw i’n hanner gweld y rheswm yn y cynllun i ailagor ysgolion, ond heb ddeall pam fod angen yr holl ystod oed i mewn. Gwelaf fod undebau’r athrawon yn gwrthwynebu’n chwyrn, a deallaf iddynt wrthwynebu’r cynllun cyntaf hefyd. Rydw i’n deall hynny’n iawn, gan fod yr undebau yn gwneud yr hyn mae’n nhw’n ei wneud fel arfer – gwrthwynebu.
Myfyrdod 6
Cwestiwn i’r rhai hynny ( toriaid,gan amlaf, a rhyw foi dinod o iwcip – ydy’r rheiny’n dal o gwmpas, dwch? ) sy’n mynnu y dylid cael mwy o gysondeb rhwng Cymru a Lloegr yn yr ymdrech yn erbyn cofid.. Pam, yn ddieithriad, fod cysondeb yn golygu y dylai Cymru wneud yr un peth â Lloegr ym mhob un agwedd. Mae’n amlwg mai ond gan Loegr mae’r gwirionedd. Ymherodraeth a choloneiddio oedd yr hen air am hyn – dydy’r ‘natives’, chwarae teg, ddim digon deallus i feddwl.
Dydw i ddim am fyfyrio ychwaneg; gen i flewyn o gur yn fy mhen oherwydd yr ymdrech – ac mae’r blincing gwair ma yn yr ardd eisiau ei dorri eto. Ymlaen trwy’r gofid!
Mehefin 2020