Yr hen a ŵyr, yr ifanc a dybia’,
Dyna ichi hen air sy’n chwalu’n chwilfriw y goel mai gwireb pob dihareb.
Mae gen i edmygedd mawr o’r ifanc; oni fum yn un ohonynt am gyfnod byr aeafau aneirif yn ol? Penboethni’r ifanc sydd wedi cynnau pob tân o werth erioed. Onibai i’r ifanc weithredu ar eiriau Saunders Lewis, fyddai mynnu hawliau i’r Gymraeg erioed wedi bod yn goelcerth, dim ond rhech denn mewn blwch tun. Roedd na unigolion canol oed, a hŷn, yno, ond yr ifanc oedd y tân dan y ffwrn.
Mae disgwyl i’r ifanc fod yn danbaid, yn chwyldroadwyr, ac yn unllygeidiog, ragfarnllyd. A dydy nifer o fyfyrwyr ifainc heddiw ddim yn ein siomi gyda’u hunllygeidrwydd: y pryder yw eu bod hwy am nacau i eraill weld y byd trwy’r llygad arall. Ac, yn sicr, i feiddio mynegi beth a welant drwyddi. Wele ambell engraifft
Petisiwn gan fyfyrwyr Caerdydd i dynnu yn ôl wahoddiad i Germaine Greer ddod i siarad i’r Brifysgol, oherwydd iddi ddangos rhagfarn yn erbyn merched traws-rywiol
Arweinwyr myfyrwyr ym Mhrifysgol Norwich yn gwrthod hawl i neb wisgo sombrero yn Ffair y Glas, ac yn atafaelu’r fath het oddi wrth fyfyrwyr; hynny ar sail ‘ lladrad diwylliannol’ oddi ar bobl Mecsico!
Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Manceinion yn gwrthod hawl i ddau awdur siarad yn y coleg oherwydd nad oeddynt yn cytuno efo’u safbwyntiau
Awdurdodau Prifysgol Southampton yn gohirio cyfarfod yn cwestiynu hawl gwladwriaeth Israel i fodoli, oherwydd gwrthwynebiad myfyrwyr.
Ym Mhrifysgol Princeton, yn yr UDA, cafwyd protest yn mynnu dileu cyfeiriadau at yr Arlywydd Woodrow Wilson a’i lywodraeth yng nghyrsiau’r coleg, oherwydd fod y rheiny yn rhagfarnllyd yn erbyn yr Affro-American. ( Tybed oedden nhw’n waeth na llywodraethau eraill?)
A’r un sy’n cael mwyaf o sylw, cais gan fudiad o’r enw Rhodes must fall, i gael Prifysgol Oriel, Rhydychen, i ddymchwel delw o’r arch-imperialydd, Cecil Rhodes, o’i le amlwg yn ei alma mater. Arweinydd y mudiad yn y coleg yw Ntokozo Qwabe, sydd yno o Dde Affrica, fel mae’n digwydd, ar Ysgoloriaeth Rhodes, sef arian a waddolwyd gan yr un arch-imperialydd i gynorthwyo myfyrwyr o dramor i fanteisio ar addysg ei hen goleg. Prif fyrdwn Qwabe yw fod gorfod edrych ar ddelw o’r arch imperialydd Prydeinig yn rheolaidd yn ei glwyfo’n emosiynol a seicolegol, o gofio agwedd Rhodes at y tywyll ei groen a’i weithredoedd imperialaidd yn Affrica. Llwyddodd y mudiad eisoes i gael y coleg i dynnu i lawr blác oedd yn coffau Rhodes. (A dilyn dadl y Bonwr Qwabe, petawn i aeaf nau ddau’n iau, a blewyn yn wirionach, gallwn innau fynnu bwldosar mawr i chwalu castell Caernarfon, a’i frodyr castellyddol, gan honni fod edrych arnynt yn fy nghlwyfo’n emosiynol a seicolegol. Petawn i…… ond dydw i ddim, a wna i ddim, am eu bod yn rhan o’m hanes, ac yn profi, ar eu gwaethaf, ein bod ni yma o hyd.)
Rhydd i bawb ei farn, meddech, ac i bob barn ei llafar: dyna sail democratiaeth. Hollol wir! Ond yr hyn sy’n bryder gwirioneddol yn yr enghreifftiau a nodwyd, yw fod y rhyddid sydd gan y myfyrwyr hyn i fynegi eu safbwynt yn cael ei wadu ganddynt hwy i eraill sydd â barn groes iddynt. Democratiaeth yw rhoi hawl i bawb gyfiawnhau ei safbwynt, trwy ddadl a gwrthddadl. Fodd bynnag, yr hyn a welir heddiw ar sawl campws prifysgol yw ceisio nacáu’r hawl i rai fynegi barn groes. Ac nid ar gampws Prifysgol chwaith. Arwyddodd cannoedd o filoedd betisiwn yn annog Llywodraeth San Steffan i wrthod mynediad i’r wlad i Donald Trump, oherwydd ei safbwyntiau ar Foslemiaid. Ydy, mae Trump yn ymddangos fel clown, ydy, mae’n dweud pethau hurt, ac, ydy, mae’n dweud pethau peryglus, ond nid trwy ei wahardd o’r wlad mae mynd i’r afael â’i safbwyntiau, ond trwy chwalu ei ddadleuon. Ond, na, cau ei geg trwy wahardd iddo lwyfan, meddai’r miloedd. Ac yma mae’r dychryn – democratiaeth yn troi’n dotalitariaeth. Yn y bôn, does dim blewyn o wahaniaeth rhwng meddylfryd y myfyrwyr sy’n ceisio mygu syniadau na hoffant, a gweithredoedd totalitaraidd Isis yn y Dwyrain Canol, Rwsia Gomiwnyddol, Dwyrain yr Almaen o dan Honnecker, Tseina ddiweddar, y Taliban, ac ati ac ati. 1984 George Orwell yw byd meddyliol carfan o ieuenctid ein prifysgolion. Efallai fod gwahardd sombrero yn ymddangos yn ddigrif, yn abswrd, ond mae ynddo egin gormes totalitariaeth, ac mae’r atafaelu yn mynd â ni i dir y Stassi a’r KGB.
A derbyn mai lleiafrif huawdl sy’n gyfrifol am yr hyn a nodais, mae dau beth pellach yn achosi pryder . Mae’r cyntaf yn adlewyrchu’r natur ddynol, sef fod y mwyafrif tawel bob amser yn barod i gael eu harwain gan leiafrif swnllyd. Chreda i ddim am eiliad fod mwyafrif myfyrwyr Caerdydd, nac Oriel, na’r un o’r lleill, yn credu fel y rhai sy’n crochlefain. Ond, fel yn Almaen y 1930au, ni ddengys y mwyafrif eu lliwiau. Ond, haleliwia! mae arwyddion gobeithiol mewn rhai prifysgolion bellach, gyda rhai myfyrwyr yn sefydlu cymdeithasau lle mae rhydd hynt i fynegi unrhyw farn. Yr ail bryder yw fod awdurdodau ambell Brifysgol yn caniatau i’r gwrth-ddemocratiaid gael eu maen i’r wal. A hynny oherwydd yr hyn a elwir yn ‘gywirdeb gwleidyddol’, sef y cyflwr modern, rhyfedd hwnnw sy’n golygu ofni dweud na gwneud unrhyw beth sy’n ymylu ar frifo teimladau dyn nac anifail. ( A oes dau derm yn nodweddu’r oes hon yn well na ‘chywirdeb gwleidyddol’ ac ‘iechyd a diogelwch’ ?)
Yn ôl at Ntokozo Qwabe. Yn ei grwsâd ef mae perygl pellach, sef ymgais i wyrdroi, neu ddileu, hanes, gwadu fod Cecil Rhodes, na’i gyfnod, wedi bod erioed. Perthyn i’w oes yr oedd Rhodes, nid perthyn i heddiw, ac ni ddylid ymdrin ag ef felly. Ni ddylid, ychwaith, ei ddileu ef na’i oes o’n ymwybyddiaeth. Onid dyna agwedd IS, wrth chwalu Palmyria. A’r Taliban wrth ddinistrio delwau mawr o’r Bwda yn Afghanistan. A’r Almaen Ffasgaidd, Tseina Mao, a Libya a Gogledd Corea heddiw . Dysgu gwersi o hanes ddylid ei wneud, adeiladu ar y da, ac osgoi ail-gyflawni’r drwg, nid ei wadu, na cheisio ei ddileu. Fedrwch chi fyth ddileu hanes , heb ddileu yr hyn sy’n hanfod dynoliaeth – ei chof.
O ddileu cof, a mygu barn groes, cam bach iawn yw hi ,wedyn, i swyddfa Charlie Hebdo, ac i grastir creulon y Dwyrain Canol, cam bach iawn.
Ymddangosodd y rhefriad hwn gyntaf yn y cylchgrawn Barn