Mae tri phrif bryder yn hyn o lith. Y cyntaf: chwi gofiwch yr hen Ddaniel, y llenor-deiliwr o’r Wyddgrug. Beth am ei stori fechan, Het Jac Jones ? Argyhoeddwyd Jac druan , oedd yn iach fel cneuen, trwy gyfrwng ailadrodd celwyddau ac edau o gwmpas ei het, i lusgo adref i’w wely yn ddyn sâl. Yr hyn a ddywed Daniel, ganrif a mwy yn ôl, yw os ailadroddwch chi gelwydd yn ddigon aml, y cymer amdano wisg gwirionedd. Hynny, wrth reswm, yw sail pob propaganda trwy’r oesoedd, boed hynny yn Ellmyn yn bwyta babanod, neu Stalin yn lladd gelynion y werin. Pwrpas y ‘celwyddau’ fel arfer yw cynnal ac ysbrydoli pobl yn nghyfyngder rhyfel, neu gyfiawnhau gormes llywodraeth. Ond mae pethau’n wahanol heddiw, a phetai Daniel yn fyw, gwelai het Jac Jones ac edau celwyddau yn nwylo llywodraethau ‘democrataidd’ gwladwriaethau ‘rhyddion’ mewn cyfnod o heddwch. Dyna brif yrrwr strategaethau Trump a’i gynghorwyr, sef dweud fod unrhyw wir, na chytunir ag ef, yn gelwydd, ac ail-adrodd celwyddau nes y byddant wir. Yn ôl y rhai sy’n cadw golwg ar grwydriadau geiriol Trump, bu iddo ddweud bron i 8,000 o gelwyddau yn 2019 yn unig . Ac mae na filiynau o Jaciau Jones sy’n ei gredu, ambell un yn gwybod yn well, ond am gadw ei swydd fras, ond y mwyafrif am fod y llinyn o gwmpas eu hetiau’n effeithiol. A’r ochr hon i’r Iwerydd, bellach mae gennym ninnau brif weinidog sy’n dweud y peth cyntaf ddaw i’w feddwl, boed hynny’n wir ai peidio, gan honni fod du yn wyn, a gwyn yn ddu, ac mae’r mwyafrif, er fod eu hadnabyddiaeth o liwiau yn berffaith, yn ei goelio. Mae dwy wladwriaeth ddemocrataidd wedi mynd i ddwylo arweinwyr a chynghorwyr sy’n poeni popeth am hunan-glod a grym, a dim am wirionedd ac egwyddor. Ac, fel Jac Jones, mae hetiau’r mwyafrif ohonom yn ein gyrru i’w coelio.
Ac i’r ail bryder ar ddechrau blwyddyn, mae hiliaeth ar gynnydd. Ers 2016 mae troseddau hiliol wedi mwy na dyblu; a dydy’r rheiny ond y rhai sydd wedi eu hadrodd i’r heddlu. Adroddir am fwy a mwy o achosion o hiliaeth mewn gemau peldroed, ac ar y stryd. Mae’r cynnydd cyffredinol yn deillio o sawl ffactor. I ddechrau, ni ellir gwadu fod hiliaeth cynhenid yn agos iawn i’r wyneb yn y natur ddynol. Yr unig beth sy’n ei gadw dan gaead yn y rhan fwyaf o achosion yw cyfraith, canfyddiad y gymdeithas ‘barchus’, ynghyd â datganiadau arweinwyr y gymdeithas honno. Unwaith y mae’r rheiny yn dechrau breuo, mae’r casineb yn brigo i’r wyneb. Mae nifer o’r honiadau a wnaed yn ystod cyflafan brecsit wedi cynnau fflamau casineb, yn erbyn cenedl a lliw a llun, ac mae agweddau, geirfa, a datganiadau sawl arweinydd trwy’r byd gorllewinol wedi rhoi olew ar y fflamau rheiny. Ymhellach, rhaid cofio mai dim ond yn ddiweddar iawn y rhoddwyd caead ar hiliaeth yn y byd gorllewinol – rhan ohono, beth bynnag. Dim ond yn 1965 y daeth y Ddeddf Perthynas Hiliol Hanner i fodolaeth ym Mhrydain, ac thua’r un pryd roedd y Deddfau Jim Cro yn eu grym yn yr Unol Daleithiau. Yn yr un cyfnod roedd Enoch Powell yn fawr ei gefnogaeth wrth darannu am ‘afonydd o waed’, tra’r oedd ei blaid yn cyhoeddi posteri etholiad yn haeru mai cymdogion duon fyddai canlyniad pleidlais i’w gwrthwynebwyr. Hanner canrif; cyfnod byr iawn i ddileu rhywbeth sydd wedi bodoli yn agored am filoedd o flynyddoedd. Onid yw hiliaeth yn rhan greiddiol, annatod, o imperialaeth a choloneiddio, sy’n cymryd fel ei sail a’i fan cychwyn fod un genedl, neu hil, yn well ac uwch na phob un arall? Dyna welwyd yn Statud Rhuddlan a’r Deddfau Penyd, dyna welwyd yn yr India, ac yn yr Affrig, ac yn arbennig felly gyda brodorion America ac Awstralia , lle’r anogai’r Llywodraeth eu difa, oherwydd nad oeddynt ddynol. Edau o gwmpas het, eto. Ydy, mae hiliaeth yn greiddiol i’r natur ddynol, a phan yw rhywbeth yn greiddiol, mae’n anodd iawn, iawn, os nad amhosibl, cael gwared arno; ni ellir ond ei orfodi dan yr wyneb a’i gadw yno gyda grym cyfraith a nerth gwladwriaeth. Wrth reswm, mae’n hanfodol fod pob cefnogwr peldroed, a phawb arall, sy’n hiliol, yn cael ei gosbi, a’i gosbi’n drwm, ond mae’n rhaid mynd llawer ymhellach na hynny; rhaid mynd i’r afael a’r broblem yn y gymdeithas, ac fe ddylid delio’n gadarn gydag unrhyw un o’i harweinwyr sy’n hyrwyddo rhagfarn mewn unrhyw ddull neu fodd, uniongyrchol neu anuniongyrchol, yn erbyn unrhyw hil neu genedl neu grefydd. Rydym yn rhy agos i’r holocost i anwybyddu beth yw pendraw agwedd hiliol arweinwyr, ac aelodau ein cymdeithas gyfan, boed hynny yn weithredol gefnogol, yn apathetig ddifater, neu’n ofnus lwfr. Na pheidied neb a meddwl mai problem peldroed yw hiliaeth, ac y bydd cosbi un clown rhagfarnllyd yn dileu problemau hiliaeth o’n cymdeithas. Y dychryn mwyaf yw fod hiliaeth yn ein plant. Mae cannoedd o blant oedran cynradd Prydain wedi eu heithrio o’u hysgolion yn 2019 am droseddau hiliol, dwywaith cymaint a 2018. Arwydd o ddyfodol truenus, canys onid fel yr oen y bydd ei lwdn?
Ac i’r pryder olaf ( am heddiw!). Yma, ym Mhrydain, yn chweched economi mwya’r byd, mae cynnydd cyson a sylweddol mewn digartrefedd a banciau bwyd. Mae’r edau o gwmpas yr het yn argyhoeddi’r mwyafrif ohonom mai yn y dioddefwyr y mae’r broblem, ac nid yn y gyfundrefn na’r gymdeithas. Alcohol, cyffuriau, a diogi sy’n gyfrifol, ac awn o’r tu arall heibio, yn gydwybod-dawel yn ein hetiau silc. Os torrwch yr edau, fe welwch y gwir. Y tu ôl i ddigartrefedd a banciau bwyd y mae gwanc cyfalafiaeth. Mae dros 70% o’r rhai sy’n gorfod mynd ar ofyn banciau bwyd mewn gwaith, ond nid yw’r cyflogau a delir yn ddigon i gynnal corff ac enaid, heb sôn am deulu. A daeth llywodraeth i dorri ymhellach ar gymorth ariannol y gweiniaid a’r tlodion, gan fanteisio ar ragfarn y rhai sydd â digon yn erbyn y rhai sydd â dim. Mae’n arwyddocaol, fod y sawl ( gair sy’n odli efo ‘diawl’) sy’n gyfrifol am dorri arian y tlodion a’r anabl newydd gael ei urddo’n farchog. Trechaf, treisied, gwannaf, gwaedded!
Fe’ch gadawaf gyda chwestiwn. Ydy’r cynnydd cyson mewn darpariaeth banciau bwyd yn arwydd o gonsyrn cymdeithas wâr am ei gweiniaid, neu’n arwydd o ddifaterwch llwyr arweinwyr sy’n malio’r un botwm corn am weiniaid ein cymdeithas, dim ond am dynhau’r llinyn o gwmpas yr het, er mwyn ein argyhoeddi fod du yn wyn?
Ymddangosodd yr erthygl hwn gyntaf yn y cylchgrawn Barn