Democratiaeth/ 4Wales C Ingland

Image result for democracy

Dros y dyddiau nesaf rydw i’n mynd i drafod rhai agweddau ar ddemocratiaeth, sef y gyfundrefn honno rydym ni yn weddol ffodus o fyw yn ei breichiau. Dydy hi ddim yn system berffaith, ond mae hi’n llawer gwell na sawl system arall o lywodraethu, megis awtocratiaeth, neu oligarchiaeth. Ond, fel y nodais, dydy hi ddim yn berffaith, er fod na ambell un yn honni’n wahanol. Mae sawl haeriad yn cael ei wneud am ddemocratiaeth, a’r rheiny’n bennaf, gan y sawl sy’n aelodau o ddemocratiaethau. Llawer o gamsyniadau, hefyd. Dros y dyddiau nesaf, fe fyddaf yn gwyntyllu ambell un.

Image result for democracy

Haeriad 1

Ym Mhrydain mae’r drefn ddemocrataidd hynaf yn y byd, gyda’n cyfundrefn yn mynd yn ei hôl i’r Magna Carta yn 1215.

 

Rybish! Os nad ydych chi’n Arglwydd neu Ddug, neu ffernols tebyg. Dim ond llais yr Arglwyddi oedd yn cael ei glywed am ganrifoedd. Yna’r uchelwyr llai, ac yna’r hogia newydd efo pres. Twll din y dyn cyffredin oedd hi. Democratiaeth i mi yw pleidlais i bob un o ddinasyddion gwlad. Dros chwe chanrif wedi arwyddo’r Carta mawr, roedd y Siartwyr yn brwydro am gael pleidlais i bob dyn, a chafodd ugain eu saethu’n farw yng Nghasnewydd am hawlio hynny. Cafodd yr arweinwyr eu carcharu, neu eu halltudio. Democratiaeth? Ceisiwch ddweud wrth y rhai a drowyd allan o’u tyddynnod a’u ffermydd yn dilyn etholiad 1868 eu bod yn byw mewn gwlad ddemocrataidd. Pleidlais i ferched, wedyn. Roedd fy mam yn ugain oed pan gafodd pob merch y bleidlais. Y flwyddyn honno, 1928, y cafodd pawb dros 18 oed y bleidlais. Roedd na sawl gwlad wedi rhoi pleidlais i bob dinesydd o flaen Prydain, gan gynnwys pob un o wledydd Llychlyn, Rwsia, Armenia, ac Azerbaijan. Felly, mae’r ddau haeriad yn y gosodiad uchod yn anghywir. Mae’r drefn ddemocrataidd go iawn yn bodoli ym Mhrydain ers 90 o flynyddoedd. Mae’n wir ei bod yn un o’r rhai cyntaf trwy’r byd,ond nid Y gyntaf, ac, yn sicr nid ers 800 mlynedd!

Mae pob pleidlais yn gyfwerth

 Rhannol wir. Mae’n hollol gywir dweud fod pob pleidlais yn gyfwerth wrth eu cyfrif, ond nid dyna’r gwir wrth ei bwrw. Mae pob pleidlais yn bell iawn o fod yn gyfwerth o safbwynt dod i benderfyniad sut i’w bwrw. Mae sawl ffactor yn gyfrifol am lunio barn cyn bwrw pleidlais. Y ffactor pwysig yw’r ffactor deuluol, gymdeithasol, neu grwp. Mae barn y mwyafrif llethol o berchnogion pleidlais wedi ei llunio gan eraill bob tro, a hynny yn anymwybodol i berchennog y groes. Yn aml, gall yr ‘eraill’ hyn fod yn deulu, yn enwedig os yw’r teulu yn un gwleidyddol. Eithriad prin yw aelod o genhedlaeth iau yn pleidleisio’n groes i arfer ei deulu. Dim llawer o feddwl ac ystyried safbwyntiau yma, felly. Mae’r un peth yn wir am y ffactor cymdeithasol. Mae ardaloedd helaeth yng Nghymru ble gellir pwyso pleidleisiau i un blaid, yn hytrach na’u cyfrif, gymaint yw’r pwysau cymdeithasol. Mae’r ffactor grŵp yn bwysig, hefyd, ond mewn ffordd wahanol, a hynny oherwydd fod unigolion yn tueddu i gymysgu gyda’u tebyg, yn rhan o ‘grwp’, boed bach neu fawr, a chydag eraill sy’n meddwl yr un fath a hwy. Mae’r grwp hwn, fel arfer, yn un cymdeithasol ( ond nid, o angenrheidrwydd er mwyn cymdeithasu ), ond gall fod yn is grwp gwaith, hefyd. Pan fo rhai o’r grwp mewn cyfyng-gyngor sut i fwrw pleidlais, maent yn dueddol, yn y pen-draw, o fwrw’r bleidlais honno fel y bydd y ‘grŵp’ yn ei wneud.

Mae hyn yn ein harwain yn anochel i’r casgliad mai lleiafrif bychan o’r rhai sy’n bwrw pleidleisiau sy’n ystyried dadleuon o blaid, ac yn erbyn, yn fanwl. Mae’r mwyafrif llethol yn bwrw pleidlais i’r un cyfeiriad yn ddiffael, waeth beth fo’r amgylchiadau, waeth beth fo’r dadleuon. Hyn sydd wedi rhoi bod i’r dywediad pe bai plaid arbennig yn gosod mochyn yn ymgeisydd, y bydda’r blaid honno’n ennill y sedd yr unfath. Dydy pob pleidlais ddim yn gyfwerth, felly, gan fod ffactorau gwahanol yn gyrru pob un

 Mae lleiafrif o bleidleiswyr yn pwyso a mesur yn fanwl cyn bwrw pleidlais

Dim ond yn wir gyda lleiafrif o’r lleiafrif. Mae’n ffaith ddiymwad fod canlyniad etholiad o unrhyw fath yn cael ei rheoli, nid gan y nifer sy’n bwrw pleidlais, ond, yn hytrach, gan y nifer sy’n newid eu meddyliau o un etholiad i’r llall. Ac, fel arfer, rhesymau unigol sydd gan y mwyafrif o’r rheiny am newid eu meddyliau. Y rheswm mwyaf twp imi ei glywed – ac rwyf yn ei glywed yn rheolaidd – yw y dylid rhoi cyfle i’r ochr arall yn awr. Hollol hurt! Dydych chi ond yn rhoi cyfle i rywun arall os oes ganddo ef/hi gynlluniau gwell, nid am ei fod yn rhywun arall yn unig. Mae un addewid, yn aml iawn, yn newid meddyliau llawer o bobl. Cymrwch etholiad 2017. Pan addawodd Corbyn, yn hollol gelwyddog a ffol, y byddai’n dileu dyledion myfyrwyr, daeth y rheiny allan yn eu miloedd i gefnogi ei blaid yn yr etholiad. Dim byd sosialaidd, dim ond hunanol.

Yr un mathau o resymau a’r rhain a nodais oedd yn gyfrifol fod Hitler wedi dod i rym yn yr Almaen yn 1933. Democratiaeth oedd wrth wraidd hynny. Yn yr etholiad cyntaf, derbyniodd ei blaid 28% o’r bleidlais, ond doedd neb yn barod i glymbleidio efo nhw, yn bennaf oherwydd eu polisi gwrth-Iddewiaeth. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, diolch yn bennaf, mae’n rhaid cyfaddef, i drais gan Grysau Duon y Natsiaid, fe enillodd plaid Hitler 44% o’r bleidlais. Doedd dim atal arno wedyn, oherwydd roedd y gyfundrefn ddemocrataidd wedi rhoi mandad iddo. Bu’r mandad hwnnw yn gyfrifol am ladd milynau ar filiynau o bobl, gydag thros 6 miliwn yn Iddewon yn cael eu difa.

Yn y refferendwm bondigrybwyll y llynedd pleidleisiodd nifer helaeth i adael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn atal mewnfudo. Roedd nifer helaeth o’r rheiny yn cwyno fod gormod o bobl liw ym Mhrydain, ac yn pleidleisio i adael yr Undeb i atal hynny. Does dim un wlad yn yr Undeb yn wlad lle mae’r boblogaeth yn boblogaeth liw! Faint o feddwl manwl aeth i hynny, tybed? Nifer helaeth o ardaloedd yn pleidleisio i adael , wedyn, yn ardaloedd lle nad oes fawr ddim mewnfudo o’r Undeb Ewropeaidd. Ardal Maesgeirchen yn gryf i adael, a does dim mewnfudo i’r ardal honno. Un o’r ardaloedd a bleidleisiodd gryfaf i adael oedd Blaenau Gwent, a dydy mewnfudwyr economaidd o Ewrop ddim wedi heidio i Flaenau Gwent dros y blynyddoedd. Os ydych yn fudwr economaidd, mynd i chwilio am wait her gwella’ch byd yr ydych, nid mynd i le dirwasgedig. Mewn achosion fel hyn, yr unig bwyso a mesur a wnaed oedd darllen un papur, neu wrando ar un person, ac yna gadael i seicoleg y grwp wneud ei waith.

Mae’r mwyafrif bob amser yn gywir

Rybish eto! Mae’r mwyafrif yn fwyafrif, ond dydy hynny ddim yn golygu eu bod yn gywir. Dydyn nhw ddim ond yn gywir os ydy’r penderfyniad yn cydweddu efo rhyw wirionedd sylfaenol, absoliwt, neu, mewn sefyllfa o farn, ble mae’r penderfynaid y mwyafrif yn cytuno efo’ch barn chi. Fyddai neb heddiw yn dweud fod y ffaith fod mwyafrif poblogaeth taleithau’r De yn yr Unol Daleithiau yn cefnogi caethwasiaeth cyn y Rhyfel Cartref yn gwneud caethwasiaeth yn gyfiawn. Pam ydych chi’n meddwl nad oes unrhyw lywodraeth Brydeinig am gynnal refferendwm ar adfer y gosb eithaf. Am y rheswm sylfaenol y byddai’r mwyafrif, am gyfunaid o’r rhesymau a nodais, yn glir o blaid ei hadfer. Yn wir, ac yn ddiddadl, byddai’r mwyafrif, hefyd, am ddod a chosbau diddorol ,megis chwarteru, dadberfeddu, llosgi wrth bolyn, yn eu holau, ynghyd a lledu’r gosb i sawl trosedd arall, fel yn yr hen ddyddiau da, pan nad oeddem yn rhan o unrhyw Undeb Ewropeaidd gwirion i’n llyffetheirio. Byddai’r mwyafrif yn croesawu boddi ambell i wrach ar bnawn Sul hefyd. Ond chawn ni byth mo’r refferendwm hwnnw, am fod rhai pobl gall yn gwybod beth fyddai’r canlyniad.

Dylem barchu, a chefnogi, barn y mwyafrif

Dim ond os ydym yn cytuno efo barn y mwyafrif. Fel arall, rybish llwyr! Mae’r ddadl hon yn cael ei chyflwyno’n rheolaidd heddiw gan gefnogwyr Brecsit er mwyn ceisio cael pawb i gydweld a hwy, a chefnogi’r ffiasco. Eu cred simplistig yw y dylai pawb oedd yn anghydweld a hwy, bellach newid eu safbwyntiau am fod y mwyafrif wedi llefaru. Roeddwn i, rydw i, ac fe fydda i, yn wrthwynebydd digyfaddawd i Brecsit. A ddylwn i yn awr newid fy marn a chefnogi proses na fedra i fyth gytuno efo hi am fod mwyafrif, sy’n cynnwys miloedd ar filoedd o senoffobiaid hiliol, miloedd ar filoedd sy’n deall dim ar fewnfudo, miloedd ar filoedd sy’n byw yng ngoleuni haul diflanedig yr hen Ymherodraeth Brydeinig a’r Raj, neu’n dal i frwydro mewn dwy Ryfel Byd, a miloedd ar filoedd o ddarllenwyr brawddegau unsill, ffiaidd y Deli Mel a’r Syn, wedi dweud y dylem dorri ein gyddfau. Doeddwn i ddim yn credu fod y mwyafrif yn gywir, a fydda i fyth yn meddwl hynny. Pam dylwn i rwan newid fy meddwl. Petai’r mwyafrif yn pleidleisio, o gael cyfle, i adfer y gosb eithaf, a ydych o ddifrif yn meddwl y byddwn, am eiliad, yn newid fy meddwl, a chredu fod y gosb eithaf yn gyfiawn, dim ond am fod haid o fytheiaid sy’n mynnu gwaed, wedi pleidleisio i gael hynny.

 mynegai5-feb-y-ddraig-goch

4 Wels c Ingland

Yn ddiweddar bu i arweinydd Plaid Cymru rybuddio y byddai Brecsit caled yn arwain i ddileu’r gwahaniaeth rhwng Lloegr a Chymru. Gallai Gogledd Iwerddon a’r Alban fynd eu ffordd eu hunain, meddai hi, a byddai hynny’n arwain i sefyllfa ble y byddai Lloegr, i bob pwrpas, yn traflyncu Cymru. Darlun tywyll dros ben. Fodd bynnag, nid proffwydoliaeth wag yw geiriau Leanne Wood, gan fod y traflyncu yn digwydd eisoes. Lol, meddech, onid yw Cymru’n bod o hyd yr ochr hon i Glawdd Offa? Ydy, meddaf innau, ond nid am dir, na gwlad ar fap, nac unrhyw ddiriaeth yr wyf yn son; ond am safbwyntiau, am agweddau, am feddylfryd. Ydy, mae Cymru ddiriaethol yn bod. Onid yw mwyafrif ein pobol yn gwirioni ar lwyddiant ein tim pêl-droed, a miloedd yn gweiddi eu cefnogaeth groch i’r tim rygbi cenedlaethol trwy dinau gwydrau cwrw? Ond nid yr un peth yw canu Hen Wlad fy Nhadau ar gychwyn gêm, a’i byw wedi’r chwiban olaf. Canu un anthem a byw un arall yw hanes mwyafrif trigolion Cymru. Mae’n wir fod lleiafrif bychan dewr yn brwydro yn erbyn y llif, ond bychan ydynt, a mawr yw’r frwydr. Oni fu i Iwcip, yn ei hanterth, gael yr un gefnogaeth yng Nghymru ag a gafodd yn Lloegr? Ni wnaeth Iwcip unrhyw grych ar wyneb dyfroedd yr Alban, ond llanwyd hwyliau ei llongau jingoistaidd yng Nghymru â gwynt cryf o’r dwyrain. A’r un ei chwymp disymwth o bobtu’r Clawdd. Y refferendwm wedyn. Dim gwahaniaeth o gwbl rhwng Cymru a Lloegr. 51.9% o bleidleiswyr Lloegr o blaid gadael yr UE, 52.5% yng Nghymru. Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn pleidleisio i aros, ond Cymru fel ci rhech Lloegr. Yna, ddiwedd Ebrill, dangosodd un Pol Piniwn fod y cynnydd yn y gefnogaeth i’r Toriaid yn Lloegr yn cael ei adlewyrchu yng Nghymru. Cyn ichi ruthro i ddangos imi rai o ganlyniadau’r etholiadau lleol, mae’r rheiny’n wahanol, gan mai pleidlais bersonol i ymgeisydd sy’n gyrru’r rheiny yn aml, ac nid ystyriaethau pleidiol. Ond fe ddangoswn ichi ganlyniadau etholiadau’r cynghorau yn rhannau gwledig, mwy Seisnig Cymru – yr un darlun cyffredinol â’r un yn Lloegr. Ble mae Lloegr yn arwain, mae Cymru yn dilyn yn slafaidd. Hen wlad fy Hope and Glory! Does dim angen Brecsit caled, Leanne, i Gymru ddiflannu, mae ei phobl eisoes yn rhuthro’n lemingaidd tua chlogwyn difancoll.

Ond pam, tybed, mae hyn yn digwydd? Mae’r ateb yn syml ble mae 20% o’r boblogaeth yn y cwestiwn. Dangosodd Cyfrifiad 2011 mai dyma’r gyfran o boblogaeth Cymru sydd wedi eu geni y tu allan i’r wlad, gyda mwyafrif llethol y rheiny wedi eu geni yn Lloegr. Mae’n naturiol, felly, fod mwyafrif y rheiny, wedyn, yn cario eu meddylfryd Seisnig gyda hwy yn eu pocedi cesail. Mewn tegwch, allwn ni ddim disgwyl i aelod o genedl arall sy’n mewnfudo yma droi’n Gymro, tra, ar yr un pryd, ddisgwyl i Gymro sy’n ymfudo i wlad arall barhau’n Gymro. Does dim tebyg i safonau deublyg!

Beth bynnag am hynny, erys 80% o’r boblogaeth a ddylai feddwl fel Cymry, gan mai yma y‘u ganed. Pam, felly, na wna’r rhan fwyaf? Yn hollol syml, oherwydd diffyg , a diffygion, cyfryngau torfol cenedlaethol, yn benodol yn y Saesneg. O leiaf, mae’r cyfryngau Cymraeg yn ceisio meithrin hunaniaeth,. Mwya’r tristwch, canran fechan iawn o’r Cymry Cymraeg, hyd yn oed, sy’n dewis cysylltu efo’r cyfryngau hynny. Teledu a radio cyfrwng Saesneg o Loegr mae mwyafrif ein pobl yn eu dewis. Hyd yn oed ar ein dwy sianel Saesneg ni, dim ond atodiad bychan lleol yw newyddion Cymru, o’i gymharu â’r newyddion pwysig sy’n dod o, yn canolbwyntio ar, ac yn adlewyrchu meddylfryd, Llundain a Lloegr. Mae’n debyg mai’r peth pwysicaf i’r rhai sy’n rhoi unrhyw sylw i’r atodiad o Gymru yw beth fydd tywydd trannoeth. Mae un gorsaf radio leol ar Ynys Môn yn darlledu newyddion yn uniongyrchol o asiantaeth yn Lloegr, newyddion Lloegr-ganolog pur – dim un gair am Gymru, heb son am Fôn. O weld y diffyg sylw i’n gwlad ar ein cyfryngau, ac o gofio nad yw trwch y Cymry yn dewis yr ychydig sianelau/ gorsafoedd sydd ar gael, er gwaethaf ymdrechion cynhyrchwyr rhaglenni newyddion y sianelau hynny, oes unrhyw ryfedd mai yr un â’u cymheiriaid dros y ffin yw meddylfryd y Cymry.

Ac, yna, mae’r wasg. Yn wahanol i wledydd eraill, nid oes gan Gymru wasg genedlaethol Saesneg, dim un papur cenedlaethol pur sy’n arwain a hyrwyddo barn, dim tarannu o blaid hunaniaeth Gymreig, fel sydd o safbwynt Lloegr yn y papurau sy’n llenwi parlyrau ein meddwl. Y Mail a’r Sun a’r Mirror a’r lleill sy’n meithrin yr hunaniaeth yn yr isymwybod, ac nid hunaniaeth Gymreig mo hwnnw. Nid yw papurau Llundain yn ystyried am eiliad fod angen unrhyw fath o sylw difrifol i Gymru. Ac mae hyd yn oed ein rhaglenni newyddion Cymraeg ar y radio yn trafod straeon papurau Llundain bob bore, sydd ond yn atgyfnerthu eu dylanwad. A heddiw ddiwethaf, ail brif stori newyddion Cymraeg Radio Cymru, oedd cynlluniau Theresa ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd wedi’r etholiad. Perthnasol iawn i Gymru, RC!

Ond, meddech, mae gennym ddau bapur sy’n rhoi sylw i faterion Cymru. Hollol wir, a, chwarae teg, maen nhw’n ymdrechu. Yn wir, yn ddiweddar, derbyniodd un ohonynt wobr am y papur lleol gorau. Ond dyna graidd y broblem; nid papurau cenedlaethol sy’n gosod safbwynt cenedlaethol Cymreig ydynt, ond papurau bro mawr, un i’r Gogledd, a’r llall i’r De. Fel papurau bro, maent yn ddigon cymeradwy, er fod tudalennau’r un a ddaw i’m ty i yn ddyddiol yn orlawn o hanesion achosion llys. Petawn yn rhoi coel arno ambell ddiwrnod, gallwn dybio nad oes dim ond drwgweithredwyr yn ein mysg – a’r rheiny’n ddrwgweithredwyr y Gogledd-ddwyrain gan mwyaf.. Ie, papurau bro mawr ydynt, a phapurau sy’n gwneud yn llwyddiannus yr hyn maent am ei wneud. Ond nid hynny yw gosod safbwynt, a meithrin a llywio barn cenedl.

A dyna pam mae trwch poblogaeth Cymru yn meddwl yn union fel trwch poblogaeth Lloegr. Papurau Llundain sy’n bwydo ein gwybodaeth a phennu lwybr ein meddwl. Gwnewch arbrawf bychan. Ewch allan i stryd leol, unrhyw stryd leol, a gofynnwch i ddeg person, ar hap, pwy sy’n rheoli addysg ac iechyd a thai yng Nghymru. Cewch weld wedyn beth yw effaith y cyfryngau Llundeinig ar drwch y Cymry. ( ac ambell Olygydd Radio Cymru!)

Na, Leanne, nid Brecsit caled fydd diwedd ein hunaniaeth fel cenedl, nid Brecsit caled fydd yn gyfrifol am inni gael ein traflyncu gan Loegr. Mae’n digwydd eisoes, mae’n draflyncu meddyliol, yn agwedd a safbwynt a barn, ac mae’n digwydd am nad oes gennym wasg a chyfryngau yn yr iaith Saesneg sy’n gosod safbwynt Cymru, yn arwain barn, ac yn meithrin meddylfryd o genedl, yn hytrach nag yn ategu’r meddylfryd mai atodiad ydym i’r byd mawr pwysig sydd rhwng Clawdd Offa a Môr y Gogledd. Hyd nes y cawn hynny, ein gwasg ddyddiol genedlaethol – ar bapur neu yn ddigidol – ysglyfaeth i’n traflyncu fyddwn.

A Brecsit, caled, neu feddal, neu unrhyw ddull arall, fyddwn ni ddim yma, dim ond fel y Western England a ragfynegwyd gan un o’n prif nofelwyr bron i dri chwarter canrif yn ol.

Ar wahân i adeg pan fydd gêm bêldroed a rygbi!

BORIS YN TYNNU I’R CANOL

Yn gyffredinol, fu’r Blaid Geidwadol ddim yn gyfforddus gyda datganoli o’r cychwyn. Wrth gwrs, dydy hynny ddim yn wir am bob aelod o’r blaid; mae’n blaid ag iddi ystod sylweddol o geidwadaeth, o’r dde eithafol i’r chwith meddal, ac, o’r herwydd, mae nifer o unigolion ‘chwith-meddal’ yn y blaid, nid yn unig yn gyfforddus gyda datganoli, ond yn ei gefnogi’n ymarferol. Fodd bynnag, y mwyaf i’r dde y saif unigolyn o Dori, y mwyaf anghyfforddus y mae gydag unrhyw ddatganoli sy’n peryglu undeb Prydain Fawr; onid yw ‘Unoliaethol’ yn rhan greiddiol o enw’r blaid.

Er ei bod yn aml yn anodd lleoli Boris ar ystod ei blaid, gan ei fod yn ymddangos yn debycach i gwpan mewn dwr na dim arall, yn sicr, nid yw i’r chwith o unrhyw ganol sydd i’r blaid honno. Gan nad yw ei Svengali, neu’n hytrach, ei Rasputin, Cummings, yn aelod o’r blaid y mae’n brif gynghorydd iddi, ni allwn ei leoli ef. Rhyfedd o fyd!  Beth bynnag, yn ôl at y mwnci ( yn ffigurol, felly).

Ystyriwch rai digwyddiadau yn ystod y misoedd cythryblus diwethaf hyn, er mwyn cael darlun cliriach.

Yn ôl Prif Weinidogion Cymru a’r Alban, dim ond unwaith y cysylltodd Boris gyda hwy yn ystod y pum mis mwyaf anodd yn hanes pethau ers yr Ail Ryfel Byd. Unwaith, a hynny pan oedd y tair gwlad yn gweithredu eu strategaethau eu hunain i fynd i’r afael â’r argyfwng cofidaidd. Mae hynny yn dangos un o ddau beth, un ai diffyg doethineb anarferol o fawr, neu amharch dychrynllyd o sarhaus bwriadol tuag at lywodraethau datganoledig etholedig y gwledydd hyn. Mae gen i syniad pur dda pa un sy’n wir.

Yn ddiweddar, wedyn, gyrrodd Prif Weinidog Cymru lythyr at Boris yn gofyn iddo adolygu’r sefyllfa hurt ble na chaniateir i drigolion yr ardaloedd hynny yn Lloegr sydd dan glo fynd i ymweld â’u cymdogion, ond maent yn hollol rydd i gario eu pla i unrhyw ran o Gymru. Ni thrafferthodd Johnson ateb y llythyr, fel petai hynny islaw ei sylw. Câf yr argraff mai ei safbwynt yw ei fod ef, fel Prif Weinidog Prydain Fawr, yn llawer pwysicach na phrif weinidogion israddol ‘taleithiau’ fel Cymru a’r Alban. Yn wir, adeiladodd ar y sarhâd o beidio ateb llythyr Drakeford yn uniongyrchol trwy sarhâd pellach, sef  gwrthod y cais mewn cyfweliad teledu. Yn y cyfweliad hwnnw pwysleisiodd ei safbwynt trwy ddweud ‘ We are one country’, a dyna ei safbwynt at ddatganoli mewn pedwar gair, niwsans diangen yw rhoi llywodraethau i’r gwledydd eraill, niwsans i’w anwybyddu yw seneddau’r Alban a Chymru.

Wedyn, dyna i chi sylw Johnson y byddai’n adeiladu ffordd osgoi twneli Brynglas,a hynny er fod datganoli yn golygu nad oes gan San Steffan hawl o gwbl ar faterion trafnidiaeth yng Nghymru, hynny a’r ffaith fod Senedd Cymru wedi gwrthod y cynllun eisoes. Yn ogystal, petai Johnson yn meddwl, yn hytrach na siarad gyntaf, byddai, hefyd, yn sylweddoli na fyddai gan unrhyw gynllun i ymyrryd ym materion ffyrdd Cymru obaith mul mewn grand national o lwyddo, gan fod pwerau statudol cynllunio yng Nghymru yn nwylo Senedd Cymru, ac na fyddai ei gynllun yn cael y caniatad angenrheidiol. Eto, nid y cynllun sy’n arwyddocaol, ond y meddylfryd y tu ol iddo. Un arall o gynlluniau trympaidd Boris yw’r ffordd osgoi, fel ei bont i Iwerddon, ond mae’r hyn sydd y tu ôl iddo yn llawer mwy sinistr, sef cred Boris y gall wneud unrhyw beth, a bod Senedd Cymru yn amherthnasol.

Mae’r meddylfryd toriaidd asgell-dde, a’r dde-o’r-canol hwn yn rhoi cwynion y llywodraethau datganoledig am fwriadau’r llywodraeth Doriaidd ar ôl Brecsit mewn golau cliriach hefyd. Y cwynion sylfaenol yw y bydd San Steffan yn cadw pwerau ddylai fod yn nwylo’r llywodraethau datganoledig, ac, yn wir, yn tynnu pwerau yn eu holau i Lundain o Gaerdydd a Chaeredin. Wrth gwrs, gwadu mae Boris, ond, a defnyddio geiriau Mandy Rice Davies ‘ He would, wouldn’t he’. Mae Simon Hart, a gweision bach eraill tebyg, yn mynnu mai rhoi mwy o hawliau i Gymru y bydd y setliad, ond mae gwleidyddion yn gallu taeru du yn wyn. Y gwir sylfaenol, na ellir ei wadu, yw mai canoli, nid datganoli, yw greddf ceidwadaeth a Cheidwadwyr, a chanoli yw greddf, a bwriad, Boris Johnson. Hynny sydd yn tu ol i unrhyw ymwneud, a phob diffyg ymwneud, sydd ganddo â Chymru a’r Alban.

Ymhellach, yn y cyd-destun hwn o ganoli, a datganoli, pa synnwyr cymesuredd sy’n rhoi’r hawl i un dyn yn Llundain, a hwnnw’n Sais, yn arwain plaid sy’n amherthnasol bellach yn yr Alban, i wrthod hawl i wlad gyfan benderfynu ei thynged ei hun, er gwaethaf y ffaith fod mwyafrif ei phobl am yr hawl hwnnw? Un dyn, o genedl arall, gyda chred unoliaethol, yn gallu gwadu hawl miliynau o bobl.

Ac mae’n debyg mai’r dyn hwnnw yw prif reswm yr Alban dros hawlio annibyniaeth, a’r prif arf sydd gan y rhai sy’n brwydro dros annibyniaeth