Addysg, addysg, addysg!

Bu adeg pan oedd yn ddyletswydd arnaf ddarllen Adroddiad Blynyddol Estyn; daeth adeg wedyn pan nad oedd y cyfryw Adroddiad o unrhyw ddiddordeb imi. Bellach af ato unwaith eto, gyda diddordeb i weld beth sydd wedi gwella, a beth sydd wedi aros yn styfnig ddisymud, yn y ddegawd a mwy ers i mi adael y drin. Mae’r Adroddiad Blynyddol yn un  pwysig iawn, gan ei fod yn rhoi llinyn mesur teg, cytbwys, a gwrthrychol, gan arbenigwyr ar gryfderau a gwendidau, a chynnydd, cyfundrefn addysg ein gwlad.

Calonogol , yn gyffredinol, yw casgliadau Estyn eleni  fod cynnydd yn safonau addysg a chyflawniad dysgwyr Cymru. Rhaid croesawu hynny yn fawr, er fod perygl fod y casgliad hwn yn cael ei gyrraedd trwy fesur data arholiadol a phrofion yn bennaf, er gwaethaf ymdrech glodwiw Estyn dros y blynyddoedd diwethaf i symud y pwyslais oddi wrth y cyflawniad noeth draw i safon yr addysgu. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn nodi fod gormod o ysgolion o hyd yn rhoi pwyslais ar baratoi’n benodol at arholiadau, trwy amryfal ddulliau, ar draul addysgu disgyblion. Ond gan mai Estyn ei hun fu’n gyfrifol, dros y blynyddoedd, am fesur llwyddiant ysgol yn ôl canlyniadau, mae newid meddylfryd yn hynod o anodd. Pan yw ysgol wedi ei fflangellu am ganlyniadau arholiadol gwael, neu ei chlodfori am rai gwych, mae’n anodd newid. A heuo, hynny a fedir!

Ond, ynghyd â’r cynnydd, mae pryderon. Un amlwg gan y Prif Arolygwr eleni yw nad

 ‘yw’r ‘bwlch tlodi’ wedi lleihau. Nid yw’r gwahaniaethau mewn cyrhaeddiad a phresenoldeb rhwng disgyblion o gefndiroedd breintiedig a difreintiedig wedi cau dros y degawd diwethaf.

Bum yma o’r blaen, pan yn sÔn am fethiant Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant. Yn gyffredinol, ateb y Llywodraeth, a’r Adran Addysg, fu taflu arian at y broblem, ond ni wnaeth hynny affliw o ddim i ddileu tlodi, mwy nag a wnaeth i leihau’r bwlch addysgol. Rydw i’n croesawu’r ffaith fod y Prif Arolygwr, yntau, yn cydnabod fod y bwlch

yn deillio’n rhannol o leiaf o’r modd y mae teuluoedd a’r gymuned leol yn gweld addysg

Ffactorau cymdeithasol, hanesyddol, a meddylfryd yw sail y broblem ac mae angen llawer mwy nag arian, nac ysgol, na gwersi llawn canu a dawnsio, a giamocs  i fynd i’r afael â hi.

Mynegir pryderon eraill yn yr Adroddiad, nifer  yn rhai oedd yn bodoli pan fu imi ymddeol. Bu paranoia am y bwlch cyflawniad rhwng merched a bechgyn ers chwarter canrif . Eleni nodir fod

merched yn parhau i berfformio’n well na bechgyn a chynyddodd y bwlch fymryn rhwng y naill a’r llall yn y rhan fwyaf o ddangosyddion yn 2019

Da iawn, chi, ferched! Tros yr holl flynyddoedd pan oedd bechgyn yn perfformio’n well na chi, doedd yn neb yn malio ffeuen, ond ers i chi ragori, gwae ni, diwedd y byd. Daliwch ati, genod; peidiwch â gadael iddyn nhw eich dal!

Ugain mlynedd yn ôl, roedd pryder am ddiffyg ddatblygu’r Gymraeg yn y sector uwchradd ‘dwyieithog’ ( Saesneg ). Does dim wedi newid!

Yn gyffredinol,  nid yw tua 20% o ddisgyblion sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg ar ddiwedd y cyfnod sylfaen yn parhau i ddatblygu’u medrau Cymraeg i’w potensial llawn yn ystod eu cyfnod mewn addysg statudol, ac nid ydynt yn ennill cymhwyster TGAU mewn Cymraeg (iaith gyntaf) ar ddiwedd cyfnod allweddol 4.

Fe geisiodd y Cwricwlwm Cenedlaethol fynd i’r afael â hyn genhedlaeth yn ôl, ond ni symudwyd fodfedd ymlaen yn ystod y cyfnod hwnnw. Fe wn, heddiw, am ddwsinau o ddysgwyr rhugl eu Cymraeg sy’n mynd o’r cynradd i ambell ysgol uwchradd yng nghadarnle’r Gymraeg, gan adael ymhen rhai blynyddoedd gyda’r iaith ond yn atgof gwan iddynt. Gall ysgol achub iaith, ond gall ei lladd, hefyd, yn ddibynnol, gan amlaf, ar agwedd ei harweinwyr.

Mae nifer o bethau eraill sy’n bryderon cyfarwydd imi heddiw, er gwaethaf blynyddoedd o bwyslais ar eu gwella, pethau megis  ansawdd sylwadau athrawon ar waith disgyblion, diffyg cynllunio dilyniant o’r cynradd i’r uwchradd, diffyg yn y llwybrau galwedigaethol i’r dysgwyr, diffyg cynllunio cadarn ar TGCh. Roedd y rhain oll ar flaen rhaglenni gwella addysg pan enciliais o’r drin, ac yno yr arhosant. Ond efallai mai’r dychryn mwyaf yn yr Adroddiad yw’r tynnu sylw at y lleihad cyson mewn ymgeiswyr i fod yn athrawon, a’r athrawon hyfforddedig sy’n aros yn y proffesiwn. Mae hyn yn fygythiad amlwg i addysg cyfrwng Cymraeg, ac i darged y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr y Gymraeg. Does dim angen athrylith i sylweddoli hynny.

Newydd da iawn yn yr Adroddiad yw’r addewid mai pwyslais Estyn y flwyddyn nesaf fydd cynorthwyo’r holl ysgolion i baratoi ar gyfer cynllunio’r Cwricwlwm newydd. Da iawn, Estyn!

Newyddion da arall a gafwyd ddechrau’r flwyddyn oedd fod y llywodraeth am edrych eto ar restru ysgolion yn fandiau lliwgar, yn ôl faint o gymorth mae arnynt ei angen. O’r cychwyn neidiwyd ar y rhain gan fytheiaid y cyfryngau, gan eu disgrifio fel tablau, ac fe’u dilynwyd  gan rieni ac eraill yn cymharu ysgolion, gan sôn am ysgolion da, ac ysgolion gwael. Prysured diwedd y cyhoeddi. Ond at y cymorth. Os yw rhai ysgolion yn derbyn cymorth dwys, pam mae ambell un angen hynny bob blwyddyn. Mae mwy nag un ysgol yn y band coch ers tair blynedd! Rhaid gofyn weithiau beth yw safon y cymorth, yn gyffredinol, yn ogystal ac yn benodol, oherwydd yn ôl Adroddiad Estyn

Mae cyfran yr ysgolion uwchradd sy’n peri pryder o gymharu â sectorau eraill yn parhau yn her i nifer o awdurdodau lleol ac i’r system gyfan.

O’r 29 ysgol uwchradd a arolygwyd y llynedd roedd angen rhyw weithgarwch dilynol ar 60% ohonynt. Mae hyn yn adrodd cyfrolau, nid yn unig ar yr ysgolion, ac ar y Awdurdodau Addysg sydd gyda throsolwg ohonynt, ond ar yr Asiantaethau Cefnogi sy’n costio miliynau i sicrhau fod ein ysgolion yn cael y cymorth angenrheidiol. Beth yw pwrpas cael system sy’n dangos fod angen cymorth dwys, os nad yw’r cymorth dwys hwnnw yn ddigon cyhyrog i wella’r ysgol, a chynnal unrhyw welliant?

I gloi efo’r busnes addysg yma, bu imi feddwl, ers ei phenodi, fod Kirsty Williams yn gwneud gwaith canmoladwy fel Gweinidog Addysg, yn symud yn gall, gan wrando’n ofalus ar gyngor arbenigwyr. Fodd bynnag, yn ddiweddar, fe faglodd hithau, pan gyhoeddodd yn ddiflewyn ar dafod nad oedd y fath beth âhanes Cymru, dim ond hanesion lleol. Chlywais i erioed y fath ffwlbri. Mae’n agwedd amlwg ymherodrol, agwedd y coloneiddiwr at y rhai a wladychwyd; agwedd Babylon ac Asyria at Israel, agwedd Sbaen at yr Astec a’r Inca, agwedd Prydain at frodorion America, a’r India, a sawl gwlad arall. For Wales, see England! Ond bydded i’r Kirsty ddilyn ei dadl ymherodrol i’w heithaf. Gwadu hanes yw gwadu hunaniaeth, a gwadu hunaniaeth yw gwadu bodolaeth. Felly, os nad oes i Gymru hanes, nid oes iddi fodolaeth, ac, os nad yw Cymru yn bod, nid oes iddi lywodraeth, ac nid oes lle i Weinidog Addysg mewn llywodraeth nad yw’n bod.

Pan gyll y call, Misus Wilias, pan gyll y call ….. !

Ymddangosodd yr erthygl hwn gyntaf yn y cylchgrawn Barn 2020