Yr un hen rigol

Wele ni unwaith eto, yn yr un hen rigol. Yn dynn ar gynffon canlyniadau profion Pisa, sy’n dangos fod perfformiad disgyblion Cymru wedi dirywio yn hytrach na gwella, fel y gobeithiwyd, cafwyd adroddiad arall ar athrawon cyflenwi gan ESTYN.  Prif ddarganfyddiad eleni yw nad yw mwyafrif penaethiaid cynradd yn rheoli presenoldeb y gweithlu yn ddigon da. Bu adroddiadau ar yr un maes yn 2013, a 2015. Mae’r adroddiadau dilynol i un 2013 wedi digwydd oherwydd prif gasgliad syfrdanol Adroddiad 2013,

Mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, mae dysgwyr yn gwneud llai o gynnydd

pan fydd yr athro dosbarth yn absennol, ac mae ymddygiad dysgwyr yn aml yn

waeth’

Nid y casgiad sy’n syfrdanol, ond y ffaith fod angen holl adnoddau ymenyddol sylweddol Arolygwyr Estyn i weld hynny. Deuid i’r un casgliad trwy ofyn  i unrhyw un sydd wedi bod o fewn poeriad nico i ysgol. Beth yw’r rheswm, tybed, am y diffyg cynnydd hwn?

Yn sylfaenol, mae gwahanol fathau o absenoldebau. Yn gyntaf mae absenoldeb salwch tymor hir. Nodais, yn un o’m colofnau diweddar, beth yw hyd a lled y broblem honno, yn enwedig oherwydd straen, yn ysgolion Cymru. Yna mae absenoldeb tymor byr, diwrnod neu ddau, neu ychydig yn hwy. Mae hwnnw’n  absenoldeb salwch, neu oherwydd fod athrawon ar hyfforddiant, neu’n ymwneud â rhywbeth y tu allan i’r dosbarth – yn aml yn gwrando ar, neu’n gwneud gwaith i, yr union asiantaethau sy’n beirniadu eu hysgolion am ddiffyg cynnydd yn y disgyblion oherwydd eu habsenoldeb. Yn olaf, ond nid leiaf, mae’r absenoldeb oherwydd y 10% o amser digyswllt a roir i athrawon yn y cynradd i baratoi a marcio.

Beth bynnag fo’r absenoldeb, mae’n creu cur pen mawr i’r penaethiaid. Eu consyrn cyntaf yw gwarchod y dosbarthiadau di-athro. Coeliwch neu beidio, ni fyddai llond dosbarth o angylion bach, beth bynnag fo’u hoed a’u cefndir, yn ymddwyn fel angylion pe gadewid hwy heb oruchwyliaeth. Iechyd a diogelwch, felly, yw’r flaenoriaeth; eilbeth yw cynnydd. Fel y nododd adroddiad Estyn yn 2013, mae ymddygiad disgyblion yn aml yn waeth gydag athro cyflenwi. Meddyliwch am yr ymddygiad hwnnw heb athro o gwbl!

Pan fo’r absenoldeb yn un tymor hir, mae problemau ychwanegol. Y cyntaf yw cael unrhyw athro cyflenwi i ymrwymo i waith tymor hir. Yr ail yw cael arbenigwr, yn enwedig yn yr uwchradd. Fel ag y mae, mae cael athrawon parhaol arbenigol mewn nifer o bynciau yn yr uwchradd yn profi’n anodd, gyda llawer o ddisgyblion yn derbyn eu haddysg, hyd at arholiadau allanol, gan rai nad ydynt yn arbenigwyr yn y pwnc. Mae’n arwyddocaol mai’r pynciau a brofir gan Pisa – Mathemateg a Gwyddoniaeth – sy’n dioddef fwyaf o hyn. Ond os yw’n anodd penodi arbenigwyr i swyddi parhaol, mae’n llawer anos  cael yr union arbenigedd a ddeisyfir mewn athro cyflenwi. Byddai’n hynod ddiddorol gwneud arolwg o holl ysgolion Cymru ar un neu ddau o ddyddiau penodol i ganfod  yn union sut mae arbenigedd pob athro llanw yn cyfateb i’r angen yn ei ddosbarth. Byddwn yn barod i fentro fy nghrys mai pegiau sgwar mewn tyllau crynion fyddai’r mwyafrif llethol.

A beth am y pegiau sgwar hyn, pwy ydynt? Yn sylfaenol, rhennir athrawon cyflenwi yn dair carfan

1. Y rheiny sy’n methu cael swydd barhaol. Diffyg swyddi, nid diffyg gallu, sy’n gyfrifol am hynny gan amlaf, a hynny oherwydd y sefyllfa ariannol, sy’n gorfodi ysgolion i dorri swyddi. O reidrwydd, mae llawer o’r garfan hon yn athrawon newydd gymhwyso, sy’n methu cael y swydd y maent wedi eu hyfforddi amdani. Yn yr union gyfnod pan ddylent fod yn dysgu eu crefft o dan arweiniad cydweithwyr profiadol, cânt eu bwrw’n ynysig i waith ysbeidiol gyda disgyblion gwahanol mewn ysgolion gwahanol ar ddyddiau gwahanol, nid y sefyllfa ddelfrydol i fwrw prentisiaeth. Fodd bynnag, mae rhai o’r garfan hon yn methu cael swyddi parhaol am resymau effeithiolrwydd, ond maent hwythau yn begiau derbyniol pan fo angen llenwi tyllau.

2. Y rheiny sy’n dewis bod yn athrawon llanw, am wahanol resymau. Gall hynny fod yn gweddu i’w dull o fyw, neu, yn amlach na heb, gall fod oherwydd fod llai o atebolrwydd a straen i waith athro cyflenwi.

3. Y rheiny sydd wedi rhoi’r gorau i addysgu’n llawn amser, un ai ar ganol gyrfa, neu wedi ymddeol yn gynnar, ac yn gweithio fel athrawon cyflenwi i ychwanegu at y pensiwn.

Pa garfan bynnag, maent oll yn yr un sefyllfa. Dydy bod yn athro cyflenwi ddim yn hawdd – yn wir, gall fod yn gythreulig o anodd. Y prif reswm am hynny yw mai craidd addysgu da, a hanfod athro da, yw adnabyddiaeth lwyr o bob un disgybl unigol o dan ei ofal, gwybodaeth glir o’i gryfderau a’i wendidau, o ble mae wedi cyrraedd, ble mae am fynd nesaf, a sut i fynd ag ef yno. Ond pan fo athro cyflenwi yn cerdded i mewn i ddosbarth, does ganddo mo’r syniad lleiaf am yr un o’r hanfodion hyn. Yn amlach na heb, mae’r athro cyflenwi druan, hefyd, y tu allan i’w arbenigedd, yn symud o ddosbarth i ddosbarth, ac o ysgol i ysgol, fel iâr ar felt tragwyddol ei ruthr. Oes unrhyw ryfedd nad yw disgyblion yn gwneud cystal cynnydd gydag athrawon cyflenwi? Yn wir, ffliwcan fydd unrhyw gynnydd a wneir. Nid yw adnabyddiaeth o bolisiau, cyfundrefnau, na maes yr addysgu, yn mynd i gymryd lle yr adnabyddiaeth o’r plant. Ac nid trwy fod yn athro cyflenwi y mae caffael hynny.

Yn ôl yr ystadegau mae 10% o wersi disgyblion Cymru yn cael eu haddysgu gan athrawon cyflenwi. Mae’n deg tybio , felly, fod tua 10% yn llai o gynnydd. Gall 10% gyfateb i ddwy radd TGAU. Tybed sut byddai 10%  yn newid lleoliad ar dablau Pisa? Yn ôl yr ystadegau eto, mae absenoldeb athrawon Cymru bron i ddwywaith absenoldeb eu cymheiriaid yn Lloegr. Mae’n arwyddocaol yn y cyswllt hwn fod canlyniadau profion Pisa disgyblion Lloegr yn sylweddol well na rhai Cymru. Profwyd yn rhyngwladol fod cyfatebiaeth glir rhwng cyfran absenoldeb athrawon a pherfformiad eu disgyblion. Yn yr Unol Daleithiau mae’r gyfran uchaf o absenoldeb athrawon yn nhalaith Nevada;  mae ysgolion y dalaith honno yn perfformio gyda’r gwaethaf trwy’r wlad gyfan.

Fel y nodais, does dim angen craffter arbennig i ddod i’r casgliadau yn adroddiadau Estyn ar athrawon cyflenwi ers 2013. Oherwydd hynny, hoffwn awgrymu y byddai wedi bod yn llawer gwell defnydd o’u hamser fynd at wraidd y broblem, yn hytrach na chwarae efo’i heffeithiau. Nid efo powdwr gwyn ar y croen y mae gwella’r frech goch! Yn hytrach na beirniadu athrawon cyflenwi, penaethiaid, ac ysgolion, oni fyddai’n well mynd i’r afael â’r broblem go iawn, sef absenoldeb cymaint o athrawon sydd mewn swyddi parhaol? Mae cyfran helaeth iawn o absenoldeb athrawon yn digwydd oherwydd straen. Mae hwnnw yn  cael ei greu gan y gofynion eithafol ac afresymol a roddir arnynt gan y Llywodraeth, y newidiadau cyson, a’r pwysau a ddaw oddi wrth awduron yr union adroddiadau sy’n beirniadu’r ysgolion. Petai ychydig o’r pwysau gormesol sydd ar athrawon yn cael ei godi, yna byddai llai o lawer yn dioddef straen, a llai o absenoldebau. Byddai hynny, wedyn, yn nacau’r galw am gymaint o athrawon cyflenwi, gan, a dilyn rhesymeg Estyn, godi cyflawniad a chynnydd disgyblion, Canlyniad hynny, mae’n amlwg, fyddai codi safonau a dringo i fyny tabl profion Pisa, yn ogystal â phob tabl addysgol arall.

Ymddangosodd y rhefriad hwn gyntaf yn y cylchgrawn Barn