Bydd y ddalen hon yn cyfeirio at y duedd gynyddol, yn enwedig ymhlith myfyrwyr a’r ifanc, i wrthod yr hawl i eraill gael barn a safbwynt wahanol, ac, yn sicr, wadu’r hawl i neb frifo eu clustiau bach sensitif gyda safbwynt nad yw’n gydnaws a’u byw bach cysurus. Mae sawl dalen ar hy yn y wefan hon
Malala Yousafzai
Dyma ichi ferch ifanc eithriadol iawn, iawn o un o ardaloedd traddodiadol g. eidwadol Pacistan. Mae’n debyg ein bod i gyd yn gwybod am ei dewrder. Pan oedd yn 14 oed mynnai fynd i gael addysg, a mynnai hawl pob merch ifanc yn ei hardal a’i gwlad i gael yr un hawl; am hynny bu i benboethyn gwallgof ei saethu yn ei phen am feiddio herio’r safbwynt draddodiadol. Daethpwyd â hi i Brydain, lle cafodd driniaeth a ahubodd ei bywyd, dychwelodd i’r ysgol ym Mhrydain, graddiodd o brifysgol Rhydychen. Mae hi wedi teithio’r byd yn hyrwyddo hawliau merched, bu’n cyfarch y Cenhedloedd Unedig, ac enillodd Wobr Nobel am Heddwch. Dim yn ddrwg am ferch ifanc a ddathlodd ei phenblwydd yn 23 oed fis Gorffenaf eleni!
Ysywaeth, och a gwae, gwnaeth Malala gamgymeriad echrydus; fe ddangosodd gefnogaeth i un o’i ffrindiau personol, oedd yn ymgeisydd am gadeiryddiaeth Undeb Toriaidd Y Bryfysgol, ond gan nodi’n glir nad oedd hynny’n adlewyrchu dim ar ei chredoau gwleidyddol hi ei hun.
A dyna gyfle i’r troliaid twp,bondigrybwyll, y bwlis yn eu llofftydd ffenestri cyrtennog, hysio eu bytheiaid didrugaredd i ymosod. Bu i un twpsyn roi’r sylw craff y dylid dileu Prifysgol Rhydychen yn gyfangwbl os yw’n gallu troi rhywun fel Malala yn Dori; yn amlwg, twpsyn unllygeidiog oedd hwn, oedd wedi dewis peidio gweld sylw’r ferch ifanc am ei chred wleidyddol. Un arall, wedyn, yr un mor unllygeidiog, a’r un mor ddwl, yn ei chyhuddo o fod llygad ei gyrfa ei hun trwy fod yn Dori! Person craff iawn, mae’n amlwg; os myfyriwr yw, gobeithio nad yw’n astudio unrhyw bwnc sy’n gofyn am ddefnyddio rhesymeg – methiant llwyr fydd unrhyw ganlyniad! Un arall, llai trugarog, am ei gyrru yn ei hôl i’w gwlad ei hun; efallai y byddai’n syniad ei roi ef ar awyren i dir y taliban, er mwyn iddo gael sgwrs efo rhai cyffelyb eu trugaredd – sgwrs fer a thragwyddoldeb hir!
A dyna ni, aeth yr arwres fawr yn byped toriaidd yn llygaid rhai anoddefgar, isel iawn eu dealltwriaeth, o wyn i ddu mewn mater o eiliad, mewn un llofnod yn cefnogi ffrind. Ym myd y cyfryngau cymdeithasol, nid oes ond du a gwyn!
Yr hyn sy’n drist yn y sefyllfa hon yw ei bod wedi datblygu oherwydd agwedd ac ymateb y prifysgolion eu hunain. Dyma’r sefydliadau, dros y canrifoedd, oedd yn feithrinfa syniadau o bob math, yn annog syniadau’n ymdaro, yn chwennych dadleuon agored, gyda pob safbwynt, o bob cyfeiriad, yn cael eu rhoi yn y glorian, a’u pwyso yn ôl eu gwerth. Ond nid bellach! Aethant allan o’u ffordd i faldodi myfyrwyr, i sicrhau nad yw eu clustiau bychain, sensitif, yn gorfod cael merwino gan synau croes, cytunasant i alltudio barnau croes, a mynegwyr y barnau hynny; cafwyd lle diogel, lle roedd magwrfa barod, afiach i hunaniaeth myfïol, a sicrwydd rhag unrhyw wynt croes. Canlyniad hynny ydy cael plu eira croendenau, sensitif sydd wedi dod i gredu mai eu heiddo hwy yn unig yw’r gwir, a lle, os nad ydych wyn, rydych yn ddu.
Sefyllfa hynod o druenus, ond, yn waeth, sefyllfa hynod o beryglus. Does ond rhaid mynd am dro i edrych ar wledydd sydd, neu oedd, yn cael eu llywodraethu ar yr egwyddor hon.