Y bluen eira groendenau

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn cyfresi teledu tramor ( wedi eu his-deitlo, rhaid cyfaddef ), a’r rheiny, yn amlach na heb, yn ddramau am heddlu a ditectyddion. Mae llawer yn dod o wledydd Sgandinafia, lle mae cynsail Y Gwyll gan S4C, ac eraill o’r Almaen a Ffrainc. Mae’r rhai ohonoch sy’n gyfarwydd a nofelau Henning Mankell  a Stieg Larssen o Sweden, neu Jo Nesbo o Ddenmarc, neu’r cyfresi teledu Scadinafaidd ‘Broen’ ac ‘Engrenages’ o Ffrainc, yn gwybod yn union sut fath o fyd sy’n cael ei ddarlunio ynddynt. Wrth benderfynu gwylio’r rhaglenni hyn, rydw i’n gwybod yn iawn beth i’w ddisgwyl, llofruddiaethau lu, a’r rheiny fel arfer yn rhai eithafol, creulondeb, a phwcedeidiau o waed, ond gyda’r da yn trechu’r drwg, fel arfer, ar y diwedd. Dyna’r ydw i’n yn ei ddisgwyl, a dyna’r wyf yn ei gael. Pam, felly, mae angen rhyw lais sebonllyd, ar gychwyn pob rhaglen, i’m rhybuddio fod y rhaglenni yr wyf newydd ddewis mynd i’w gwylio yn cynnwys ‘golygfeydd a allai eich tramgwyddo’, neu ‘ddigwyddiadau a allai amharu ar eich cyfansoddiad sensitif’.

Ond dyna fo, dyna yw natur ein cymdeithas bellach. Sawl gwaith y clywsom rybudd gan ddarllenydd y Newyddion, fod eitem am ryfel mewn un rhan o’r byd, neu newyn mewn rhan arall, yn ‘cynnwys golygfeydd a allai beri tramgwydd i rai gwylwyr’. Beth arall ydych chi yn ei ddisgwyl mewn rhyfel, neu newyn?  Pobl yn gwenu’n hapus, ac yn llyfu injia roc? Os ydych mor sensitif a hynny, peidiwch a gwylio’r newyddion, achos fe wyddom yn burion mai newyddion drwg a chreulondeb yw craidd newyddion o werth. Ond dydy cymdeithas y plu eira ddim yn hoffi wynebu creulondeb.

Plu eira, meddech, beth ydy’r rheiny? Mae dwy nodwedd i bluen eira. Yn gyntaf, mae pob un yn wahanol, yn unigryw, ac, yn ail, ac yn bwysicach o safbwynt yr erthygl hwn, mae plu eira yn bethau hynod o sensitif, yn dadmer ar ddim, dadmer a diflannu. A dyna ystyr y trosiad diweddar am y genhedlaeth sy’n codi, sydd wedi cael eu trwytho gan eu rhieni, eu teuluoedd, a’r gymdeithas yn gyffredinol,  i gredu eu bod bob un yn unigryw, ac mor groendenau fel y gall y peth croes lleiaf beri tramgwydd enfawr a difrod seicolegol difrifol ac anadferadwy iddynt. Dadmer a diflannu. Felly rhaid rhoi rhybudd cyn wynebu unrhyw beth a fedrai achosi’r ychydig lleiaf o dramgwydd.

Erbyn hyn, mae’r duedd wedi mynd yn rhemp, ac yn eithafol o wirion. Cymrwch y canlynol.

Mae rhai prifysgolion yn rhybuddio myfyrwyr fod gweithiau Shakespeare yn cynnwys golygfeydd treisgar a allai ddychryn. Yn waeth, gellir dilyn y cwrs heb astudio’r golygfeydd rheiny. Does dim llawer ar ol o Shakespeare wedyn. Ac onid yw’r mwyafrif o lenyddiaeth yn anastudiadwy, o ddilyn y canllawiau hynny – gan gynnwys llawer iawn o hwiangerddi. Gradd Saesneg yn cynnwys fawr ddim on Little Women a gradd yn y Gymraeg wedi ei seilio ar weithiau Eifion Wyn, a’i debyg. Byddai Taliesin ac Aneurin yn y fasged, yno hefyd weithiau’r Cynfeirdd a’r Gogynfeirdd, a’r rhan fwyaf o brif gywyddau beirdd yr Uchelwyr. Byddai, hyd yn oed, nofelau yr hen Ddaniel yn esgymyn.

A beth am y prifysgolion rheiny sy’n caniatau i fyfyrwyr astudio cyrsiau meddygol heb orfod wynebu gwaed. Neu osgoi sesiynau Criminoleg sy’n dangos, neu drafod erchyllterau. A sesiynau ymarferol gwyddonol allai beri i’r bluen eira ddadmer. Duw a’n gwaredo! I ble’r aeth synnwyr cyffredin. Os nad ydych yn llewygu wrth weld gwaed, dewiswch yrfa wahanol i feddygaeth i’w dilyn.

I ble mae’r duedd hon yn ein harwain? Beth am rybuddion ar hwiangerddi? Neu raglenni Cyw? Mae Meic y Marchog yn cynnwys trais, a Donna Direidi yn dangos drygioni! Gochelwch, blant bychain, rhag eich pechu a’ch llygru!

Yr un rheswm sydd y tu ol i  ‘lefydd diogel’, wedyn, lle mae myfyrwyr yn mynnu byw heb i neb eu tramgwyddo, dim sylw croes i’w barn, dim gwynt croes, dim byd i frifo eu teimladau tyner, dim gwrando ar neb na dim sydd ag arlliw o farn gwahanol i’r eiddynt hwy. Minnau wedi  credu erioed mai un o brif pwrpasau addysg oedd rhoi’r arfau i unigolion allu gwrthddadlau safbwyntiau croes. Erbyn heddiw, mae’n amlwg mai pwrpas addysg yw gwarchod pob pluen eira rhag y croes a all eu dadmer.Gwyn eu byd! Gobeithio yr ant trwy eu bywydau heb orfod wynebu dim sy’n peri tramgwydd, dim sy’n brifo eu teimladau, dim sy’n amharu ar eu diddigrwydd. Gobeithio, ond nefar in Iwrop, gwboi, nefar in Iwrop. Hoffi neu beidio, mae gan fywyd arfer annifyr o fod yn llawn dop o brofiadau annifyr, yn brofedigaethau cas, ac yn orlawn o ffernols croes sy’n mynnu cael barn wahanol i’r eiddoch chi.

A’r duedd bresennol o fagu croen-deneurwydd, trwy gael cwnsela am bopeth, fel petai cwnsela plant am greulondeb bywyd ddim yn rhan o gyfrifoldeb rhieni. Erbyn hyn, mae wedi cyrraedd y gweithle. Sylwch ar weithiwr sydd wedi cael profedigaeth. Fe gollais i fy rhieni yn yr 1980au, a’r rheol oedd y gallwn gymryd 5 diwrnod i ffwrdd o’m gwaith yn dilyn y brofedigaeth. A dyna wneuthum, fel pawb arall o’m cwmpas a gafodd brofedigaeth cyffelyb. Erbyn diwedd fy ngyrfa, roedd sawl gweithiwr, oedd yn cael profedigaeth, yn cymryd misoedd i ffwrdd o’r gwaith, gyda nodyn meddyg yn nodi eu bod yn dioddef o straen. Gwelais ambell un yn cymryd hyd at flwyddyn o’r gwaith, gyda chefnogaeth y meddyg, oedd yn amlwg ofn trwy’i din ac allan  peidio arwyddo’r nodyn absenoldeb salwch. Mae straen yn beth amhosibl ei ddeiagnosio, ond yn hynod o hawdd ei ddefnyddio, yn enwedig mewn achos llys. Heddiw mae cannoedd o achosion llys yn ceisio hawlio iawndal am wahanol resymau gan gleifion yn erbyn eu meddygon bob blwyddyn.Mae meddygon yn rhoi profion diangen a meddyginiaethau diangen i gleifion oherwydd fod arnynt ofn achos lys yn eu herbyn. Mae’r un peth yn wir am nodyn meddygol am straen. Yn ol Coleg Brenhinol Meddygon Teulu, erbyn hyn mae na ddiwylliant o fynd  a meddygon i’r llys os nad yw’r claf yn hapus.Tybed yw’r rhai sy’n dioddef straen wedi dioddef profedigaeth, sy’n aml iawn yn anochel oherwydd oedran yr ymadawedig, ac yn rhan o fywyd naturiol, yn caru eu rhieni un iot yn fwy nag yr oeddwn i, a’m cyfoedion, yn caru eu rhieni.

Llawer rhy greulon, on wedi mynd i’r pegwn arall erbyn heddiw, lle mae lapio pobol mewn wadin rhag realiti bywyd yn cael ei dderbyn, yn wir, ei annog, a hynny, mae’n debyg oherwydd ofn o achos cyfreithiol

Rhybuddion ar raglenni Cyw

Eto, onid rhan fawr o baratoi’r ifanc am fywyd, yw nid eu claddu mewn wadin, ac osgoi popeth anifyr, ond eu dysgu sut i ddygymod efo holl greulonderau’r daith, sut i wynebu profedigaethau, sut i wrando ar farn groes, a dadlau yn rhesymegol yn ei herbyn. Os na wnawn ni hynny, y cam nesaf, a hynny’n fuan iawn , fydd ein  cael ein hunain yn byw mewn byd Orwellaidd 1984 yn feddyliol, a, Duw a wyr, sut fath o fyd yn gorfforol

Ymddangosodd y rhefriad hwn gyntaf yn y cylchgrawn Barn