Dafydd Fôn Hydref 22 2020
Un o eiriau Ifas, Drefain, Cariar ydy ‘dignit’, ac roedd yn un o’i werthoedd sylfaenol; hyd yn oed, pan fyddai rhywun â’i din i fyny ar ôl gormod o ddiodydd poethion, rhaid oedd wrth ‘ddignit’ -roedd yn gywilydd ymddwyn yn goman,hyd yn oed mewn sefyllfa o’r fath. Rhaid i ddyn gadw ei ddignit, waeth beth fo’r sefyllfa. Ymhellach roedd hi’n hollol hanfodol i ddyn busnes, i ddyn o sylwedd yn ei gymdeithas, i ddyn ‘pwysig’ beidio, o dan unrhyw amgylchiad, golli ei ddignit. ( A chyn imi gael fy lambastio, rydw ‘n defnyddio’r gair ‘dyn’ fel enw diryw, yn golygu person, nid enw sy’n dynodi ‘gwryw‘)
Dyn busnes ydy’r Trump, hefyd, draw dros y don, ac mae ganddo yntau safle yn ei gymdeithas, ond dyna ble mae’r gymhariaeth rhyngddo ef ag Ifas yn darfod. Y mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, efallai y person gyda’r safle amlycaf yn y byd gorllewinol, yn meddu ar gryn dipyn llai o ddignit na mochyn yn drenglian mewn mwd. Nid yn unig nid oes ganddo ddignit, nid oes ganddo, ychwaith, rithyn o ots. Yr hyn sy’n waelodol i ddigniti yw hunan-barch, sef yr angen i sicrhau nad yw’r byd allanol yn eich gweld ar eich gwaethaf, yr awydd i ddangos, hyd yn oed yn yr adfyd truenusaf, eich bod yn gallu codi ar eich traed. Nid oes unrhyw ots gan y Trump sut y mae neb yn ei ganfod, a chyfyd hynny o’r grêd narsisitaidd nad oes dim pwysicach nag ef ei hun. Os credwch eich bod yn anffaeledig, ac yn oll-bwysig, yna dyw barn groes meidrolion yn golygu dim; mae’n amlwg eu bod yn anghywir. Yr unig farn rydych yn rhoi sylw iddi yw honno sy’n cefnogi eich barn chi. Mae unrhyw farn bositif i’w chymeradwyo, gan ei bod yn cefnogi a chadarnhau eich anffaeledigrwydd. Hynny sydd wrth wraidd y feirniadath drympaidd fod unrhyw ffeithiau gwrthwynebus yn ‘fake news’. Gan ei bod yn feirniadaeth ac yn negyddol, mae’n amlwg yn gelwydd. Syml!
Y nodwedd narsisistaidd hon yng nghymeriad Trump sy’n egluro nifer o’r weithredoedd. Byddai’r mwyafrif o bobl yn ei sefyllfa yn wyliadwrus iawn o agor eu hunain iunrhyw gyhuddiad o nepotistiaeth neu fanteisio ar ei swydd er budd personol, eithr nid y narsisydd digydwybod. Ei brif gynghorydd yw ei fab yng nghyfraith, dyn sydd â chymaint o gwybodaeth a phrofiad yn y maes ag sydd gen i. Un arall yw gwraig hwnnw, merch Trump; gan mai un rhan o’i dyletswyddau yw cynghori ar addysg mae’n debyg y gallwn hawlio fod gen i fwy o brofiad na hi i wneud y gwaith. Eto, mae’n sicr mai’r prif gymhwyster sydd gan y ddau yma yw na fyddent ddim yn croesi Trump, dim ond ategu ei farn, pa mor wallgo bynnag fo honno. Am y cynghorwyr eraill, tra’u bod yn cefnogi Donald, maent yn ddiogel, ond os anghytant ag ef, gwae hwy – y lôn a bytheirio enllibau trydaraidd fydd eu rhan! Aeth y person gorau yn y byd yn drychines, a’r salaf yn y byd o beidio llyfu tin y trwmp. Eithaf enllib Ifas i’w weithwyr oedd ‘ew, dyffar, Jo’. ond roedd y ddau yn dal yn fêts yn y bôn; does dim bod yn fêts yn bosib efo Donald, dim ond cowtowio ac addoli.
A sôn am enllibio, dyna unig ddull y dy hwn o ddadlau, ei arfau yw arfau plentyn bach yn iard yr ysgol, neu berson yn ei ddiod ar y stryd, defnyddio’r arfau ciaridymaidd traddodiadol, sef galw enwau, pardduo, enllibio, bychanu. Nid dyna arfau traddodiadol gwladweinydd parchus, ac nid geirfa gwladweinydd parchus yw’r eirfa, geirfa a sylwadau ydynt, yn gyffredinol, sy’n hollol wag o unrhyw ddignit. Dyma ichi ambell enghraifft
Am un o farnwyr mwyaf blaenllaw yr UDA, Ruth Bader Kinsburg, oedd yn cael parch cyffredinol o ddwy ochr i’r spectrwm, trydarodd
“an incompetent judge!”“has embarrassed all by making very dumb political statements about me”“Her mind is shot”
Am Steve Bannon, dyn a benodwyd, ac a ddiswyddwyd gan Trump
“Sloppy Steve”“cried when he got fired”“begged for his job”
Galwodd yr ymeisydd am yr Is Arlywyddiaeth yn anghenfil.
Does dim angen mwy i ddangos diffyg digniti arlywyddol Donald Trump. Mae’n llwyr gredu y dylid ei addoli fel Arlywydd, ac fel person, nad oes gan neb yr hawl i’w feirniadu na’i wrthwynebu, a’i bod yn addas i Arlywydd siarad fel ciaridym mewn gwter, gan sarhau a sbeitio unrhyw wrthynebwr a beirniad; un ai hynny, neu nad yw’n gwybod yn wahanol.
Dyna ichi onestrwydd wedyn. Un ffaith sicr yw fod ef a’i deulu wedi manteisio yn ariannol ar ei arlywyddiaeth; bu i’w wahanol eiddo trwy’r byd ennill bron i 2 biliwn o bunnau yn ystod 3 blynedd cyntaf ei arlywyddiaeth. Gwnaed hynny trwy ymweliadau personol gan yr Arlywydd a’i deulu – rhai cannoedd ohonynt dros y cyfnod – gydag angen llety i’r holl swyddogion cefnogol. Yn ogystal, byddir yn hysbysebu llety i bobl sydd am aros mewn eiddo ar yr un pryd â’r Arlywydd. Fe gynigiodd Trump un eiddo ar gyfer cyfarfod o’r G7, ac nid oedd yn deall pan fod gwrthwynebiad cyffredinol i hynny, er gwaetha’r ffaith y byddai miliynau o bunnau yn dod i’w boced bersonol o’r gynhadledd, a bod elwa’n bersonol gan Arlywydd yn gwbl groes i’r gyfraith. Dim dignit, hwnna ydy o! Dim crebwyll, chwaith!
O ran ei natur bersonol, mae Trump, trwy’i fywyd wedi dangos ei hun yn gelwyddgi ac yn dwyllwr, ac mae ei hanesion yn twyllo ar y cwrs golff yn chwedlonol. Aeth â’r nodweddion hyglod hyn gydag ef i’r Ty Gwyn. Pan roddwch hyn ol ar ben y ffaith nad yw erioed wedi galu cadw cyfaill, oherwydd ei fod yn defnyddio pobol i’w fwriad ei hun yn unig, ac yn eu bwrw o’r neilltu pan fo’r bwriad wedi ei gyflawni, neu pan nad ydynt o werth i’r bwriad.
Pan edrychwch chi ar hyn yn ei gyfanrwydd,fe welwch nad diffyg dignit ydy’r cyfan o’r diffygion sydd i Arlywydd presennol yr UDA: narsisydd digydwybod, hunanol, tywyllodrus, na ellir ymddiried ynddo, sy’n defyddio pobl, ac yn dadlau trwy enllibio, a siarad fel baw’ gwter. Eto,mae ganddo gefnogaeth sylweddol yn yr UDA. Tybed ydy hynny yn dweud llawer mwy am natur y cefnogwyr nag am yr un a gefnogir?
Dyn busnes bychan, llwyddiannus ( efo dau dryc! ), oedd Ifas, Drefain, Cariwr, dyn digon amrwd ei syniadau a’i iaith, ar adegau, ond, trwy’r cyfan oedd ganddo ddignit! Fyddai neb wedi ei ethol yn gynghorydd, a fyddai, byth bythoedd, wedi dod yn Gadeirydd y Cyngor Sir. Eto, gyda’i ddignit, byddai Ifas yn llawer mwy addas a gweddus i swydd gyhoeddus, nag yw Trump.