Ymddiriedaeth 21.10.20

Fe ddywedodd un athronydd o’r hen fyd unwaith fod tri, a dim ond tri, hanfod i lywodraeth, sef rhoi tri pheth i’r bobl, bwyd, arfau, ac ymddiriedaeth; os deuai’n adeg o gyfynger gellid hepgor y ddau gyntaf, ond rhaid cynnal ymddiriedaeth i’r pen olaf – pan gyll y bobl ymddiredaeth yn eu llywodraeth, mae hi ar ben arni.

Beth yw ymddiriedaeth? Mae’r ateb yn syml, ac mae’n hynod o gymlheth yr un pryd. Yr un peth ydyw, yn y bôn, ag ymddiriedaeth plentyn yn ei fam; fe wyr plentyn yn reddfol na fydd ei fam fyth yn caniatau i unrhyw gam ddigwydd iddo, fe wyr fod ei gofal amdano yn ddiderfyn ac yn ddiamod, ac y gall gysgu’n dawel yn ei chysgod. Wrth gwrs, dydy hyn, yn anffodus, ddim bob amser yn wir, weithiau oherwydd amgylchiadau yn y fam, dro arall oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y fam, eithr mae’n wir yn gyffredinol. Mae ymddiriedaeth yn aml mewn ffrindiau, hefyd, ac mewn perthynas gwr a gwraig hefyd, yr ymddiriedaeth hwnnw sy’n tyfu’n gyson o’r sylweddoliad na fyddai un o’r ddau fyth ond yn onest wrth y llall, ac na fyddai un ond y gwneud y gorau dros y llall. Mae math cyntaf o ymddiriedaeth yn deillio o reddf, mae’r ail yn codi berthynas; mae’r cyntaf yn gynhenid, mae’r ail yn cael ei meithrin.

Yr ail yw natur ymddiriedaeth pobl yn eu llywodraeth; cael ei meithrin y mae, ac mae’n cael ei meithrin gyda’r bobl yn credu fod eu harweinwyr yn dweud y gwir wrthynt, eu bod, nid o angenrheidrwydd, bob amser, yn gofalu amdanynt; dweud y gwir yw’r hanfod; dangos hyd a lled sefyllfa yn ei holl agweddau a nodi beth sydd raid ei wneud. Flynyddoedd yn ôl dysgais mai hanfod perthynas dda gyda disgyblion oedd bod yn onest gyda hwy, gan nodi rheswm dilys dros bob gweithred. Ymhellach, os yw disgyblion yn deall eich bod yn gweithio’n galed drostynt, bydd ganddynt ymddiriedaeth yn eich arweiniad. Mae ymateb pobl ifanc yn gyfangwbl gymesur â gwaith ac ymdrech yr athro

Felly, hefyd, gyda gwleidyddiaeth, a chyda llywodraeth; os ydynt yn dweud y gwir wrthych, ac os ydynt yn amlwg yn gweithio’n galed, beth bynnag fo’r gwaith, bydd gan y bobl ymddiriedaeth yn y llywodraeth honno. Roedd hi felly gyda Churchill yn ystod yr Ail Ryfel Byd; roedd pawb yn gwybod nad oedd yn gymeriad dilychwin, ond gwyddent, hefyd, nad oedd fyth yn dweud celwydd am y sefyllfa wrthynt, ac y byddai’n gweithio gewin ac asgwrn i sicrhau’r canlyniad gorau bob tro. Hyd yn oed yn ei henaint, roedd ei ynni yn ddiarhebol. O’r herwydd, roedd y bobl yn ymddiried ynddo, ac yn ei ddilyn, Yn ystod y pandemig presennol, yr unig lywodraeth trwy’r byd sydd wedi dangos ymddiriedaeth yn eu pobl, yw’r llywodraeth honno sydd, yn ôl pob arolwg, yn cael ymddiriedaeth mwyaf ei phobl ei hun. Y wlad honno yw Sweden, ac, mewn arolygon o farnau pobl sy’n ymddiried fwyaf yn ei llywodraeth, hon yw’r wlad sy’n dod yn gyson ar y brig, a hynny o gryn bellter. Yn ôl yr adborth, y rheswm am hynny yw am fod y llywodraeth yn dweud y gwir bob amser wrth y bobl. Gyda’r pandemig, nododd llywodraeth Sweden yn union beth oedd y sefyllfa, nododd yn fanwl sut y gellid rheoli’r sefyllfa, a gadawodd y penderfyniadau i’r bobl eu hunain, heb gau unrhyw fusnes, heb wahardd unrhyw weithgaredd, ac heb ddeddfu ar ddim. Fe fu marwolaethau, ond bu llai ohonynt, bu llai o achsoion, a bu llawer llai o darfu ar y gymdeithas yngyffredinol, a hynny oherwydd fod y mwyafrif o bobl yn dilyn cyngor llywodraeth y maent yn ymddiried ynddi. Dro arall mae ymddiriedaeth yn yr arweinydd yn ddigon, fel mae’r sefyllfa yn y Ffindir, Seland Newydd,a’r Alban yn dangos yn glir. Yn y gwleydd rheiny mae ymddiriedaeth, ffydd , hyder,galwch ef yr hyn a fynwch, yn anghygoel o uchel yn eu prif weinidogion, ill tair, fel mae’n digwydd yn ferched, ac ill tair yn gymharol ifanc ( o dan yr hanner cant, dwy yn sylweddol felly ). Ffactor pellach yn y sefyllfa hon yw nad oes raid, o angenrheidrwydd, cael ymddiriedaeth lwyr yn yr holl lywodraeth, ond y mae ymddiriedaeth yn yr arweinydd yn hollol hanfodol. Heddiw, gydag ymddiriedaeth gyffredinol mewn llywodraethau yn prysur freuo, yn enwedig ymysg yr ifanc, mae ymddiriedaeth yn yr arweinydd, yn enwedig mewn sefyllfa o argyfwng cenedlaethol, yn fwy hanfodol fyth.

A dyna ddod â ni at y sefyllfa yma yng Nghymru a Phrydain.

Yng Nghymru dengys arolygon fod mwy a mwy o bobl yn ymddiried yn ein harweinydd, Mark Drakeford; yn wir, mae ei holl ymarweddiad yn gweiddi ‘ Gellwch ymddiried ynof’. Nid oes dim o’i gwmpas sy’n awgrymu unrhyw wendid moesol nac ysgafnder ffwrdd-a-hi, dim chwit-chwatrwydd, dim ond difrifoldeb a chadernid; mae’n nodi’r sefyllfa yn glir, yn egluro’r bwriad, ac yn rhoi rhesymau am hynny.

Awn, wedyn. dros Glawdd Offa. Dyma ichi arweinydd

sydd efo enw o fod yn un na ellir ymddiried ynddo

a gafodd adroddiad ysgol o Eton yn dweud ei fod yn credu y dylai ef gael gwneud fel a fynnai, heb unrhyw gosb

a gafodd ei ddiswyddo ddwywaith am ddweud celwyddau

sydd efo hanes o dwyllo ar wragedd a chariadon

sydd efo hanes hir a sicr o fod yn ddiog, ac heb fod yn barod i feistroli unrhyw bwnc

sydd yn torri ei air yn gyson

sy’n dweud un peth, a gwneud peth arall

sy’n addo y peth cyntaf a ddaw i’w feddwl, heb fod ag arlliw o fwriad o’i wireddu

sy’n poeni mwy am gael ei hoffi na chael ei gredu

sy’n gadael gweithredu’r glo mân i eraill

sydd ddim yn galu dadlau ei safbwynt yn rhesymegol

sydd wedi rhoi anrhydeddau i’w frawd ei hu, a’i ffrindiau, yn ei restr cyntaf o argymhellion

na wnaeth ddim pan fu i’w Svengali dorri un o reolau sylfaenol y Cloi, a theithio hyd gwlad, gan wneud hynny heb rithyn o gydwybod, na gair o ymddiheuriad. Unig ymateb yr arweinydd oedd ‘Let’s move on’

ac, ati, ac ati, ac ati

Ar ben hyn i gyd, oherwydd ei ansicrwydd, mae wedi llenwi ei gabinet efo cwn rhech ail-ddosbarth sydd wedi eu penodi oherwydd a} eu ffyddlondeb disigli i’r arweinydd b) eu cred ddiysgog mewn brecsit c) eu amharodrwydd i wrthwynebu.

Byddai’r sefyllfa hon yn sicr o arwain i drasiedi mewn blynyddoedd o lawnder, ond, och a gwae, nid y rheiny a ddaeth i’w rhan,eithr daeth storm enbyd Cofid 19 i chwalu byd yr arweinydd hwn, a’i griw ail-ddosbarth ( ac ambell drydydd) . Oherwydd y ffactorau a nodwyd, troes pob cynllun o’i{u} {h}eiddo yn llwch. Prif arf yr arweinydd oedd ysgafnder a brôl, gan gyflwyno pob cynllun fel ‘ y gorau yn y byd’, neu’r ‘mwyaf llwyddiannus erioed’, cyn, ymhen dim, orfod tynnu’r cynllun yn ei ôl. Hyd y gwelaf i, ar wahân i’r Cloi Mawr, does yr un strategaeth arall wedi bod yn agos i wneud yr argraff leiaf ar y pandemig, a doedd dim angen athrylith i weld y byddai cloi llwyr yn gweithio.

A rwan dyna ichi osod sefylla gyffredinol Prydain yn nghefndir y pandemig hwn. Mae wynebu pandemig yn sefyllfa eithriadol, mae’n sefyllfa fyd-eang sy’n gyfoes ddisgynsail, mae’n sefyllfa sydd bron yn amosibl i’w rheoli, ond, wedi’r cwbl, nid yr un yw a sefyllfa’r Pla Du, pan nad oed gan neb yr obedeia lleiaf o ble, sut, na pham y daeth; pan gredid mai barn Duw ydoedd, ac na ellid gwneud dim, dim ond disgwyl am wareigaeth. Y mae strategaethau heddiw i reoli ychydig, a lleddfu peth, ar y sefyllfa, ond, i hynny ddigwydd, mae’n rhaid wrth i bawb dynnu efo’i gilydd i un cyfeiriad. I gael hynny, rhaid i bawb sy’n dilyn fod â ffydd ddisysgog, fod ag ymddiriedaeth lwyr yn eu harweinydd a’i gynorthwywyr. ymddiriedaeth eu bod yn onest gyda chi, eu bod yn gwybod beth y maent yn ei wneud, ac y gellir dibynnu arnynt ym mhob agyfwng.

Yn anffodus, nid felly mae, ac, yn ôl Confucious, pe derfydd hanfod olaf llywodraeth, sef yr ymmdireidaeth sydd ynddi, does ond un canlyniad