Dafydd Fôn 26 Hydref 2020
Ddiwedd y ganrif ddiwethaf cefais y fraint o fod yn arholwr a phrif arholwr Iaith Gymraeg, swydd barchus, ond hollol arswydus, gan fod dyfodol pobl ifanc yn y fantol. O’r herwydd, roedd gosod y papur arholiad yn waith anodd, manwl, a llafurus, er mwyn sicrhau ei fod, yn ddarnau darllen ac yn gwestiynau, yn addas i’r holl ystod o alluoedd, yn cynnwys rhwyd i ddal y gwannaf, ac yn ddigon heriol i ymestyn y galluog iawn. Rhaid oedd bod yr un mor ofalus wrth baratoi cynllun marcio i’r arholwyr eraill ei ddilyn y neu celloedd unig ledled y wlad, ceisio rhagweld pob ateb posibl i bob cwestiwn; wedi’r cyfan, mae cwestiynau ar ddarnau darllen yn gorfod bod yn weddol amws. Wedi cwblhau’r cyfan, ar ddiwedd proses o ryw chwe mis, neu fwy, y peth pellaf o’r meddwl oedd eistedd yn ôl yn gwenu’n hunan-foddhaus; onid oedd profiad yn dangos mai dyma ddechrau’r problemau. Roedd y rheiny’n cychwyn yn y cyfarfod arholwyr cychwynnol, gydag ambell un yn derbyn yr atebion posibl i gwestiwn syml, ond yn gofyn ‘Beth petai rhywun yn ateb….?’ Roedd arholwyr yn adnabod eu disgyblion, ac yn llwyr ddeall y natur ddynol. Wedi caniatau pob ateb posibl, gyrru’r arholwyr adref i farcio, a disgwyl i’r ffôn ganu, a chanu a wnâi, a hynny’n eithaf buan – dim ots sawl ateb posibl oedd ar gael i gwestiwn o ddealltwriaeth syml, roedd rhyw ymgeisydd yn hollol saff o gael hyd i ateb arall; mae crebwyll y meddwl dynol yn ddihysbydd, ac yn ddiffiniau! Diolch am hynny, meddaf i, ond nid pan oeddwn yn arholwr!
Fel Pennaeth ysgol wedyn, byddwn yn gosod rheolau a ffiniau, i ddisgyblion ac athrawon fel ei gilydd. Pendroni am ddyddiau i sicrhau fod pob rheol yn hollol glir, o safbwynt pwrpas, gweithrediad, ac effaith, ac yna gollwng y rheol druan i ffau’r llewod, er mwyn i’r natur ddynol ei darnio’n rhacs jibidêrs. Byddai’r athrawon, yn ddios, yn chwilio am bob eithriad posibl i weithrediad esmwyth y rheol; byddai ‘cerdded ar un ochr’ yn codi cwestiynau am bob un man yn yr ysgol ble’r oedd hynny’n anodd, neu gyfeiriad at unrhyw adeg pan fyddai trol y gofalwr ar yr ochr honno i’r llwybr. Yn y cyfamser, byddai’r disgyblion yn cynllwynio’n ddistaw sut i danseilio, neu osgoi’r rheol ar bob achlysur posibl. Rheol eistedd mewn dosbarth oedd yn un arall a gofiaf oedd yn destun gwych ar gyfer y tanseilwyr a’r holltwyr blew,gyda gwrthwynebiad yn amrywio o’r gwrthodwyr rhonc, i’r tomosiaid slei, pob un yn barod i sicrhau’r statws quo, er mai’r statws quo oedd y broblem!
Daeth dyddiau difyr mympwyon chwit-chwat y natur ddynol yn ôl i’r cof gyda chlo diweddaraf Llywodraeth Cymru, a’u cyfyngiadau ar archfarchnadoedd. Roedd y cyfyngiadau lleol eisoes wedi rhyddhau bytheiaid yr atalnodi manwl, ac archddiaconiaid yr hollti blew, trwy eu sylwadau am groesi ffiniau ac ati, ond, gyda’r cyfyngiadau ar yr archfarchnadoedd, daeth eu hawr fawr, awr y chwyddwydr, ac awr yr ‘Ond beth petai’, bondigrybwyll.
Mae pwrpas cyfarwyddiadau’r Llywodraeth i archfarchnadoedd beidio gwerthu ond yr hyn sy’n angenrheidiol yn hollol syml; mae’n atal pobl rhag mynd am sbri siopa i adeiladau anferth sy’n gwerthu popeth o dan haul, gan dreulio oriau ynddynt yn crwydro o alé i alé yn llygadu, ond heb brynu. Yn y cymysgu poblog, hamddenol, dan-do hwn, y mae’r feirws yn frenin; atal hynny yw prif fwriad y gwaharddiad. Yn ogystal, mae’n ceisio rhwystro cystadleuaeth annheg, gan fod siopau bychain, arbenigol, yn gorfod bod ar gau yn ystod y clo. Sefyllfa digon rhesymol, a hollol deg, hynny yw, nes i ddau fath o bobol ddechrau crochlefain.
Yn gyntaf, mae criw yr ‘hawliau dynol’, y rheiny sy’n dweud na ddylai dim amharu ar eu hawliau hwy i wneud fel ag y mynnant, a bod ganddynt hwy rwydd hynt i wneud unrhyw, a phob, peth. Y rhain sy’n hawlio parcio eu ceir blith-draphlith yn Eryri, a mannau eraill, sy’n mynnu’r hawl i grwydro ble y mynnant, pryd y mynnant, ac sy’n protestio fod unrhyw gyfyngiadau, er gyda’r bwriad i achub bywydau miloedd, yn amharu ar eu rhyddid hwy; hyd y gwelaf i, eu rhyddid hwy i ledaenu’r feirws a lladd eraill. Mae cyfyngu ar unrhyw beth arferol yn destun gwrthwynebiad gan y rhain, ond maent yn eithaf hawdd delio gyda hwy, sef eu hanwybyddu, a gadael i gyfraith gwlad ddelio gyda hwy pe torrent hi. Wedi meddwl, efallai fod hynny’n weddol hawdd, ond yn gynyddol anodd, ya ym Mhrydain, ond mae byddinoedd arfog o’r rhain yn torsythu ar strydoedd yr UDA yn codi ofn a dychryn, yn enwedig ambeth allai fod ar ei ffordd draw yma ymhen yrhawg.
Yr ail ddosbarth sydd fwyaf anodd delio ag ef, a hwy sy’n creu’r mwyaf o rwystredigaeth; unwaith y mae amwysedd, unrhyw fath o’r amwysedd leiaf, yn y rheol, daw byddin yr holltwyr blew o bob twll ym mhob wal, er mwyn tynnu sylw at bob dehongliad posibl o’r gair lleiaf, a’r hollnod distatlaf. Y mae’r fyddin hon, heddiw, yn cael modd i fyw yn y gair ‘angenrheidiol’ yng ngorchymyn y Llywodraeth; y mae’n un o’r geiriau hynny, welwch chi, sy’n agored i ddehongliad ac ar eiriau o’r fath y mae byddin yr holltwyr blew yn byw, wrth weld geiriau tebyg y mae eu llygaid yn serennu, eu gweflau’n glafoerio, a’u dannedd yn llifo o ddwr, canys y mae yma wledd o loddesta. Pa beth, meddai’r holltwyr blew, nad yw’n angenrheidiol mewn amgylchiadau penodol; does dim ots o gwbl os yw’r amgylchiad ond yn debygol o ddigwydd unwaith yn Sul y pys, neu mor annhebygol ag ennill y loteri, mae’r ffaith ei fod yn bosibl yn ddigon. Dim cerdyn penbwydd i gydnabod pell o Dimbyctw-argyfwng; câs y ffôn wedi cracio – argyfwng; angen sosban arbenigol i ferwi spigoglys – argyfwng! Ar ben hyn, ystyriwch mai pythefnos ydy’r clo hwn, nid blwyddyn, nid dwy. A oes gwirioneddol raid prynu unrhyw beth ond bwyd ar gyfer y pythefnos hwn? Ac, os oes,beth am y we? Eto mae’n debyg fod gan yr holltwyr blew ateb i bob cwestiwn; wedi’r cwbl, buont yn hollti’n ddigon hir i ddatblygu’n arbenigwyr.
Ymhellach, mae hollti blew er mwyn gwrthwynebu yn arbenigedd gwleidyddion, sef y gwleidyddion hynny nad ydynt mewn grym, a’r rheiny mai eu hunig ddiddordeb yw gweld bai ar bopeth a wna’r rhai hynny mewn grym. Yn anffodus, dyna nodwedd gwleidyddiaeth fodern; efallai mai felly y bu erioed, ond mae’n ymddangos yn waeth heddiw. Er nad oes gan y Llywodraeth Doriaidd yn San Steffan yr un obedeia sut i weithredu yn y pandemig, mae ei chwn rhech yng Nghymru yn gweld bai’n gyson am ymdrechion Llywodraeth Cymru i wynebu’r un argyfwng. Gyfeillion, os nad ydych yn gwybod yr ateb, peidiwch â gofyn y cwestiwn! Mae gorchymyn clo’r Llywdraeth ym Mae Caerdydd wedi bod yn fêl ar fysedd ei gwrthwynebwyr, a hynny’n bennaf am nad oes ganddynt hwy atebion eu hunain, dim ond gwrthwynebiad greddfol i unrhyw beth a allai fod yn ateb. Fel arfer, pan oeddwn,fel pennaeth ysgol, yn wynebu gwrthwynebiad, agored, neu slei, i unrhyw ddatrysiad i broblem roedd hi’n arwyddocaol y deuai’r gwrthwynebiad mwyaf o gyfeiriad yr union rai oedd yn cwyno fwyaf am y broblem!
Ond, dyna fo, rhaid tewi am y tro, fedran ni ddim newid y natur ddynol – ac mae gen i ffansi mynd i lawr i un o’r archfarchnadoedd lleol dim ond am sbec