Sylwadau’r dydd

Bydd y dudalen hon yn cynnwys sylwadau fesul diwrnod am bethau sydd wedi fy nharo y diwrnod hwnnw. Gallant fod am unrhyw beth. Byddant yn fyr, fel arfer

 

Dydd Mawrth Ionawr 9  2018

Criw o rai hynod ddigrif yw aeodau UKip, yn gyson yng ngyddfa’u gilydd, fel haid o ffuretod mewn sach. Heddiw, gwrthododd grwp Iwcip Bae Cardydd i’w haelod newydd dros Ogledd Cymru, Mandy Jones, gael ymuno efo hwy. Hyn er ei bod yn aelod o’r blaid, ac wedi ei hethol yn ddilys. `Nigel Farage, wedyn, yn llongyfarch arweinydd newydd y blaid, Henry Bolton,  am lwyddo, o’r diwedd, i gael cyhoeddusrwydd yn y wasg – trwy adael ei wraig am fodel hanner ei oed.

Pwy sydd eisiau gelynion, pan ellwch fod aelod o griw cyfeillgar Iwcip?

Llywodraeth y Cynulliad heddiw’n cyhoeddi eu bod am fwrw ymlaen efo’r cynlluniau i wneud taro plant yn anghyfreithlon, Gobeithio y byddant yn fwy llwyddiannus gyda hyn nag y maent wedi bod gyda’u cynlluniau i ddileu tlodi plant.

Dydd Mercher  Ionawr 10 2018

Yn dilyn gwrthodiad ddoe gan ei grwp ei hunyn y Bae, Mandy Jones, AC diweddaraf Iwcip, yn dweud nad ydy hi eisiau bod yn rhan o’u grwp nhw, gan mai bwlis ydyn nhw. Uucs!! Cadwch eich clic bach! Parti pantomeim ydy hwn, tybed?

Mae Llywodraeth y Cynulliad heddiw wedi cynnig miliynau i Lywodraeth San Steffan tuag at godi Morlyn Abertawe.Da jawn, chdi, Carwyn! Ac yn falch o weld fod yr arian ar gael. Edrych ymlaen yn awr i weld yr un symiau yn cael eu rhoi i’r Gwasanaeth Iechyd, ac i’r Awdurdodau Lleol

Dydd Gwener  Ionawr 12 2018

WJEC!  Sefydlwyd y bwrdd arholiadau CBAC gan awdurdodoau lleol Cymru 90 mlynedd yn ol. Dyna yw ystyr y ‘cyd’ yn yr enw. Ei fwriad oedd gwasanaethu Cymru. Cyn hynny byrddau o Loegr oedd yn gyfrifol am arholiadau Cymru. Ddoe, diflannodd pob arlliw o esgus o fwrdd arholi yn gweithio dros Gymru, trwy benodi rhywun a dim cysylltiad a Chymru o gwbl yn Brif Weithredwr, a dim gwybodaeth o gwbl am y Gymraeg. Bwrdd arholi masnachol yn unig yw’r WJEC bellach, yn cystadlu am fusnes arholi ar draws y byd. Fodd bynnag, mae’n debyg, pan fydd angen cyfweliad gyda Rdaio Cymru, neu S4C, y ceir hyd i rywun sy’n siarad y Gymraeg, petai hwnnw, neu honno, ond yn weithiwr cyffredin yn y bwrdd. Wedi’r cwbl, mae bwrdd rheoli’r WJEC wedi dangos y byddai cael un o’r porthorion Cymraeg ei iaith yn ddigon da i siarad efo’r cyfryngau Cymraeg.

 

Mae’r Trwmp wedi ei gwneud hi eto, trwy roi ei droed anferth yn ei geg fwy. Does gan y dyn ddim owns o synnwyr cyffredin, na’r syniad lleiaf sut y dylid ymddwyn mewn swydd mor amlwg. Beunydd, mae’n ymddangos fwy fel mochyn mewn siwt ddrud, yn rhochian mewn parlwr. A fu erioed rywun mwy anaddas i’w swydd?

Dydd Llun  Ionawr 15 2018

Rhaid imi longyfarch Ryan Giggs ar gael ei benodi’n Rheolwr tim peldroed Cymru heddiw. Da iawn! Dim ond gobeithio y bydd yn barod i fynd gyda’i dim i bob gem gyfeillgar; doedd o ddim yn rhy barod i wneud hynny pan oedd o’n chwarae i’w wlad

Dydd Mercher Ionawr 31 2018

Diwrnod olaf Ionawr! I ble’r aeth y mis, tybed? Trump yn annerch ei wlad neithiwr, ac yn dal i fytheirio a chwythu bygythion. Eisiau ail agor Bae Guantamo i boenydio ei elynion – fe fydd y lle yn orlawn!!

Diwrnod olaf cyfnod trosgwyddo Ionawr yn  byd pel-droed. O weld faint mae rhai o’r prif glybiau cyfoethog yn ei dalu i brynu chwaraewyr digon cyffredin, yn aml dim ond er mwyn atal i glybiau eraill eu cael,  ac o weld faint o glybiau sy’n stryffagio’n ariannol, onid yw’n bryd rhoi rheolau cadarn i nodi faint yn union o arian y gall clwb unigol ei wario. Fel arall, mae’r gem ar ei ffordd i gael ei difetha’n llwyr.