Hyfforddi Athrawon

 

PRINDER YMGEISWYR I HYFFORDDI FEL ATHRAWON

 Rhyddhawyd ystadegau gan y gwasanaeth addysg UCAS yn yn y dyddiau diwethaf fod cwymp o dros 25% yn nifer y graddedigion o Gymru sydd wedi gwneud cais i hyfforddi fel athrawon o’i gymharu â blwyddyn ynghynt. Mae ystadegau newydd yn dangos mai 740 o bobl oedd wedi gwneud cais erbyn canol Rhagfyr 2017, o’i gymharu â 1,000 o ymgeiswyr yn yr un cyfnod yn 2016 a 1,010 yn 2015.Daw hyn er i Lywodraeth Cymru gyflwyno cymhellion ariannol hael ar gyfer pynciau fel Cymraeg, Ffiseg, Cemeg a Mathemateg. Mae’r nifer o geisiadau i hyfforddi i ddysgu Cymraeg fel pwnc uwchradd 29% yn llai na’r un cyfnod yn 2016. Does dim rhaid dweud y bydd gan hyn oblygiadau mawr a phell-gyrhaeddol i addysg yng Nghymru yn y blynyddoedd sydd i ddod, ac yn enwedig felly i addysg cyfrwng Cymraeg. Os pery’r duedd bresennol, ni fydd digon o athrawon i gynnal y ddarpariaeth bresennol, heb son am ymgyrraedd at darged y Cynulliad o gael 50% o’r boblogaeth yn rhugl yn yr iaith erbyn 2050.Fodd bynnag, nid y sefyllfa bosibl ( neu’n hytrach y sefyllfa debygol ) ddylai fod yn hawlio ein sylw ar hyn o bryd, ond sefyllfa heddiw. Nid gofyn beth fydd effaith y gostyngiad yn y nifer a hyfforddir fel athrawon yn y dyfodol ddylem ei wneud      ( Nid oes angen pelen risial i ddarogan hynny! ), ond, yn hytrach gofyn pam fod gostyngiad mor sylweddol.

Gofynnwn y cwestiwn, felly, ac, fel gyda’r mwyafrif o gwestiynau penagored ( Tacsonomi Bloom, gyfeillion! ), does dim un ateb syml. Gyda llaw, a sôn am atebion syml, dydy cynllun y Llywodraeth i daflu arian at broblem prinder ymgeiswyr o safon mewn rhai pynciau , ddim yn dŷ sydd wedi adeiladu ar graig. Rhoddir y cymhorthdal o £20,000 i rai sydd wedi cael gradd dosbarth cyntaf yn un o’r pynciau dan sylw. Rwan, mae gradd dosbarth cyntaf yn glodwiw dro ben ( er nad yw gymaint o gamp ag a fu, gan fod cymaint o raddedigion yn derbyn gradd dosbarth cyntaf erbyn hyn – 24% o’r holl raddau a ddyfarnwyd yn 2017, canran sydd wedi dyblu mewn 10 mlynedd ). Ond dydy gradd dosbarth cyntaf ddim ynddi’n hun yn gwneud athro/ athrawes dda. Yn ystod fy ngyrfa gwelais sawl un, oedd yn berchen ar raff o raddau ac uwch-raddau, na fedrent ddysgu pader i berson. A gwelais nifer, oedd efo graddau llai clodwiw, a allai ddysgu i fochyn hedfan, os mai hedfan oedd uchelgais y mochyn, wrth reswm. Os am dargedu arian sylweddol i ddatrys prinder, dylid ei ddyfarnu i’r hyfforddeion hynny sy’n profi eu hunain orau gyda dosbarth. Gellir bod yn sicr, wedyn, mai’r athrawon gorau yn y meysydd sy’n cael eu denu.

Fodd bynnag, yn õl at y gostyngiad yn yr ymgeiswyr. Mae llawer iawn o ddewis swyddi i raddedigion heddiw, y rhai sydd wedi ennill y graddau gorau, hynny yw. Dydy hi ddim mor hawdd i’r rhai sy’n graddio o rai prifysgolion, mewn rhai pynciau, a chyda gradd is na’r ail ddosbarth. Am y gweddill, mae digon o ddewis iddynt.. Hanner canrif yn ôl doedd dim prinder swyddi i raddedigion, ond roedd prinder amrywiaeth swyddi. Roedd graddedigion yn mynd yn athrawon, yn amlach na heb Heddiw, y gwrthwyneb sy’n wir. Mae na gymaint o wahanol fathau o swyddi, fel fod yn rhaid i berson ifanc fod yn wirioneddol eisiau bod yn athro/ athrawes i wneud cais am hyfforddiant. Fodd bynnag, mae’n amlwg fod llai ohonynt yn deisyfu hynny, ac mae mwy nag un rheswm am hynny

Yn sicr, nid yw’r swydd, bellach, yn ymddangos yn un ddeniadol, er gwaethaf hysbysiadau sebonaidd y Llywodraeth. Mae na ganfyddiad ymhlith llawer o fyfyrwyr heddiw fod dysgu yn waith caled iawn, a’i fod yn golygu rhoi llawer iawn o amser i baratoi a marcio, a gwneud gwaith papur diddiwedd. Yn anffodus, nid canfyddiad ydyw, ond realiti. Wrth gwrs fod dysgu yn waith caled; mae pob swydd gyfrifol, sy’n talu’n weddol dda, yn golygu gwaith caled. Ac, wrth fod yn athro, rydych yn gyfrifol am ddyfodol nifer helaeth o unigolion, ac mae hynny’n gyfrifoldeb sylweddol, a dychrynllyd, yn aml. . Ond fe fu hi felly erioed. Fodd bynnag, erbyn heddiw, aeth y pethau o gwmpas yr addysgu yn bwysicach na’r addysgu ei hun, a hynny sy’n gwneud y swydd yn anneniadol.

Y paratoi. Mae paratoi ar gyfer gwersi yn hanfodol, ond nid i’r graddau eithafol a ddisgwylir gan athrawon heddiw. Pa berson ifanc sydd eisiau treulio’r rhan fwyaf o’i amser ‘hamdden’ yn paratoi ar gyfer y gwaith, a hynny, gan amlaf, yn waith paratoi ar gyfer y ‘system’, nid ar gyfer addysgu’r disgyblion. Paratoi er mwyn paratoi, nid paratoi er mwyn gwers!

Yr asesu. Mae hyn yn rhan bwysig iawn o addysgu, gan ei bod yn hanfodol dangos parch i ddisgybl trwy roi’r sylw dyladwy i’w waith. Wn i ddim am unrhyw athro fyddai’n cwyno am yr asesu. Fodd bynnag, y mae rhai o’r ‘awdurdodau’ sy’n britho byd addysg yn mynnu gwneud yr asesu yn fwrn. Disgwylir i athrawon gael pensiliau o wahanol liwiau i ddangos gwahanol fathau o wallau. Yna cofio symbolau gwahanol i dynnu sylw at y gwallau. Ac mae angen sylwadau manwl ar ddiwedd y gwaith, a wiw i’r rheiny fod yn rhai negyddol, rhag brifo teimladau’r disgyblion, wrth reswm. Rhyw ddeuddeng mlynedd yn ôl, oherwydd y pwysau gwaith annioddefol ar athrawon, cytunodd y Llywodraeth i roi 10% o amser digyswllt i bob athro/athrawes er mwyn paratoi a marcio. Digon teg, ond 3 gwers yw 10%! Wn i ddim am unrhyw athro, neu athrawes, mewn ysgol uwchradd, all farcio gwaith y 200 o ddisgyblion, a mwy, y mae’n ei haddysgu, mewn 3 gwers.

Y gwaith papur, a chofnodi, diddiwedd ar bob agwedd o waith a bywyd pob disgybl unigol. Mae’r gwaith cofnodi hwn yn cynyddu’n ddyddiol ym mhob proffesiwn, ond, yn sicr, y byd addysg yw’r proffesiwn ble mae’n cyrraedd lefelau annioddefol ac annerbyniol.

Y pwysau o’r tu allan. Mae athrawon dan bwysau anhygoel o bob cyfeiriad. Mae angen gwella ar bob gwelliant yn gyson, a llwyddo y tu hwnt i bob llwyddiant. Unwaith y cyrhaeddir targed, fe osodir targed uwch. Ac, os na chyrhaeddir targed, bai’r athro yw bob tro, nid bai’r disgybl. Llwyddiant y disgybl, ond methiant yr athro! Rhoddir pwysau cyson, trwy Estyn, Gwe a’u tebyg, a’r Awdurdodau Addysg. Daw’r pwysau trwy’r Penaethiaid, i’r Uwch Dim Rheoli, i’r Pennaeth Adran, nes cyrraedd yr athro cyffredin ar waelod y gadwyn fwyd. Dyletswydd Pennaeth, pan oeddwn i yn y felin rai blynyddoedd yn ôl, oedd cadw’r pwysau oddi ar fwyafrif yr athrawon, oedd yn gwneud eu gwaith yn effeithiol, gan roi pwysau yn unig ar yr ychydig athrawon nad oeddynt mor effeithiol. Erbyn heddiw, mae’r pwysau ar bob athro, y rhai effeithiol yn ogystal â’r rhai nad ydynt gystal. Does dim i’w ennill mewn sefyllfa o’r fath. Ond mae popeth i’w golli! Pan fydd moral yn mynd, bydd y cyfan yn mynd.

Y pwyslais ar ganlyniadau. Mae’r syniad fod addysg yn llawer mwy na chanlyniadau arholiadau wedi hen ddiflannu. Er y telir gwrogaeth yn arwynebol i feithrin sgiliau cymdeithasol, diwylliannol, a chwaraeon, y sefyllfa real yw mai canlyniadau arholiadau yw’r unig fesurydd go iawn o lwyddiant ysgol.

Y pwyslais ar rai pynciau, ac agweddau, yn unig. Er na chydnabyddir hynny’n agored, mae’n amlwg, bellach, mai’r unig bynciau sy’n cyfrif yw Iaith a Mathemateg, gyda Gwyddoniaeth yn rhyw ddilyn y tu ôl iddynt. Llwyddiant ynddynt hwy yw’r prif fesurydd mewn arholiadau. Prif bwrpas pob pwnc arall yw cyfrannu at Lythrennedd a Rhifedd. Os mai hanesydd brwd ydych, a fyddech chi am fynd yn athro Hanes mewn ysgol, dim ond er mwyn cyfrannu at Lythrennedd? Ac os mai Cerdd yw eich maes, onid eich sarhâu yw eich gorfodi i lwyddo mewn prawf Mathemategol cyn medru hyfforddi i feithrin doniau cerddorol disgyblion?

Dirywiad cymdeithas yn gyffredinol. Heddiw, mae angen i ysgolion ddysgu pob un sgil, gan gynnwys defnyddio cyllell a fforc, i ddisgyblion. Ymddengys nad oes gan rieni unrhyw gyfrifoldeb i wneud dim i’w plant bellach, ar wahan i brynu tabled a thalu am datw iddynt.

Y dirywiad sydd yn ymddygiad disgyblion. Dydy ymddygiad pob disgybl ddim wedi bod yn berffaith erioed, ond roedd dulliau o ddelio gyda drwg-weithredwyr dros y blynyddoedd. Heddiw, ymddengys mai bai ysgolion yw camymddwyn disgyblion. Yn ôl y gwybodusion modern, diffyg diddordeb yng ngwersi athrawon unigol sy’n gyfrifol am bob camymddwyn. Rhyw wendid yn y wers sy’n achosi camymddwyn, hyd yn oed, yn y mwyaf drygionus o ddisgyblion.Gall hynny fod yn wir mewn ambell achos, ac mae na athrawon sy’n methu rheoli’r gorau o ddisgyblion. Ond cau llygad i ddiffygion cymdeithas, ac unigolion, yw rhoi’r bai ar yr athrawon. Mae disgwyl i ysgolion fedru delio efo rhai disgyblion na all teulu, gwasanaethau cymdeithasol, na’r heddlu ymdrin â hwy. A chuddio’r broblem yw rhoi pwysau ar ysgolion i beidio gwahardd disgyblion hollol anystywallt.

Y diffyg parch cyffredinol gan gymdeithas. Gynt, bu rhyw barchus ofn o athrawon gan y gymdeithas yn gyffredinol; roedd hynny ynddo’i hun yn anghywir. Ond erbyn hyn pwysodd y glorian yn llwyr i’r ochr arall. Mae rhai rhieni yn gweld bai ar athrawon am bopeth, ac maent yn rhuthro i’r cyfryngau cymdeithasol i bardduo athrawon eu hannwyl blant diniwed. Ac, yno, gallant ddweud unrhyw beth, heb fod yn atebol.

Coeliwch chi fi, mae addysgu ei hun yn bleser pur. Nid oes yr un teimlad gwell na gweld disgybl yn llwyddo, a gwybod mai chi fu’n gymorth i hynny ddigwydd. Fel gwrthbwynt i’r pleser hwnnw, mae elfennau digon annifyr wedi bod yn y proffesiwn erioed. Erbyn heddiw, mae ‘arbenigwyr’, awdurdodau, arolygwyr, ymgynghorwyr, sawl asiantaeth, gwleidyddion, a’r gymdeithas ei hun, yn gwneud eu gorau i sicrhau fod yr elfennau annifyr a nodir uchod yn gorbwyso’r pleser, ac yn argyhoeddi’r mwyafrif o raddedigion nad yw bod yn athrawon yn ddeniadol.

A dengys y data diweddar eu bod nhw’n llwyddo!

Ymddangosodd y rhefriad hwn gyntaf yn y cylchgrawn Barn