Plisman mewn siwt plentyn

Dafydd Fôn Tachwedd 5 2020

Maen nhw’n dweud mai un arwydd sicr o fynd yn hyn yw gweld plismyn yn edrych yn iau. Rydw i wedi hen fynd heibio’r amser hwnnw – mae plismyn yn edrych fel plant ers blynyddoedd bellach! Fodd bynnag, tybed ai arwydd arall o fynd yn hen yw gweld gwleidyddion yn mynd yn llai, yn mynd yn fwy diegwyddor, yn mynd yn gymeriadau sydd mor chwit-chwat â chwpanau mewn dwr, yn mynd i bob cyfeiriad ‘heb ddal tro’r trai’?

Rydw i’n un o blant y Wladwriaeth Les; roedd hwnnw yn ei fabandod pan ymddangosais: sefydlwyd ef gan un o gewri’r Blaid Lafur, Aneurin Bevan, oedd yn AS dros Lynebwy. Roedd Bevan yn wleidydd o egwyddor, yn unplyg ei fwriad, yn gadarn a disigl ei weledigaeth, ac yn gwrthod torri gair gydag unrhyw Dori. Yn ystod fy ieuenctid, cofiaf gewri gwleidyddol eraill, personau o bob plaid, personau anhunanol a o egwyddor, personau efo gweledigaeth wynias a synnwyr o ddyletswydd i wasanaethu eu cyd-ddyn. Yn fy rhan i’r byd, cofiaf, ymhlith eraill, Cledwyn Hughes, a Goronwy Roberts, dau, er nad oeddwn y cydfynd â’u hegwyddorion gwleidyddol, y gwyddwn mai lles eu hetholwyr oedd flaenaf yn eu meddyliau, ac yn eu gyrru yn eu blaenau. Yng Nghymru cofiaf James Griffith, cofiaf Gwynfor Evans, a Dafydd Wigley, ac ambell un arall. Wrth gwrs, dydw i ddim yn wirion, yn unllygeidiog, nag yn rhamantydd, a chofiaf gorrachod, hefyd, a thwyllwyr hunanol – roeddwn yn ddisgybl ysgol adeg sgandal Profumo. Eithr y cewri a ddeuai i’r brig yr adeg hynny, y cewri oedd amlycaf. Ysywaeth, heddiw, ble’r aethant? Tra’n derbyn fod nifer o wleidyddion o hyd sy’n meddu’r nodweddion a nodais, yn yr hinsawdd bresennol, ymddengys nad hwy yw’r rhai sy’n mynd yn eu blaenau yn rhengoedd eu pleidiau,eithr yr uchaf eu cloch, nid yr uchaf eu clod. Edrychwn ar gabinet Llywodraeth San Steffan, o’r gwraidd i’r brig; a oes yno UN sy’n berson anhunanol o egwyddor, ynteu ai uchelgais yw’r unig egwyddor sy’n eu gyrru? Ai plesio yw eu hunig gonsyrn? Yn sicr ddigon, nid eu gallu i gyflawni swydd yw’r prif nodwedd sy’n perthyn i unrhyw un ohonynt, ar wahân, efallai, ar adegau,  i’r Canghellor. Cyfaddefir yn agored mai uchelgais Boris, ers ei ddyddiau ysgol, oedd bod yn Brif Weinidog, nid er mwyn cyflawni gwaith aruchel, neu wireddu breuddwyd o wella bywydau, ond, yn hytrach, er mwyn statws y swydd. Mae hynny’n dweud y cyfan. Yn ogystal, mae pob tro pedol, pob celwydd, pob addewid ffôl, pob cynllun hurt, a phob addasiad ar bob un penderfyniad yn dangos yn glir nad oes unrhyw egwyddor na phell-welediad yn sail i weithrediad y gwleidyddion sy’n rheoli.

Beth am ddod i Gymru? Ugain mlynedd yn ôl, pan sefydlwyd y Cynulliad, yr addewid oedd mai sefydliad gwahanol i San Steffan fyddai hwn, sefydliad ble mai cydweithio rhwng pleidiau fyddai’r norm, ac nid y ffair swnllyd a geid yn Llundain. Buan y diflannodd y breuddwyd hwnnw! Erbyn heddiw, ymddengys mai unig ddyletswydd gwrthblaid yw gwrhwynebu; pe dywedai’r Llywodraeth fod dau a dau yn bedwar, fe ddadleuai’r wrthblaid mai pump ydyw, dim ond er mwyn gwrthwynebu. Er fod un o’r ddwy wrthblaid yn y Senedd, ar adegau prin, yn gallu cydnabod fod y Llywodraeth ar y llwybr cywir, ond gan roi awgrym i addasu, agwedd y llall, yn ddieithriad, yw gwrthwynebu popeth. Ac eto, maent hwythau mor chwit- chwat. Agwedd sylfaenol a gwaelodol y Blaid Geidwadol yng Nghymru yw gwrthwynebu’r Senedd; onid yw ‘Unoliaethol’ yn rhan o’u henw, ac onid ymgyrchu yn erbyn sefydlu’r Cynulliad yn ddiamod a wnaethant cyn y refferendwm? Er, yn arwynebol, mae’r blaid honno heddiw yn derbyn, ac yn cefnogi’r Senedd, mae’r agwedd sylfaenol wreiddiol yn parhau yn eu gweithredu o ddydd i ddydd. Eu crêd, yn sylfaenol, ond yn gudd, yw fod popeth, ac unrhyw beth, a wna’r Senedd yn groes i San Steffan, yn naturiol yn anghywir, gan mai yn Llundain y mae’r awdurdod, a gan mai gan y Llywodraeth yn y fan honno y mae’r gwir. Does ond rhaid edrych ar ddatganiadau diweddar arweinydd presennol a chyn arweinydd y Toriaid yn y Cynulliad. Pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai clo llwyr am bythefnos yng Nghymru dyma’r ddau ar gefnau eu ceffylau i gyhoeddi mai dyma’r peth olaf ddylid ei gael yng Nghymru, ac y byddai hyn yn drasiedi i’r economi, y bobl, a’r wlad. Digon teg, os mai dyna eu barn, a honno wedi ei seilio ar ffeithiau, nid rhagfarn, nid gwrthwynebu er mwyn gwrthwynebu. Felly, dyna eu safbwynt; dim clo llwyr.

Ond, wele, bythefnos yn ddiweddarach, dyma Llywodraeth Lloegr fawr yn cyhoeddi clo llwyr am fis. I ble’r aeth gwrthwynebiad y Dafisiaid i glo llwyr? i’r un lle ag yr aeth unrhyw egwyddor, mae’n debyg, gan fod Lloegr fawr wedi cydfynd efo llywodaeth Cymru fach. Dim gwrthwynebiad gan DoriaidCymru, dim ond distawrwydd mawr.

Ymhellach, mae’r gwrthwynebiad awtomatig hwn yn adlewyrchu tuedd amlwg arall sydd yng ngwleidyddiaeth y gorllewin ers rhai blynyddoedd bellach, sef y pegynu rhwng y chwith a’r dde. Does dim lle i’r canol, bellach; yn unol â’r meddylfryd a welir mewn prifysgolion a chymdeithas, os nad ydych o blaid, rydych yn erbyn. Canlyniad y meddylfryd hwn yw gwthio pawb o’r canol i gymryd ochr. Gwelir hyn yn amlwg yn yr UDA, gyda Trump yn chwythu fflamau y pegynu hwn, a gwelir yr un duedd yn amlwg ar bynciau megis Brecsit ym Mhrydain. Does dim lle bellach i drafodaeth bwyllog, ar bwyso a mesur,ar resymu i gyrraedd safbwynt, ar ganiatau aros yn y canol, os mai dyna bendraw’r ystyried; na. rhaid mynd i un pegwn, neu’r llall, a hynny ar frys, a heb yr opsiwn o gyfaddawdu. Yn yr hinsawdd hwn, does ond gwrthwynebu yn bosibl, a hwnnw’n wrthwynebu milain, swnllyd, heb obaith am dir canol. Oni welwch ganlyniad y pegynu hwn mewn protestiadau fyrdd yn erbyn, neu o blaid, rhywbeth neu’i gilydd sy’n digwydd bob yn eilddydd y dyddiau hyn. Rwan, does gen id dim yn erbyn protestiadau, ond mae’r rhan fwyaf o brotestiadau heddiw yn llawn mileindra, yn ymosodiadau ar eiddo a phersonau, ac yn falu a dwyn: protestio er mwyn gorfodi yw hyn, nid protestio er mwyn argyhoeddi; y sawl a waeddo uchaf sy’n ennill y ddadl, nid y sawl sy’n rhesymu ei safbwynt, ac o’r pegynu eithafol y cyfyd y dull hwn o fynegi safbwynt. Canlyniad arall i’r pegynu hwn yw nad oes digon ohonom yn y canol bellach i fedru ein argyhoeddi i bendilio o un ochr i’r llall; does ond un neu’r llall. Eto, dyma agwedd eithafol Aneurin Bevan bedwar ugain mlynedd yn ôl, wedi pegynu cymaint ne sei fod yn gwrthod siarad, hyd yn oed, gyda Thori, eithr yr oedd ef yn wleidydd ddigon mawr i weld y tu hwnt i’w eithafiaeth pegynol, a bu iddo gyfaddawdu cryn dipyn i gael gweld genedigaeth ei Wladwriaeth Les. Heddiw, does dim terfyn derbyniol heblaw cael y maen i’r wal, ond mae hynny’n aml yn amhosibl gan nad yw’r seiri meini yn ddigon crefftus,nac yn ddigon cryfion i gyflawni’r dasg, ac, yn aml iawn, mae rhywbeth arall wedi cymryd sylw’r seiri cyn i’r maen fynd i’r wal.

Maddeuwch imi; rwan rhaid imi fynd i ngwely i orffwys am dipyn, rydw i newydd weld hogyn tua 7 oed mewn dillad plisman!