Mae pawb yn awdurdod ar addysg. Mae’r ffaith iddynt fod mewn ysgol unwaith yn golygu fod pawb yn gwybod beth sy’n bod ar ysgolion, a sut y dylai athrawon wneud eu gwaith.
Ddyddiau’n unig cyn imi ysgrifennu hyn o lith, cyhoeddoedd y Gweinidog Addysg y bydd ysgolion Cymru yn ailagor i’r holl ddisgyblion ddiwedd Mehefin. A dyna ni, testun cyntaf pob sgwrs. Ble gynt y dechreuid efo’r geiriau
‘Dydan ni’n cael tywydd ofnadwy/braf/gwlyb/sych. Does eisiau haul/glaw ….’
yr hyn a saethir gyntaf o’r genau ddwy fedr i ffwrdd yw
‘Be ydych chi’n feddwl o’r agor ysgolion yma?’
Ac, mewn eiliad, daeth y byd a’i wraig yn awdurdodau ar y cwestiwn dyrys a fu, yn sicr, yn destun trafodaethau manwl gan drawsdoriad o arbenigwyr oedd yn meddu ar bob mymryn posibl o dystiolaeth wyddonol, addysgol, a chymdeithasol, cyn dod i’w penderfyniad. Ond roedd y ‘pawb’ yn gwybod yn well, wrth reswm.Waeth i minnau, felly, roi fy ngheiniogwerth.
O blaid agor, mae’n amlwg fod y coronafirws efo ni am gyfnod hir; rhaid derbyn na fyddwn yn glir ohono nes y ceir rhyw feddyginiaeth. Yn ôl a ddeallaf, gall hynny gymryd misoedd – o leiaf – blwyddyn i flwyddyn a hanner, efallai. Mae synnwyr cyffredin yn dweud ei bod hi’n hollol amhosibl i bopeth fod ar glo gyhyd â hynny. Mae’r tri mis diwethaf hyn wedi mynd yn rhyfeddol o ddidrafferth, ond ni all cymdeithas, nac economi, barhau fel hyn am flwyddyn arall. Mae’n dilyn, felly, y bydd yn rhaid i ysgolion , fel popeth arall, ailagor rywdro; ni ellir gohirio am byth.
Am sawl blwyddyn bellach prif ymgyrch y byd addysg oedd cau’r bwlch sydd mewn cyflawniad addysgol rhwng y breinteidig a’r difreintiedig. Am gyfnod bu galwadau i leihau gwyliau’r haf oherwydd bod nifer o blant yn disgyn ar ôl mewn chwech wythnos. Faint ymhellach ar ôl mae’r dysgwyr hyn wedi disgyn mewn tri mis? Faint fydd y bwlch ymhen dau a thri mis eto? Mae’n rhaid cael y dysgwyr hyn i’r ysgol, neu fe fydd y golled yn anadferadwy. Mae’r ysgolion a’r athrawon wedi bod yn ymdopi efo’r sefyllfa ryfedd ers Mawrth yn hynod o dda, gan baratoi gwaith i’w gyflwyno i ddisgyblion drwy’r we. Eto, yn ôl adroddiadau, llai na 40% o’r dysgwyr sy’n cyflawni’r gwaith hwn, sy’n golygu nad yw 6 dysgwr o bob 10 wedi gwneud unrhyw waith ysgol ers tri mis. Ac mae’r 40% yn ganran optimistaidd! Mae amryfal resymau am hyn – diffyg diddordeb a chymhelliad, diffyg cefnogaeth, diffyg ymrwymiad a rheolaeth rhiant, a diffyg offer digidol. Gwelais enghraifft ble’r oedd nifer o blant yn gorfod rhannu un ffön ddigidol efo’u rhieni. Gobaith mul mewn gran nasional i wneud unrhyw waith! Disgyn ymhellach ar ôl fydd hanes pob un o’r 60%+. Ac, wrth reswm, mae’r bwlch yn mynd i agor ymhellach oherwydd fod nifer o’r rhai sydd yn ymgysylltu, yn cael cefnogaeth dda iawn adref, yn aml gan deulu sy’n fyddin o athrawon, a graddedigion, ac, felly’n carlamu yn eu blaenau.
Mae’r athrawon yn gosod gwaith i’r dysgwyr, ond mae hwn, fel yr athrawon eu hunain, yn naturiol yn amrywiol. Yr wyf wedi gweld llawer iawn o waith da sy’n cael ei gynhyrchu, a diolch am hynny. Fodd bynnag, nid yw gwaith dros y we gystal â chyswllt uniogyrchol rhwng athro a disgybl. Mae’n rhaid adfer hynny, gynted ag y bod modd.
Mae undebau’r athrawon yn gwrthwynebu’n chwyrn ailagor ysgolion Cymru ddiwedd Mehefin, ond dywedir mai ail ddewis oedd y dyddiad hwnnw gan y Gweinidog Addysg. Ymddengys ei bod hi, a’i chynghorwyr, yn ffafrio ailagor ysgolion wythnos olaf Awst, ond fod yr undebau gwrthwynebu hynny, hefyd. Synnodd hynny ddim arnaf, gwrthwynebu yw ymateb greddfol undebau; eu prif gonsyrn yw’r aelodau. Er fod undebau athrawon, dros y blynyddoedd, wedi honni mai lles dysgwyr sydd ar flaenau’u meddyliau, y gwir plaen yw mai lles eu haelodau, ac oblygiadau unrhyw newid iddynt, yw eu hunig gonsyrn go iawn. Teg hynny, gan mai undebau i warchod athrawon ydynt, dyna’r rheswm am eu bodolaeth. Ni ellir eu beio.
Ar ochr arall y ddadl, nac anghofiwn fod Cofid 19 yn beryg bywyd, fel y gall teuluoedd dros 40,000 o feirwon ym Mhrydain dystio. Does dim sicrwydd na all plant ei ddal, dim sicrwydd na allant heintio eraill, dim sicrwydd na allant fod yn gyfrifol am farwolaeth un o’r teulu agos. Gyda chymaint o ansicrwydd, ydych chi’n beio neb am wrthwynebu ailagor ysgolion, am wrthod gyrru eu plant yno? Draw dros y Clawdd mae ‘na Brif Weinidog sy’n honni fod yr haint o dan reolaeth; os mai 250 o farwolaethau beunyddiol yw rheolaeth, hoffwn i ddim meddwl beth yw bod allan o reolaeth. Ac aeth ei gynlluniau bostfawr ef i ailagor ysgolion i’r gwellt o fewn llai nag wythnos.
Ond yn ôl i Gymru. Mae’r cynlluniau i ailagor yn golygu sefyllfa hollol wahanol i’r un a fu. Traean disgyblion fydd yn yr ysgol, (a breuddwydio y bydd pob disgybl yn mynychu ) a hynny dan amodau hollol wahanol. Bydd hynny’n golygu pedwar diwrnod o ysgol mewn mis i bob dysgwr. Ni fydd y rhyngweithio, na’r cyswllt arferol, rhwng disgybl a disgybl, na disgybl ac athro, a bydd amheuaeth ac ofn yn rhan greiddiol o bob perthynas. Onid yw’r cyfan yn sawru o sefyllfa ffug – agor er mwyn agor, nid agor er budd neb. Ni chaëeir unrhyw fwlch addysgol mewn pedwar diwrnod! A beth am y cludiant? Yn y cyfarwyddiadau gan y Llywodraeth, anogir dysgwyr i gerdded, neu seiclo i’r ysgol. Pob hwyl ichi, ddisgyblion Tregaron, Botwnnog, Bodedern, ac ysgolion gwledig eraill, heb sôn am bob ysgol Gymraeg yng Nghymru: cerdded fyddwch chi. O leiaf, fe gewch ymarfer corff! Cynlluniau dinesig fu’r rhan fwyaf o gynlluniau addysg Llywodraeth Cymru o’r cychwyn; ar gyfer y ddinas y crewyd hyn hefyd!
Nid yn aml y bydd Dei Fôn yn eistedd ar unrhyw ffens, ond dyna lle’r ydw i heddiw. Rydw i’n gweld y ddwy ochr, ac yn cytuno efo’r rhai sydd am ailagor ysgolion a’r rhai sydd am eu cadw ar gau. Dim ond diolch i’r nefoedd nad y fi sy’n gorfod gwneud y dewis: a diolch nad oes raid imi, ychwaith, ddewis gyrru plentyn yno, neu ei adael gartref.
Ymddangosodd yr erthygl hwn gyntaf yn y cylchgrawn Barn Mehefin 2020