Dafydd Fôn Hydref 23 2020
Mae caethiwed amser wedi bod yn fwrn ar ddynoliaeth ers cyn cof, gyda dianc o’i grafangau yn freuddwyd gyffredin. Atal amser oedd hanfod chwedl Gwales ym Mhenfro, gyda phedwar ugain mlynedd yn mynd heibio heb i’r seithwyr sylweddoli, a phen Bendigeidfran yn eu diddanu. Aeth Osian yntau, o’r Iwerddon, gyda’i dduwies i Wlad yr Ifanc lle nad oedd amser, a, phan fynnodd ddychwelyd i’w wlad ei hun, nid adwaenai neb, ac nid adwaenid yntau, gan nad ydoedd ond chwedl o’r oesoedd gynt. Oherwydd brafado, cyffyrddodd ei draed â’r ddaear, a throes Osian yn llwch, i bwysleisio mai amhosibl yw dianc o grafangau amser. Neu beth am yr holl straeon tylwyth teg, ble mae meidrolyn yn cael ei hudo i’w cylch, dim ond i ddiflannu am flynyddoedd, ond dychwelyd ymhen ennyd, yn ei ganfyddiad ei hun. Y mae teithio trwy amser, wedyn, yn freuddwyd gyffredin, gyda pheiriant amser ffuglennol HG Wells yn enghraifft arbennig o’r genre.
Meddwl am beiriant amser fyddaf innau, hefd, peiriant lle gallwn ddianc o bryderon y presennol, gyda’i faich o bryderon, i wlad a byd sy’n llawer gwell, byd lle nad oes Cofid na gofid. I ble’r awn tybed?
Un o’m hoff ddiddordebau yw darllen am hen wareiddiadau coll y cynfyd, ymherodraethau cynnar Sumer, yr Aifft, yr Hittite, Phoenicia, Groeg a Rhufain. Mor braf fyddai crwydro’r gwleydd rheiny pan oedd yr hyn a ddarllenwn amdanynt yn bodoli, a’r brenhinoedd chwedlonol yn cerdded y tir. Byddai’n wych medru ateb cwestiynau fil sydd wedi poeni archeolegwyr ers degawdau, cwestiynau megis Pwy?, Ble? Sut? a Pham? Gallwn gasglu yr holl wybodaeth, a dychwelyd gydag ef yn fy nghôl. Wrth gwrs, fyddai neb yn fy nghoelio, ond fe fyddwn i’n gwybod, ac yn y sicrwydd hwnnw y mae’r cysur.
Eto, mae’n sicr mai’r ymweliadau mynychaf fyddai rhai i’m gwlad fy hun yn ystod ei hanes hir,a hynny oherwydd fy mod wedi treulio fy mywyd, bron i gyd, yn broffesiynol ac yn oriau hamdden, yn byw ei hanes, ei hiaith a’i diwylliant. Byddai raid imi gael sbec sydyn ar y tirwedd y bu imi fyw fy holl fywyd ynddo o’r carifoedd cynnar; gweld y boba roes fod i Fryn Celli Ddu, Barclodiad y Gawres, a dwsianau, os nad cannoedd, o gromlechi cyffelyb sydd wedi diflannu bellach. Symud yn nes ymlaen i weld seiri Oes yr Haearn, sydd ar sawl bryn a mynydd yn y cylch, gan edrych ar fywydau’r bobl; yn sicr, fyddai eu natur fel unigolion, na’u perthynas, fawr ddim gwahanol i’r eiddom ni, dim ond y pethau o’u cwmpas sy’n newid. Fe fyddwn, wedyn, yn symud i lefydd mwy penodol, mewn canrifoedd ychydig yn nes. Byddai’n ddiddorol mynd i deyrnasoedd yr Hen Ogledd, Manaw Gododdin a Rheged yn benodol, i ateb y myrdd cwestiynau sydd wedi berwi yn fy mhen ers imi ddod ar draws barddoniaeth Aneurin a Thaliesin dros hanner canrif yn ôl yn Adran y Gymraeg Bangor; byddai cael sgwrs efo Talhaearn Tad Awen, Blwchbardd, ac Afan Ferddig, ac eraill hefyd, yn fendigedig. Symud, wedyn, trwy’r oesoedd a labelir yn ‘dywyll’ gan fwrw peth golau ar y rheiny. Yn y Canol Oesoedd, rhaid fyddai aros ennyd – go hir – gyda ‘hebog merched Deheubarth’ ; ie, treulio noson, a mwy, mewn tafarn gyda’r eos ei hun, Dafydd ap Gwilym, ynghyd â sawl noson yng nghadeirlan y wig. Cyn gadael y cyfnod, byddai raid imi gael cyfnod yng nghwmni’r bardd arall sy’n meddu fy nghalon, Guto’r Glyn, pencampwr cywyddau dyn.
‘Mae’r henwyr’ …… gofynnodd Guto y ei henaint, ‘ ai meirw’r rheiny? / Hynaf oll wyf i / Siaradus o wr ydwyf/ Sôn am hen ddynion ydd wyf’
A minnau heddiw’n hen, deallaf eiriau Guto i’r dim, a rhyfeddaf fod dyn o’r bymthegfed ganrif yn gwybod yn union sut yr wyf i, bum canrif a mwy’n ddiweddarach, yn teimlo. Wedi gadael Guto, byddwn wrth fy modd yn mynd i ambell dref yng Nghymru ym merw’r Oes Ddiwydiannol; mae darluniau dychrynllyd o rai o gymoedd y de wedi eu serio ar fy nghof,ac mae George Borrow wedi ychwanegu at y chwilfrydedd. Beth am Ferthyr yn 1851, y dref fwyaf yng Nghymru, gyda’r mwyafrif llethol o’i thrigolion yn Gymru Cymraeg.
Gan fod hanes lleol yn un o’m prif ddiddordebau, y rhwystredigaeth fwyaf wrth ymchwilio yw cyrraedd pen draw tywyll, lle nad oes cofnod na chyfeiriad i roi ateb, dim awgrym, hyd yn oed, a’r wefr fwyaf yw canfod ateb, neu gadarnhâd i syniad a fu’n cyniwair yn y meddwl. Mor braf, pan âi’n dywyllwch, fyddai cael neidio i’r peiriant amser i gael hyd i’r ateb. Pwy oedd…..? Beth ddigwyddodd i ……? Pam y bu …….” Sut …..? Hawdd!
Ond, eto……
Beth petawn i’n byw yn y cyfnodau hyn? Neu’n aros mewn un ohonynt am gyfnod rhy hir? Rydw i wedi mynd heibio oed yr addewid, felly fyddwn i, petawn i y tu allan i’r peiriant amser, fyddwn i ddim wedi goroesi i’r oed hwn. Mae’n debyg fod Guto’r Glyn wedi mynd heibio’r un garreg filltir, ond eithriad ydoedd, a thystia ei fod yn siarad am gyfoedion meirw; dyna fyddwn innau. A dweud y gwir, byddai fy siawns o oroesi plentyndod wedi bod yn hynod o isel, gan fod marwolaeth plant yn beth hynod o gyffredin, hyd yn oed hyd rhyw ganrif yn ôl. Ar hyn o bryd, rydw i yn fy llofft, yn orweiddiog, wedi torri fy nghoes, plastr parisaidd trwchus yn ei hamddiffyn, plat a sgriwiau trwy’r esgyrn i’w cadw’n syth, a sawl cyffur i’m cadw’n gysurus, a gwella’r anaf. Beth petawn wedi cael y ddamwain ar un o fy nheithiau trwy amser. Fyddwn i ddim yn hoffi meddwl am y peth. Heno mae’r clo bach wedi cychwyn yma yng Nghymru, ac rydan ni wedi bod yng nghanol y pandemig ers chwe mis bellach. Rydw i’n deall natur y feirws, rydw i’n gwybod ei effaith, ac rydw i’n ffyddiog do gwyddonwyr galluog trwy’r byd yn gweithio gewyn ac asgwrn i darganfod brechlyn i atal y feirws. Ond beth petawn i’n mynd i weld Dafydd ap Gwilym. Gwyddys i Dafydd farw’n wr ifanc, hyd yn oed yn ôl disgwyliadau’i oes; mae nifer yn credu iddo farw yn anterth y Pla Du 1350 -1353. Bu i’r pla hwnnw ladd tua thraean o holl boblogaeth Ewrop, ac nid oedd gan neb y syniad lleiaf beth oedd ei darddiad, dim ond ei fod yn farwol i bawb a’i daliai, ac nad oedd unrhyw feddyginiaeth o gwbl iddo. Yr unig gred oedd mai barn Duw ydoedd, ac ni ellid gwrthwynebu barn Duw. Petawn i yno, fyddai gen i fawr o obaith.
Wedi pwyso a mesur, er mor ddiddorol fyddai teithio’n ôl trwy amser, rydw i wedi dod i’r penderfyniad na fyddwn i’n barod i fentro i le mor beryglus; na, llawer iawn gwell gen i fyw yn y presennol, ac edrych i’r dyfodol, gan ddal i ddyfalu am y gorffennol, a disgwyl cael hyd i beth goleuni ar ambell i gornel dywyll. Gwell aros ya – rhag ofn!