Dyma fi’n ol!

Chwefror 17 2020
Wedi cyfnod o bron i ddwy flynedd heb sylwadau, dyma fi'nol, a hynny oherwydd nifer o bethau gwallgof, trist, neu syfrdanol sy'n fy nharo yn gyson. Byddai'n benblwydd ar fy chwaer heddiw, ond bu farw fis yn ol. Cafodd salwch creulon, ond bu farw cyn i ni, ei theulu, ei cholli'n llwyr; does dim gwaeth na cholli rhywun annwyl, ac yntau/ hithau yn dal yno! Y cysur mawr yw iddi gael oes hir, llawn, a hapus,bywyd a dreuliodd yn canu, yn chwerthin, yn cymdeithasu, ac y gweithio'n galed. Penblwydd hapus, Bet!

Newydd glywed Adam Price yn rhoi’r bai ar lifogydd ofnadwy y penwythnos ar ddiffyg gwariant y llywodraeth ar amddiffynfeydd, a cham-dargedu gwariant ar amddiffynfeydd. Mae gen i barch mawr at Adam, ond nid yw peth fel hyn ond gwleidyddiaeth noeth a diegwyddor. Tra bod gen i’r cydymdeimlad mwyaf gyda’r trueiniaid sydd wedi dioddef, rhaid cofio mai dyma’r storm fwyaf ers blynyddoedd,gyda mwy o law yn disgyn mewn diwrnod nag a geir fel arfer gydol y mis. Gwarthus yw defnyddio hynny i geisio sgorio pwyntiau gwleidyddol ar gorn dioddefaint a thrallod. Ac rydw i’n aelod o dy blaid, Adam!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s