Wedi treulio’r mis diwethaf yn meudwyo yn fy nghell ( ac eithrio’r sleifio ofnus dyddiol, o lech i lwyn, gan osgoi pobl fel pla ( llythrennol!) ), ni allaf ond ategu’r apocalyptaidd Sion Cent
‘A pha fyd hefyd yw hwn?
………………….Byd rhyfedd’.
Rhyfeddol o ryfedd! Fel bod yn un o nofelau Stephen King, neu ddisgyn gydag Alys trwy’r drych i fyd hollol od a swreal! A’r cyfan oherwydd feirws sy’n rhy fychan i’w ddirnad.
Wrth gwrs bu dynoliaeth yma o’r blaen. Lladdwyd traean o boblogaeth Ewrop gan y Pla Du rhwng 1347 ac 1350, a bu hwnnw, a’i gefndryd, ar sawl ymweliad â ni dros y canrifoedd. Y gwahaniaeth bryd hynny, oedd y gred mai barn Duw ydoedd, ac nad oedd dim y gellid ei wneud ond gweddio, plastro baw dynol, a rhwbio cyw iar, ar y croen, neu fwyta triog a phowdr emrallt. Yna marw mewn artaith ac anwybodaeth: dyna hanes 20 miliwn yn Ewrop. Lladdodd ffliw 1919, wedyn, tua 50 miliwn trwy’r byd. Ond mae hi heddiw yn 2020, a ninnau’n feistri ar ein byd, a’r tu hwnt iddo. Eto, dydy pethau ddim wedi newid fawr ddim ers 1350; er ein rhodres, rydym yr un mor ddiamddiffyn ag oedd ein cyndeidiau. Yr unig gynnydd, hyd y gwela i, yw ein bod heddiw yn adnabod y gelyn, yn amau sut i geisio osgoi peth o’i frath, ond yn dal heb obedeia sut i’w orchfygu. Pa mor bell y cerddasom mewn saith canrif, i’r lleuad a thu hwnt, ond heb feistroli ein libart bach ein hunain; brasgamu ymhell er mwyn aros yn ein hunfan.
Disgynnwch gyda mi ac Alys trwy’r drych.
Yn San Steffan mae ‘na bantomeimiau dyddiol ble teflir celwyddau a hanner celwyddau allan yn rhibidires. Dydy hi fawr gwell yng Nghaerdydd. Ai’r sinig cynhenid ynof a’m gyrr i gredu mai’r hyn a ganfyddaf ar wynebau’n gwleidyddion yw syndod a diymadferthedd llwyr yn wyneb sefyllfa na ellir sbinio allan ohoni. Doctor ffisig yn bwysicach na doctor sbin – hunllef! Ai’r sinig ynof sy’n credu nad oes gan neb weledigaeth, dim ond ffydd a ffeiar brigêd, yn gobeithio’r gweddol, ac yn ofni’r gwaethaf. Cuddio pethau amdani, felly. Cuddir gwir gyfanswm marwolaethau trwy gyfyngu’r data i ysbytai yn unig, a chuddir maint yr haint trwy brofi ond y rheiny sydd ar ward glyn cysgod angau. Beth am y targedau profi sydd fel jam fory, a llanast cyflenwi offer amddiffyn i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd, a gofalwyr? Cymharer yr Almaen gyda’r hyn sy’n digwydd yma, ac fe ddeallwch pam fod yr Almaenwyr yn ymddiried yn hollol yn eu llywodraeth. Iddynt hwy, targed yw targed, a chynllun yw cynllun, dim lol! Onid yw’n syndod sut mae un cenedl yn gallu bod mor effeithiol, filwrol drefnus, tra bod eu cefndryd Tiwtonig mor uffernol o chwit-chwat? Ac onid eironig yw fod ein cefndryd ninnau, Y Gwyddelod, a wawdiwyd ers canrifoedd gan Brydeinwyr ffroenuchel am eu twpdra tybiedig, yn ymdopi’n llawer gwell na ni? Eto mae Cymru a Phrydain yn well nag ambell wlad arall. Mae’n sicr mai un o greadigaethau Lewis Carroll yw arlywydd Belarws sy’n haeru mai’r feddyginiaeth i Cofid 19 yw fodka a sawna. Ond mae hynny’n well na’r Ffeltiwr Gorffwyll ym Mrasil, sy’n taeru mai cynllwyn propaganda yw’r haint. Mae nifer o ddilynwyr arch-greadigaeth Carroll, Hymti-Dymti’r Ty Gwyn, hefyd yn daer mai cynllwyn gan ei elynion i bardduo eu heilun yw’r aflwydd. Wedi meddwl, mae’n debyg eu bod yn brysur yn gorchuddio’u cyrff efo triog a baw dynol yr eiliad hon. Ac am Hymti ei hun, cyflym ei enllib, a sylweddol ei eiriau disylwedd, mae datganiadau hwnnw yn pendilio o’r hurt i’r peryglus. Ar ol ‘doethinebu’ ( os yw’r fath air yn addas yng nghyswllt y dyn ) am darddiad, meddyginiaeth,a diwedd yr haint, erbyn hyn ei unig gonsyrn yw taflu’r bai am y marwolaethau ar bawb a phopeth arall, rhag ofn i’r miloedd meirwon ei bardduo ef.
Yn ôl at ein gwleidyddion am funud. Canmolant yn awr ein gweithwyr Iechyd i’r entyrchion, fel y dylid, beth bynnag. Ond arhoswch funud! Onid yr union wleidyddion hyn a bleidleisiodd i wrthod rhoi codiad cyflog i’r gweithwyr Iechyd ychydig yn ôl? Ac oni welais wleidyddion Toriaidd, megis Duncan Smith, yn cymeradwyo hynny’n frwd trwy guro dwylo. Mae’n debyg ei fod yn ddigon dau wynebog i sefyll yn ei ddrws yn cymeradwyo heno. Neu beth am Boris yn canmol ei ddwy nyrs, o Bortiwgal a Seland Newydd, i’r cymylau. Oni fu ef ar grwsád i gadw eu tebyg o’r wlad? A fydden nhw ddim yma o gwbl yn ôl cynlluniau’r rhwysgfawr Piti Patel, oherwydd y byddai eu cyflog yn is na’r trothwy o £25,000 sydd ei angen ar gyfer caniatau mynediad i fewnfudwyr. Ond, haleliwa, mae cynnig bellach i roi medal i weithwyr y GIC am eu harwriaeth: medal, o ddiawl, codiad cyflog sylweddol yw’r unig beth gweddus: fedrwch chi ddim bwyta medal! Eto petai pob nyrs yn fanciwr ……..
Yma, tu hwnt i’r drych, mae addysg ac ysgolion tu chwith, gydag athrawon a dysgwyr yn cyfathrebu ar-lein. Mae’n ymdrech glodiwiw i gynnal y gyfundren, ac i sicrhau nad yw dysgwyr ar eu colled. Eto erys problemau dyrys, a’r rheiny yn dwysau’r problemau sydd eisoes yn y gyfundrefn arferol. Mae’r hyn sy’n digwydd yn awr yn ddibynnol ar athrawon, dysgwyr, a rhieni, pob un yn tynnu ei bwysau. Oblygiad hynny, yn y pendraw, yw fod y bwlch addysgol rhwng cyflawniad y difreintiedig a’r breintiedig, rhwng y dysgwr anfoddog a’r dysgwr brwd, rhwng yr athro blaengar a’r athro llai blaengar yn mynd i ledu’n sylweddol. Beth am y dysgwyr hynny nad yw eu rhieni yn gallu eu hannog i wneud gwaith ysgol, neu sy’n malio’r un botwm corn am annog? Neu’r athrawon, ac amrywiaeth safon eu tasgau? Er cystal ymdrechion yr ysgolion i gynnal dysgwyr yn eu cartrefi, prysured y dydd pan fydd pawb yn ôl yn yr ysgol; dim ond yno y mae cefnogaeth a monitro trylwyr ac effeithiol, ar ddysgwr ac athro. A beth am y dwsinau o ‘arbenigwyr’ yn y gwasanaethau addysgol ‘cefnogol’ ( monitro)? Beth maent hwy yn ei wneud ar hyn o bryd, a’r ysgolion ar gau? Yn sicr, mae gan ‘arbenigwyr’ ERW lai o waith, gan i ddau Awdurdod gasglu nad oeddynt o unrhyw werth i’w hysgolion hwy, a thynnu allan o’r cytundeb. Gan fod llawer o’r arbenigwyr yn athrawon arbennig o dda, oni fyddai’n well iddynt oll fynd yn eu holau i’r ysgolion wedi’r gyflafan hon, lle gallant wneud yr hyn y maent yn dda am ei wneud, yn lle dianc i swydd ble nad oes pwysau, i feirnaiadu eraill sy’n gwneud eu gorau.
Esgorodd y Pla Du ar chwyldro cymdeithasol a newidiodd gymdeithas yn llwyr, gan arwain i gyfundrefn na ddiflannodd yn gyfangwbl hyd yn ddiweddar. Tybed a fydd cyflafan Cofid 19 yn arwain i newid sylweddol?
Yn fyd-eang a welwn mai cydweithio sy’n bwysig, nid cystadlu, ac hwnnw’n gydweithio er lles dynoliaeth, nid cystadlu i’w dinistrio
Ym Mhrydain, a godir trethi yn sylweddol, yn enwedig ar y mwyaf cyfoethog, a’r cwmniau mawr, er mwyn ariannu’r Gwasanaeth Iechyd yn iawn, a’r gwasanaethau hanfodol hynny sy’n cynnal strwythur cymdeithas?
A ddeëllir mai gweithwyr hanfodol yw’r rheiny sy’n edrych ar ein holau, ac yn cynnal ein lles, nid bancwyr a sêr cae a sgrin?
Yn y byd addysg, a sylweddolir mai YN yr ysgolion, yn gweithio gyda’r dysgwyr, y dylai’r arbenigwyr fod, nid y tu allan yn esmwyth eu byd yn doethinebu?
a …… a …… …….
…. yn y chwyldro ol-Cofid 19 …….ond amheuaf rywsut; mae’n rhy hawdd anghofio.
Ac efallai mai byd y Brenin Coch yw’r byd go iawn.
Ymddangosodd yr erthygl hwn gyntaf yn y cylchgrawn Barn 2020