Seithenyn, saf di allan

Ymddangosodd y canlynol yn Barn Rhifyn Awst 2021

I’r ddau neu dri ohonoch sydd yn darllen y golofn hon yn ysbeidiol, fe wyddoch mai anaml iawn y byddaf yn mentro I fyd gwleidyddiaeth. Onid oes gan Barn golofnydd gwleidyddol digon tebol eisoes, heb I adyn fel fi ryfygu? Ond y tro hwn mae gofid yn fy ngorfodi.

Mae gwraidd fy ngofid yn y Brecsit bondigrybwyll, nid yn y garreg ei hun a daflwyd I’r dwr, ond y cylchoedd anorfod o’I chwmpas.Ceffylau blaen ymgyrch Brecsit oedd eithafwyr asgell dde, ac arweiniodd eu llwyddiant I lywodraeth asgell dde yr un mor eithafol. Daeth yr unigolion oedd, cyn Brecsit, mewn pleidiau a mudiadau oedd yn rhy eithafol  hyd yn oed I’r Blaid Geidwadol, yn ôl I’r blaid honno wedi Brecsit, gan ei llusgo lawer mwy I’r dde nag y bu ers blynyddoedd. Apeliwyd I’r Seisnigrwydd ynysig, senoffobig yn nhrwch pobl Lloegr ( a nifer yng Nghymru ), ac arweiniodd hynny at lwyddiant etholiadol Boris yn 2019. Gyda hynny, fe welodd aelodau mwy rhesymol ei blaid mai yn ei boblogrwydd ef yr oedd dyfodol llywodraethu, fe’u swyngyfareddwyd hwy gan rym, a mudasant – yn ymddangosiadol, beth bynnag – I’r dde eithaf . Dyna’r union sefyllfa sydd yn yr UDA, gydag aelodau’r Blaid Weriniaethol yn aberthu pob egwyddor ar allor poblogrwydd eithafiaeth Trump, dim ond er mwyn ennill grym gwleidyddol.

Y canlyniad yma yw fod y Blaid Geidwadol, oedd eisoes yn blaid Lloegr yn bennaf, wedi symud ymhellach tua’r pegwn Lloegr-ganolog. A dyna’m gofid; mae’r eithafiaeth hwn yn y Blaid Geidwadol, yn fygythiad mawr iawn I ddatganoli yng Nghymru. Mae’r Ceidwadwyr yn y Senedd yng Nghaerdydd, erbyn hyn, yn cymryd yn ganiataol mai pwrpas gwrthblaid yw gwrthwynebu’r Llywodraeth ar bob un pwnc, pob un penderfyniad, pob un datganiad, heb ystyried o gwbl a oes unrhyw rinwedd ynddynt ai peidio: gwrthwynebu sy’n bwysig, nid pwyso a mesur. Agwedd sylfaenol y Ceidwadwyr Cymreig, yn ddieithriad, yw mai gan Lywodraeth ( Doriaidd) Lloegr yn unig y mae’r gwrionedd. Naturiol, felly, yw haeru fod unrhyw benderfyniad gwahanol I Loegr yn gamgymeriad dybryd ar ran Llywodraeth Cymru. Plaid Lloegr-sy’n-gwybod-orau yw hi bellach, a Phlaid Lloegr-yng -ghymru

Nid yw’n gyfrinach fod nifer o gynrychiolwyr y Blaid Doriaidd yn wrthwynebus I ddatganoli. Yn dilyn sefydlu’r Cynulliad, er eu gwrthwynebiad I’r syniad, bu ymdrech deg gan y Blaid Geidwadol yng Nghymru, yn enwedig o dan arweiniad Nick Bourne, i fod yn rhan weithredol o’r corff newydd. Erbyn hyn, atgyfododd yr hen Dorïaeth, gyda nifer o aelodau yn wrthwynebus I unrhyw beth sy’n fygythiad I bwerau Llundain. Mae’n arwyddocaol mai’r llwyfan y safai’r eithafwyr asgell dde UKIP a’u tebyg yn etholiad y Cynulliad oedd dileu’r union sefydliad yr oeddynt yn sefyll I fod yn rhan ohono. Pan groesawyd y rheiny yn ôl I’w hen gartref gwleidyddol, aethant â’u dehongliad hwy o’r undeb I graidd meddylfryd prersennol y blaid. Nac anghofiwn fod ‘unoliaethol’ yn rhan o deitl y blaid Geidwadol, ac mae hynny, I’r dde eithafol, yn golygu rhywbeth gwahanol na phedair gwlad mewn partneriaeth; ei ystyr iddynt hwy yw pawb yn dilyn Lloegr, a llywodraeth o’r canol, yn union fel yr oedd hi yn nyddiau heulog yr Ymherodraeth, gyda’r is-genhedloedd, os cenhedloedd yn wir, yn ufudd a diolchgar. Onid dyhead am y dyddiau hynny pan oedd Prydain (= Lloegr ) yn arwain y  byd oedd gwir yrrwr Brecsit? O’r herwydd, mae peryglon mawr iawn I Gymru, ac I’n Senedd, yn yr eithafiaeth hwn sy’n amlwg yn gweithio I danseilio datganoli, a chryfau gafael Llundain. Mae agwedd Boris at ddatganoli yn hollol amlwg yn ei sylw ( nad oedd neb I fod I’w glywed) fod datganoli wedi bod yn drasiedi I’r Alban. Gellir cymryd mai’r un yw ei farn am ddatganoli I Gymru. Gwelwn hynnny yn yr ymdrechion I lusgo pwerau yn eu holau I Lundain wrth ymryddhau o Frwsel. Bwriedir cadw gwariant, a oedd gynt yn nwylo’r Senedd, yn awr yn nwylo Llundain; bydd y Ddeddf Fasnach Mewnol yn cymryd pwerau oddi ar y Senedd gan eu rhoi I San Steffan; yn wir, bu Llywodraeth Johnson mor hy â dweud y byddent yn gwario arain ar ffyrdd Cymru, maes sydd wedi ei ddatganoli’n llwyr I Gaerdydd. Cychwyn yn unig yw hyn – does ond cwta chwemis ers gadael yr UE. A hyn oll pan yw mwyafrif pobl Cymru wedi mynegi awydd clir I gael mwy o bwerau wedi eu datganoli, a atgyfnerthwyd gan y gic a roddwyd I din pob ymgeisydd dileu’r Senedd gan yr etholwyr eleni.

Ar ben hyn I gyd, mae’r symudiadau amlwg a niferus I ddylanwadu ar feddyliau. Efallai fod ymdrechion cael Jac yr Undeb -anferthol, ambell un – yn cyhwfan o bob adeilad cyhoeddus, I gael diwrnod dathlu Prydeinodod, I gael disgyblion ysgol I ganu rhyw rhacsan o gân am Brydain, ac I gael llun y Frenhines ym mhob parlwr, yn edrych yn chwerthinllyd, ond yr hyn sydd yma yw arfau propaganda I ddylanwadu ar feddyliau pobl, arfau sydd wedi eu defnyddio’n hynod o effeithiol mewn gwledydd totatlitaraidd mewn sawl rhan o’r byd.

Mae’n rhaid inni fod yn hynod o wyliadwrus, oherwydd y mae’r pwerau hyn oll ar waith er mwyn dileu ein hunaniaeth, tynnu oddi arnom yr hawl I urnhyw fesur o hunan-reoli, I wadu inni’r hawl I fod yn Gymry, a bod, yn hytrach, yn Brydeinwyr, brenhingar, jac-chwifiol, ufudd, yn ymhyfrydu yng ngallu ein meistri., ac yn addoli llun eu brenhines. Y mae’r senoffobiaid, asgell dde eithafol, Lloegr-ganolog, sydd wedi herwgipio’r Blaid Geidwadol, â’u bryd ar sicrhau hynny.

                                   *********************************

I faes hollol wahanol, ond maes arall sy’n pwysleisio ein hunaniaeth, sef y maes pêl-droed. Dydw I ddim am dynnu sylw at y ffaith fod ein cyfryngau torfol wedi mynd yn llwyr dros ben llestri, gan roi sylw afresymol Ewro 2020 ( 21? ). A dydw I ddim am feirniadu’r tim, gan i’r hogiau wneud sioe ardderchog ohoni, o ystyried maint ein cenedl. Yn hytrach, rydw I’n mynd I sôn am y gystadleuaeth ei hun. Os bu ceffyl a luniwyd gan bwyllgor erioed, dyma fo. Er mai syniad un dyn ( Platini ) ydoedd y ffurf, bu raid cael pwyllgor o rai yr un mor wirion I’w gwireddu. Pwy yn ei iawn bwyll allai gredu fod cael timau a miloedd o gefnogwyr yn hedfan hyd a lled Ewrop yn syniad da, yn enwedig pan fo cymaint o boeni am newid hinsawdd? Pwy yn ei iawn bwyll allai gredu fod cael rhai timau yn chwarae eu gemau I gyd gartref, tra bod y lleill yn gorfod crwydro’r gwledydd ,yn deg? Pwy yn ei iawn bwyll fyddai’n dal I gredu fod hyn yn parhau’n ymarferol yng nghanol y pandemig mwyaf ers canrif? Pwy yn ei iawn bwyll fyddai’n credu fod caniatau miloedd I gefnogi un tim mewn gêm, a neb I gefnogi’r llall yn arddangos y tegwch lleiaf? Yr un math o bobl a benderfynnodd ei bod yn syniad arbennig cynnal Cwpan y Byd ganol haf yn un o wledydd poetha’r byd lle nad oes fawr ddim pel-droed yn cael ei chwarae. Mae’n amlwg fod sail I’r gred fod pen sawl un sy’n gweinyddu pel droed yn cynnwys yr un sylwedd ag sy’n y bêl sydd yn cael ei chicio o gwmpas ar y cae.