I’r rhai ohonom sy’n ddarllenwyr brwd mae na sawl gwahanol fath o lyfr sy’n cael ei ddarllen. Rydym, yn sicr, yn darllen y llyfrau hynny sydd o ddiddordeb inni. Wrth reswm, mae na bron cymaint o ddiddordebau ag sydd o wahanol fathau o lyfrau. Yn fy achos i, llyfrau ffeithiol sy’n denu fy mryd gan amlaf, a’r rheiny yn llyfrau hanes , fel arfer. Dosbarth arall o lenyddiaeth sy’n tynnu dŵr o’m dannedd yw ffuglen sydd wedi ei gyfieithu o ieithoedd eraill, yn enwedig nofelau ditectif o wledydd Sgandinafia. Ar fy silffoedd mae holl nofelau Mankell, Larsson, a Nesbo, ynghyd â phob math o lyfrau ffeithiol ar hanes, ac enwau lleoedd. Ac mae llawer o lenyddiaeth amrywiol yn y ddwy iaith yn trwmlwytho’r silffoedd fyrdd. Bendith mawr i mi yw fy mod yn ddwyieithog, gan fy mod yn gallu manteisio ar lyfrau yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Druaned ydyw’r uniaith
Na ŵyr ond llyfrau un iaith
Rheswm pwysig, ar wahân i ddiddordeb, am ddarllen math arbennig o lyfr yw dyletswydd. Gall y dyletswydd hwn fod yn wahanol fathau o ddyletswydd. Nodais eisoes y credaf mai bendith yw’r ffaith fod gennyf ddwy iaith i fanteisio ar y llyfrau a gyhoeddir ynddynt. Ond, yn fwy na mantais, credaf ei bod yn ddyletswydd arnaf i ddarllen y llyfrau Cymraeg a gyhoeddir. Ar un adeg, pan oeddwn yn iau, tueddwn i brynu pob lyfr a gyhoeddid yn fy mamiaith, a hynny, yn syml, am eu bod yn cael eu cyhoeddi. Y canlyniad, yn aml, oedd fod rhai llyfrau oedd yn llenwi fy silffoedd un ai ond yn cael eu bras-ddarllen, neu heb gael eu darllen o gwbl, hyd yn oed. Erbyn heddiw, oherwydd fod cymaint mwy o lyfrau yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg, a diolch am hynny, mae’n amhosibl imi brynu pob un. Mae fy nghyfrif banc yn hynod ddiolchgar am hyn! Ond mae pob un a brynaf yn cael ei ddarllen.
Dyletswydd arall sy’n gyfrifol pam fod nifer o lyfrau ar fy silffoedd nad ydynt, lawer ohonynt, hyd yn hyn, wedi eu darllen, er fod rhai yno ers sawl blwyddyn bellach. Y rhain yw’r ‘clasuron’, sef y llyfrau rheiny – Saesneg, gan amlaf – y dywed rhai pwysicach na mi y dylai pob person ‘diwylliedig’ eu darllen cyn iddo roi cic i’r bwced fawr. Oni ddarllenasoch y rhain, meddent hwy, ni ellwch hawlio eich bod yn ddiwylliedig. Rydw i ar fy ffordd, felly, i hawlio fy mod yn ‘ddiwylliedig’; o leiaf, mae’r arfau gennyf. Onid ydynt hwy, holl nofelau Dickens, a Hardy, a Conrad, a sawl awdur arall, yn rhythu arnaf oddi ar y silffoedd o’m cwmpas, y cyfan yn barod i’m diwyllio, a’r un ohonynt a’i gloriau eto wedi ei agor Rhyw ddiwrnod, fy hen gyfeillion, rhyw ddiwrnod …
Dyletswydd arall, er fod cyfrifoldeb yn air mwy addas, yw’r llyfrau hynny yr oedd, neu y mae, rhai ohonom yn gorfod eu darllen oherwydd ein gwaith. Fe dreuliais i gyfnod helaeth yn athro Cymraeg, gan ddysgu llawer iawn o ddysgwyr tuag ar arholiadau’r Safon Uwch yn yr iaith a’i llenyddiaeth. Er mwyn gwneud hynny’n effeithiol, roedd hi’n angenrheidiol darllen yn helaeth o gwmpas y gwahanol bynciau, gan gadw gwybodaeth a syniadaeth yn gyfredol. Eto nid dyletswydd na chyfrifoldeb oedd gwneud hynny mewn gwirionedd; yn hytrach, pleser ydoedd. Os oes gan unrhyw athro, neu athrawes, ddiddordeb gwirioneddol ac ysol yn ei faes, fel sydd gen i, y mae darllen am y maes yn bleser pur.
Ac, yn olaf, mae na ddosbarth helaeth o ddeunydd darllen na ellir ei ddosbarthu o dan yr un teitl, nac mewn unrhyw gategori penodol. Y rhain yw’r cylchgronnau, pamphledi, a’r llyfrau amrywiol sydd wedi tynnu’r sylw, neu ennyn diddordeb y funud. Yn aml iawn, arwynebol ac amrywiol yw’r cynnwys, wedi eu darllen yn gyflym, unwaith yn unig, mwynhau’r mwyafrif ar y pryd, ac yna eu anghofio. Yn aml iawn, bydd nifer o’r rhain, yn enwedig yn llyfrau yn eu plith, yn cael eu rhoi i ryw siop elusen neu’i gilydd, er budd y elusen, ac er budd y chwilotwyr brwd hynny sy’n cribinio’r cyfryw siopau yn feunyddiol am ddeunydd darllen ysgafn, difyr, unwaith-ac-am-byth, fel u gwneuthum innau pan yn eu prynu. Rhag ofn i rywun feddwl mai oherwydd fy natur trugarog yr wyf yn rhoi nifer helaeth o lyfrau i siopau elusen, brysiaf i egluro mai’r prif, efallai’r unig, gymhelliad am eu symud o’r silff i’r siop yw er mwyn gwagio peth ar fy silffoedd gorlawn fy hun; hynny gyda’r bwriad o fynd allan i chwilio am fwy o gyfrolau i gymryd eu lle.
Cyn gorffen, fe glywaf ambell un yn gofyn pam nad wyf yn cadw’r holl lyfrau ar y teclyn digidol hwnnw sydd mor boblogaidd heddiw. Wel, mae gennyf un o’r rheiny; fe’i prynais rai blynyddoedd yn ôl, bellach, gyda’r union fwriad o ysgafnhau’r silffoedd crwmlwythog. Fe’i defnyddiais hefyd, am gyfnod byr, ond bellach does gen i mo’r syniad lleiaf ble mae’r teclyn. Chymrais i ddim ato o gwbl, dydy darllen o’i sgrin ddim byd tebyg i droi dalennau llyfr, ac, yn waeth na dim, fedrwch chi mo’i fodio fel bodio llyfr. Felly, hen ffasiwn neu beidio, parhau i ddarllen llyfrau a wnaf i, darllen er mwyn pleser, a pheth dyletswydd, a pharhau i lenwi, a gwagio, silffoedd siopau elusen, a silffoedd fy nghartref
I’r rhai ohonom sy’n darllen llawer, mae’r rhan fwyaf o lyfrau a ddarllenwn yn rhai digon cyffredin, yn amrywio o’r diflas i’r difyr. Cânt eu darllen yn ddigon cydwybodol, ac, yna, fe’u gosodir ar y silff, lle yr arhosant, fyth i’w hail-ddarllen, os nad ydynt yn llyfrau cyfeiriadol, i droi atynt am wybodaeth bob hyn a hyn. Mae gennyf ddwsinau ar ddwsinau o lyfrau nad agorwyd eu cloriau ers eu darllen flynyddoedd yn ol, ond a gedwir, yn bennaf am resymau sentimental. Llyfrau Cymraeg yw’r rhain, gan amlaf, neu lyfrau Saesneg sy’n cael eu cadw am resymau megis pwy a’u rhoddodd imi, neu ble, pryd, neu pam, y’u cafwyd. Tynged nifer o lyfrau eraill, digon difyr yn aml, yw eu symud i siopau elusen er mwyn eu hailgylchu i sylw darllenwyr cyffelyb i mi.
Ond mae na lyfrau sydd y tu allan i ffiniau’r mwyafrif a nodais. Rhaid cyfaddef fod ambell un sy’n disgyn yn is na’r ffin, y llyfrau rheiny, am wahanol resymau, na allaf, yn aml, orffen eu darllen. Efallai mai arnaf i mae’r bai am y diffyg ymroddiad hwn, gan mai’r prif reswm am roi’r gorau iddynt ar eu hanner ( neu gynt ) yw diffyg dealltwriaeth o’r cynnwys, neu ddiflastod llwyr gyda’r hyn a drafodir. Tynged y rheiny, yn sicr, yw’r siop elusen, beth bynnag fo iaith y llyfrau.
Ond mae na lyfrau sydd uwchben y ffin cyffredinedd, nifer ohonynt, a dweud y gwir, sef y llyfrau rheiny sy’n mynnu darlleniad ar un eisteddiad ( neu un darlleniad sydd heb gynnwys darllen llyfr arall yr un pryd ). Mae’r rhain yn aros gyda rhywun am gyfnod hir. Yn gyffredinol, wedyn, disgyn y llyfrau hyn i ddwy garfan, Yn gyntaf, ceir y llyfrau hynny sy’n aros efo rhywun am byth, y llyfrau sydd a’u cynnwys yn aros yn fyw yn y cof am flynyddoedd, neu’r llyfrau hynny a ddarllennir dro ar ol tro. Mae gennyf nifer o’r rheiny ar fy silffoedd, fel sydd gan bob darllenwr arall. Nid af i’w henwi, gan mai llinyn mesur personol sy’n gyfrifol am leoliad pob un ar silffoedd pawb. Yn ail, mae’r llyfrau rheiny sy’n taro rhywun wrth eu darllen, ac yn gwneud argraff fawr ar y pryd, ond heb gyrraedd y garfan sy’n mynd i aros efo rhywun am byth.
Un o’r garfan olaf hon yw llyfr Saesneg yr wyf newydd ei ddarllen, sef ‘Hillbilly Elegy’ gan J D Vance. Hunangofiant yw’r llyfr, a hwnnw’n hunangofiant o’r Unol Daleithiau. Rwan, i Gymro Cymraeg, mae hunangofiant ymhell, bell o fod yn anghyffredin; onid ydym yma yng Nghymru yn crymu o dan hunagofiannau. Mae pawb a phopeth, sydd wedi gwneud unrhyw beth bychan o bwys, neu heb wneud dim byd o bwys, a dweud y gwir, wedi, neu yn, ysgrifennu hunangofiant. Ond mae ‘Hillbilly Elegy’ yn wahanol. Nid yn unig mae’n anghyffredin oherwydd mai 31 oed yn unig yw ei wrthrych, J D Vance; mae’n anghyffredin, hefyd, oherwydd ei fod yn hunangofiant diwylliant cyfan a chymdeithas sy’n prysur ddiflannu.
Mae’r awdur wedi ei fagu yn y gymdeithas honno o weithwyr cyffredin, sydd heb addysg uwch, a elwir yn ‘hillbillies’, cymdeithas sy’n ddisgynyddion, yn gyffredinol, o ymfudwyr Gwyddelig ac Albanaidd, ac yn gymdeithas sy’n ymestyn ar draws rhan helaeth o ddwyrain a chanolbarth yr Unol Daleithiau. Bu hon yn gymdeithas o weithwyr yn yr hen ddiwydiannau trymion. Bellach mae’r diwydiannau rheiny wedi mynd, a gadael y gymdeithas mewn gwagle, yn ddiwaith ac yn ddiystyr, yn byw mewn byd nad oes lle iddynt ynddo. Mae tair cenhedlaeth yn amlwg yn y llyfr, sef taid a nain yr awdur, ei fam, ac ef a’i gyfoedion. Cenhedlaeth y taid a’r nain yw’r un sydd wedi arfer gweithio’n galed, a byw’n galed hefyd. Pobl gyffredin, garw, ond gweithgar ydynt, yn barod i symud ar ôl y gwaith. Mae’n arwyddocaol mai gyda ei daid a’i nain y cafodd yr awdur ei fagu. Roedd hynny’n bennaf oherwydd fod ei fam yn perthyn i genhedlaeth iau. Mae hi’n nyrs, ond yn gaeth i gyffuriau, ac yn symud o un partner i’r llall, gyda phob un, yn ei dro yn ei churo a’i chamdrin. Mae hi’n perthyn i’r genhedlaeth sy’n colli gobaith oherwydd nad oes gwaith i’w gael, a’r byd yn eu gadael ar ôl. Ac yna mae cenhedlaeth yr awdur ei hun, cenhedlaeth sydd ddim am weithio, ddim am wneud unrhyw ymdrech, ac yn gweld bai ar bawb arall am eu cyflwr hwy o anobaith. Dyna’r disgrifiad o gydweithiwr iddo pan oedd yn llanc, dyn ifanc oedd yn cyrraedd ei waith yn hwyr bob bore, yn cymryd hanner awr o seibiant wedi awr o waith, ac yna’n rhoi’r bai ar ei gyflogwr pan gaiff ei ddiswyddo. Mae’r cydweithiwr hwnnw’n nodweddiadol o’i genhedlaeth. Wnaf i ddim difetha mwy ar y llyfr trwy ddatgelu mwy ar ei gynnwys. Digon yw dweud mai oherwydd iddo ddod o dan ddylanwad ei daid a’i nain, er eu garwed, a’u hegwyddor sylfaenol fod yn rhaid i bawb fod yn gyfrifol am ei lwyddiant ei hun, mai oherwydd hynny y mae’r awdur, yn y diwedd, yn llwyddo i ddod yn gyfreithiwr.
Pam mae’r llyfr wedi gwneud argraff, felly? Nid oherwydd yr awdur, nid oherwydd ei stori, ac nid oherwydd ei deulu. Mae’n gwneud argraff oherwydd ei fod yn gosod digwyddiadau cyfoes yn eu cyd-destun. Fel y nodais, cafodd ‘Hillbilly Elegy’ ei gyhoeddi yn 2015, ond, yn anfwriadol, mae’n egluro, a gosod cyd-destun, dau ddigwyddiad yn 2016, a hynny mewn dwy ran wahanol o’r byd. Mae’r llyfr yn dangos pam yr etholwyd Trump yn Arlywydd yr UDA, ac mae’n dangos pam y pleidleisiodd mwyafrif ym Mhrydain dros Brecsit. Yr un anobaith sydd yn y werin bobl yn yr UDA, ag sydd yng ngwerin cymoedd De Cymru, a’r un yw eu hymateb – rhoi’r bai ar bawb eraill, yn enwedig mewnfudwyr, a rhoi cic i’r sefydliad yn ei din. Mae Trump a Brecsit yn perthyn i’r un anobaith cymdeithasol, i’r un ymdeimlad o werin yn teimlo nad ydynt yn perthyn bellach, ac i’r hunglwyf a diffyg pwrpas sy’n codi o segurdod. Mae rhoi bai ar eraill am eich sefyllfa yn haws na’i hwynebu, a cheisio gwneud rhywbeth amdani. Dyna’r rheswm syml pam y mae’r UDA a Phrydain yn yr un sefyllfa, a dyna’r goleuni sy’n cael ei daflu ar y sefyllfa honno gan ‘Hillbilly Elegy’. Hunangofiant syml yw’r llyfr, ond fe’i goresgynnwyd gan ddigwyddiadau; oherwydd hynny, mae’n codi uwchben ei fwriad gwreiddiol. Mae’n llyfr gwerth ei ddarllen, ac wedi gadael argraff fawr – am y tro!
Mehefin 2019