Y DRYDEDD BONT
Ddoe cychwynnodd ymgynghoriad ar gael trydydd llwybr i groesi’r Fenai, a hynny oherwydd fod tagfeydd traffig ar y pontydd ( Pont Britania yn arbennig ), yn benodol ar rai adegau o’r diwrnod, ac ar rai adegau o’r flwyddyn. Mae hwn yn bwnc sy’n pegynu barn, yn union fel y gwna Brecsit. Ar un ochr mae’r rhai huawdl sydd eisiau trydydd llwybr dros y Fenai; ar y llaw arall mae carfan sy’n gwrthwynebu trydydd llwybr, gan honni fod pethau’n iawn fel ag y maent.
Hyd y gwelaf i, mae dwy safbwynt sylfaenol gan y rhai sy’n cefnogi unrhyw opsiwn sy’n gwella’r ddarpariaeth bresennol i groesi’r Fenai.
Yn gyntaf, mae llais y gyrrwyr rheiny nad ydynt yn hoffi eistedd yn eu ceir mewn ciw, hyd yn oed am ddeng munud. Yn ôl y rhain, ni ddylent hwy orfod ciwio am eiliad, ac fe ddylent gael rhyw hawl dwyfol i groesi’r Fenai yn hollol ddirwystr.
Yn ail, mae safbwynt awdurdodau’r ynys, sy’n hawlio fod tagfeydd ar y bont yn rhwystr i ddatblygiad economaidd Mon, ac yn atal cwmniau rhag sefydlu yno.
Mae a wnelo’r safbwynt wrthgyferbyniol yn bennaf ag ystyriaethau cadwriaethol. Mynn honno na ddylid amharu ar yr amgylchfyd, yn enwedig mewn ardal mor hardd, gan bont arall, neu drwy ehangu’r Bont Britannia bresennol. Ymhellach, haerant nad oes, mewn gwirionedd, angen ehangu’r ddarpariaeth bresennol, oherwydd nad yw dadleuon y safbwynt arall yn dal dŵr. Wedi dwys ystyried, ( fel y dydlid, ar fater mor bwysig ), penderfynnais i mai ar hoelen yr ail garfan hon yr wyf i am hongian fy het.
Mae dwy bont yn croesi’r Fenai. Agorwyd pont Menai, pont grog Telford, yn 1826, yn fodd i deithwyr ar droed, neu geffyl, neu gerbyd, groesi o’r tir mawr i’r ynys, neu fel arall, wrth reswm. Yna, yn 1850, agorwyd pont Stevenson, sef Pont Britania, ( wedi ei chamenwi, gan nad oes wnelo affliw o ddim a Britania rwls ddy wefs! ), er mwyn cario trenau dros y culfor. Felly y parhaodd pethau, nes i’r Tiwb ( enw lleol Pont Britania ) fynd ar dân yn 1970. Fe’i hatgyweiriwyd, i raddau, i gario trenau, ond, yn 1980 agorwyd y bont gyda llwyfan ffordd uwchben y rheilffordd, er mwyn cario’r A55 newydd. Mae dilysrwydd, felly, i’r ddadl sy’n mynnu mai pont wedi ei hadeiladu ar gyfer traffig 1980 yw’r bont bresennol, a bod cynnydd sylweddol mewn traffig yn y 38 mlynedd ers hynny. Ond gadewch inni edrych ar y sefyllfa go iawn, a hynny’r sefyllfa sy’n bod yn 2018.
Yr wyf i yn croesi Pont Britania fwy nag unwaith y dydd ers nifer o flynyddoedd. Yn y blynyddoedd rheiny gallaf gyfrif ar fysedd fy nwy law sawl gwaith yr wyf wedi fy nal mew ciw arni. Mewn gwironedd, mae cael eich dal mewn tagfa yn rheolaidd ar y ffordd o neilltu’r bont yn ddibynnol ar ddau factor syml, sef amser a chyfeiriad. Yn gyffredinol, mae tagfa traffig ar y ffordd i Bont Britania am rhyw hanner awr i dri chwarter yn y bore, rhwng tua 8.15 a 9.00, a rhyw awran yn y pnawn, rhwng 4.30 i 5.30, a hynny ar ddyddiau gwaith yn unig. Ymhellach, dim ond ar un ochr i’r bont y mae’r tagiad, sef ar ochr Môn i’r tir mawr yn y bore, ac ar ochr y tir mawr tua’r ynys yn y pnawn. Prif achos y tagiadau, fel y gellir tybio, yw trigolion yr ynys yn mynd i’w gwaith yn Arfon yn y bore, gan ddychwelyd adref yn y pnawn. Mae tagiadau, hefyd, ar Bont Menai, ond nid hanner cymaint a’r rhai sydd i groesi’r bont arall. Bydd tagiadau ar y pontydd ar adegau eraill, weithiau, megis pan fydd heidiau o ymwelwyr yn dod i Fon ar wyliau banc ac ati, neu pan fydd achlysur arbennig ar yr ynys, megis y Primin ganol Awst, wrth i ffermwyr gweddill Gogledd Cymru ruthro tuag adref i odro a bwydo’r da ( ynghyd ag ymwelwyr cyffredinol ac arddangoswyr, wrth reswm) . Gellir cael tagfeydd erchyll ar Bont Menai ar yr achlysuron prin hynny pan fydd Pont Britania ar gau, oherwydd gwynt neu ddamwain. Os ystyriwch sawl Gŵyl Banc sydd mewn blwyddyn, sawl dydd Gwener sydd mewn haf, sawl Primin sydd, a sawl gwaith y caeewyd Pont Britania, am unrhyw reswm, y llynedd, fe allwch roi nifer tagfeydd ger y bont yn ei gyd-destun.
Y tagefydd eu hunain, wedyn, a’r cwyno am faint o amser sy’n cael ei wastraffu yn eistedd ynddynt mewn car. Yn yr ychydig adegau pan wyf i wedi cael fy nal mewn tagfa ger y bont, ni chredaf imi fod yno, unwaith, am lawer mwy na deng munud . Onid yw’r ffaith nad yw holl dagfa’r bore yn parhau mwy na thri chwarter awr ynddo’i hun yn dangos pa mor hir mae pob car unigol yn gorfod aros i groesi’r bont. Rai wythnosau yn ôl, cymrais awr ac ugain munud i deithio 6 milltir i ganol Lerpwl. Rydw i wedi bod mewn tagfa naturiol ( hynny yw, nid oherwydd damwain ) am ddwyawr a mwy mewn ardal ddinesig yn Lloegr. O’i osod ym mherspectif y darlun mawr, dydy tagfeydd i groesi’r Fenai ddim yn dagfeydd. Anghyfleusterau bychain ydynt, ac anghyfleuster y gellid, yn aml, eu hosgoi trwy gychwyn oddi cartref rhyw flewyn yn gynt.
Y dadleuon economaidd wedyn. Dydw i ddim yn economegydd, nac yn fab i un, ond fedra i ddim dychmygu y bydd diwydiannau lu yn rhuthro i adleoli i Fôn os adeiledir pont arall dros y Fenai, neu ehangu’r llwybrau presennol. A chan fod yr awdurdodau ar yr ynys yn ddall i bopeth ond Wylfa newydd, ac yn canolbwyntio’n llwyr ar honno fel achubiaeth economaidd, fe allaf eu sicrhau’n llwyr na fydd dyfodol honno yn ddibynnol ar ehangu Pont Britania. Wnaiff Horizon ddim rhoi’r ffidil yn y to, a chodi pac, dim ond oherwydd tagfa geiniog a dimai ger Pont Britania. Wedi’r cwbl, dydyw i ddim wedi clywed am unrhyw ardal arall fyddai’n rhoi gwahoddiad i’w pwerdy niwclear, heb son am fynd ar eu gliniau a chrefu iddynt ddod yno. Beth bynnag, petai trigolion Môn yn poeni mor uffernol am waith a sefyllfa economiadd yr ynys, fydden nhw ddim wedi pleidleisio o fwyafrif o blaid Brecsit, gan beryglu holl ddyfodol porthladd Caergybi a’i gyswllt gyda Iwerddon a’r Farchnad Ewropeaidd.
Beth mae’r trydydd llwybr yn mynd i’w olygu i ni, tybed? Yn sicr, bydd yn golygu llygru llawer mwy ar ardal hardd glannau’r Fenai. Dydyn ni’n sicr ddim angen pont arall; gormod o bwdin i dagu ci fyddai hynny. Mae’r ddwy sydd yno’n barod, yno, fel y nodais, ers bron i ddwy ganrif, ac yn rhan, erbyn hyn, o’r amgylchedd a’r olygfa. Byddai trydydd pont yn graith ar yr olygfa. Yn sicr, dydy pontydd modern ddim ar batrwm sy’n ychwanegu at harddwch naturiol ardal, hyd yn oed os yw honno’n ardal drefol, hyll. Anghenfilod esgyrnog ydynt, wedi eu llunio er effeithiolrwydd yn hytrach na gweddu i’r amgylchfyd. Bydd unrhyw waith i gysylltu’r A55 gydag unrhyw lwybr newydd, hefyd, yn amharu mwy ar yr amgylchfyd, ac at ddifetha un o’r golygfeydd naturiol gorau yng Nghymru, os nad ym Mhrydain gyfan. A’r cwbl dim ond er lles modurwyr trahaus, hunanol, diamynedd, sy’n mynnu fod eu bywydau prysur a phwysig hwy yn bwysicach na phopeth arall, ac nad oes gan ddim byd hawl i’w gorfodi hwy i aros mewn ciw am chwarter awr bob dydd.
Ond, er yr holl ddadleuon yn erbyn, mae’n sicr mai dod a wna’r trydydd llwybr dros y Fenai, beth bynnag fydd ffurf a natur y llwybr hwnnw. Ac nid oherwydd dadleuon modurwyr, na Chyngor Môn, y daw, ond, yn hytrach, oherwydd Llywodraeth y Cynulliad. Mae honno, welwch chi, yn poeni cymaint am y cwynion parhaus ‘mai i’r De y mae popeth yn mynd’, yn torri silff ei thin i ddangos nad gwir mo hynny. A’r hyn fydd yn dangos eu tegwch i ni fydd horwth o anghenfil diangenrhaid, fydd ond yn gysur i ychydig, ond yn chwalfa i lawer.