Boris yn tynnu i’r canol

n gyffredinol, fu’r Blaid Geidwadol ddim yn gyfforddus gyda datganoli o’r cychwyn. Wrth gwrs, dydy hynny ddim yn wir am bob aelod o’r blaid; mae’n blaid ag iddi ystod sylweddol o geidwadaeth, o’r dde eithafol i’r chwith meddal, ac, o’r herwydd, mae nifer o unigolion ‘chwith-meddal’ yn y blaid, nid yn unig yn gyfforddus gyda datganoli, ond yn ei gefnogi’n ymarferol. Fodd bynnag, y mwyaf i’r dde y saif unigolyn o Dori, y mwyaf anghyfforddus y mae gydag unrhyw ddatganoli sy’n peryglu undeb Prydain Fawr; onid yw ‘Unoliaethol’ yn rhan greiddiol o enw’r blaid.

Er ei bod yn aml yn anodd lleoli Boris ar ystod ei blaid, gan ei fod yn ymddangos yn debycach i gwpan mewn dwr na dim arall, yn sicr, nid yw i’r chwith o unrhyw ganol sydd i’r blaid honno. Gan nad yw ei Svengali, neu’n hytrach, ei Rasputin, Cummings, yn aelod o’r blaid y mae’n brif gynghorydd iddi, ni allwn ei leoli ef. Rhyfedd o fyd!  Beth bynnag, yn ôl at y mwnci ( yn ffigurol, felly).

Ystyriwch rai digwyddiadau yn ystod y misoedd cythryblus diwethaf hyn, er mwyn cael darlun cliriach.

Yn ôl Prif Weinidogion Cymru a’r Alban, dim ond unwaith y cysylltodd Boris gyda hwy yn ystod y pum mis mwyaf anodd yn hanes pethau ers yr Ail Ryfel Byd. Unwaith, a hynny pan oedd y tair gwlad yn gweithredu eu strategaethau eu hunain i fynd i’r afael â’r argyfwng cofidaidd. Mae hynny yn dangos un o ddau beth, un ai diffyg doethineb anarferol o fawr, neu amharch dychrynllyd o sarhaus bwriadol tuag at lywodraethau datganoledig etholedig y gwledydd hyn. Mae gen i syniad pur dda pa un sy’n wir.

Yn ddiweddar, wedyn, gyrrodd Prif Weinidog Cymru lythyr at Boris yn gofyn iddo adolygu’r sefyllfa hurt ble na chaniateir i drigolion yr ardaloedd hynny yn Lloegr sydd dan glo fynd i ymweld â’u cymdogion, ond maent yn hollol rydd i gario eu pla i unrhyw ran o Gymru. Ni thrafferthodd Johnson ateb y llythyr, fel petai hynny islaw ei sylw. Câf yr argraff mai ei safbwynt yw ei fod ef, fel Prif Weinidog Prydain Fawr, yn llawer pwysicach na phrif weinidogion israddol ‘taleithiau’ fel Cymru a’r Alban. Yn wir, adeiladodd ar y sarhâd o beidio ateb llythyr Drakeford yn uniongyrchol trwy sarhâd pellach, sef  gwrthod y cais mewn cyfweliad teledu. Yn y cyfweliad hwnnw pwysleisiodd ei safbwynt trwy ddweud ‘ We are one country’, a dyna ei safbwynt at ddatganoli mewn pedwar gair, niwsans diangen yw rhoi llywodraethau i’r gwledydd eraill, niwsans i’w anwybyddu yw seneddau’r Alban a Chymru.

Wedyn, dyna i chi sylw Johnson y byddai’n adeiladu ffordd osgoi twneli Brynglas,a hynny er fod datganoli yn golygu nad oes gan San Steffan hawl o gwbl ar faterion trafnidiaeth yng Nghymru, hynny a’r ffaith fod Senedd Cymru wedi gwrthod y cynllun eisoes. Yn ogystal, petai Johnson yn meddwl, yn hytrach na siarad gyntaf, byddai, hefyd, yn sylweddoli na fyddai gan unrhyw gynllun i ymyrryd ym materion ffyrdd Cymru obaith mul mewn grand national o lwyddo, gan fod pwerau statudol cynllunio yng Nghymru yn nwylo Senedd Cymru, ac na fyddai ei gynllun yn cael y caniatad angenrheidiol. Eto, nid y cynllun sy’n arwyddocaol, ond y meddylfryd y tu ol iddo. Un arall o gynlluniau trympaidd Boris yw’r ffordd osgoi, fel ei bont i Iwerddon, ond mae’r hyn sydd y tu ôl iddo yn llawer mwy sinistr, sef cred Boris y gall wneud unrhyw beth, a bod Senedd Cymru yn amherthnasol.

Mae’r meddylfryd toriaidd asgell-dde, a’r dde-o’r-canol hwn yn rhoi cwynion y llywodraethau datganoledig am fwriadau’r llywodraeth Doriaidd ar ôl Brecsit mewn golau cliriach hefyd. Y cwynion sylfaenol yw y bydd San Steffan yn cadw pwerau ddylai fod yn nwylo’r llywodraethau datganoledig, ac, yn wir, yn tynnu pwerau yn eu holau i Lundain o Gaerdydd a Chaeredin. Wrth gwrs, gwadu mae Boris, ond, a defnyddio geiriau Mandy Rice Davies ‘ He would, wouldn’t he’. Mae Simon Hart, a gweision bach eraill tebyg, yn mynnu mai rhoi mwy o hawliau i Gymru y bydd y setliad, ond mae gwleidyddion yn gallu taeru du yn wyn. Y gwir sylfaenol, na ellir ei wadu, yw mai canoli, nid datganoli, yw greddf ceidwadaeth a Cheidwadwyr, a chanoli yw greddf, a bwriad, Boris Johnson. Hynny sydd yn tu ol i unrhyw ymwneud, a phob diffyg ymwneud, sydd ganddo â Chymru a’r Alban.

Ymhellach, yn y cyd-destun hwn o ganoli, a datganoli, pa synnwyr cymesuredd sy’n rhoi’r hawl i un dyn yn Llundain, a hwnnw’n Sais, yn arwain plaid sy’n amherthnasol bellach yn yr Alban, i wrthod hawl i wlad gyfan benderfynu ei thynged ei hun, er gwaethaf y ffaith fod mwyafrif ei phobl am yr hawl hwnnw? Un dyn, o genedl arall, gyda chred unoliaethol, yn gallu gwadu hawl miliynau o bobl.

Ac mae’n debyg mai’r dyn hwnnw yw prif reswm yr Alban dros hawlio annibyniaeth, a’r prif arf sydd gan y rhai sy’n brwydro dros annibyniaeth

Hydref 2020