Cyhoeddwyd y sylwdau hyn yn Barn Rhifyn Chwefror 2021
Bu’r Gweinidog Addysg Cymru mewn twll. A bod yn deg, dydy o ddim yn dwll o’i gwneuthuriad hi ei hun,ac mae Gweinidogion Addysg gwledydd eraill y DU mewn twll cyffelyb, sef twll Cofid19.
Natur y twll yw cymwysterau dysgwyr hyd at 18 oed; sut i ddyfarnu’r rheiny yr haf hwn? Er fod TGAU ac AS yn y pair, y rhai gwrioneddol bwysig yw Lefel Uwch a BTEC, gan fod a holl ddyfodol y bobl ifanc, yn dibynnu ar y rheiny. Gall llwybrau’r dysgwyr iau gael eu hunioni cyn cyrraedd cam olaf Lefel Uwch, ond mae gyrfa’r mwyafrif llethol o ddysgwyr 18 yn gyfangwbl ddibynnol ar fynediad i gwrs a choleg penodol ar sail canlyniadau eleni. Mae Cofid19 yn ddychryn mawr, ond mae difetha dyfodol miloedd o bobl ifainc yn ddychryn llawer mwy.
Cyhoeddodd y Gweinidog, beth amser yn ôl, na chynhelir arholiadau allanol yng Nghymru eleni. Mewn gwirionedd, nid oedd dewis arall, oherwydd, er mwyn cynnal unrhyw arholiad, mae’n rhaid i’r holl ymgeiswyr fod wedi cael mynediad i’r un amodau astudio ac addysgu. Oherwydd y cyfnodau cyffredinol o gloi cenedlaethol, a’r cyfnodau gwahanol o ynysu, mae disgyblion gwahanol wedi ei brofi, byddai gosod arholiadau allanol fyddai’n gwneud tegwch gyda phob disgybl yn hollol amhosibl. Yn dilyn y cyhoeddiad cyntaf hwnnw, bu’r Gweinidog Addysg yn hercian o gynllun asesu i gynllun asesu, ond gan wneud dim namyn palu’n ddyfnach i’r twll. Cyhoeddwyd yn yr Alban mai asesiadau athrawon a ddefnyddir yno, ac, yn anfoddog iawn, taflodd Williamson, yntau, ymaith ei raw, a gwneud yr un cyhoeddiad yn Lloegr; ond palu ‘mlaen wnaeth Kirsty. Does gen i’r un syniad pam y bu’n rhaid bod mor hir wrthi. Roedd tasgau mewnol yn amhosibl, gan na fyddai cysondeb o athro i athro, o ysgol i ysgol, ac o bwnc i bwnc. Roedd y cynllun i gael profion gyda chynllun marcio allanol, yr adeg hon o’r flwyddyn addysgol, hefyd yn ddim ond breuddwyd ffôl. I wireddu hynny, byddai angen paratoi manwl ar gyfer safoni, a doedd fawr ddim amser i wneud hynny. Ar ben hyn i gyd, nid oes gennym obedeia beth fydd natur yr argyfwng Cofid yn Ebrill, beth fydd sefyllfa ysgolion, yn unigol a chenedlaethol, a faint o amser paratoi gwirioneddol y bydd gwahanol ymgeiswyr wedi ei gael.
Mae’n amlwg, felly, mai’r unig ffordd allan o’r twll yw dibynnu ar asesiadau athrawon o gyrhaeddiadau eu dysgwyr, a dyna’r penderfyniad yn y diwedd. Fodd bynnag, doedd o ddim yn benderfyniad hawdd, a dyna sy’n gyfrifol am y ffaith fod y Gweinidog yn hwyrfrydig i’w wneud.
Dydy’r un llywodraeth, erioed, wedi ymddiried mewn athrawon, hynny yw, fel corff; mae aelodau unigol pob llywodraeth, ynghyd â’r llywodraethau eu hunain, yn uchel iawn eu parch i athrawon unigol, ond yn amheus iawn o’r trwch fel corff. O’r herwydd, mae gadael yr holl gyfundrefn gymhwysterau i asesiadau athrawon yn anathema i’r awdurdodau. Maent yn cofio’r cwyno am ganlyniadau’r haf y llynedd, sef nad oedd asesiadau’r athrawon yn wrthrychol, a dibynadwy. A bod yn greulon o onest, rhaid cydnabod fod llawer o sail i’r pryder; nid yw cyfundrefn sy’n dibynnu’n gyfangwbl ar asesiadau athrawon yn un hollol gadarn. Nid yw hynny oherwydd fod athrawon yn twyllo, ond, yn hytrach, oherwydd ansicrwydd, ac amwysedd, yn y gyfundrefn ei hun. I ddechrau, nid oes cysondeb ac unffurfiaeth barn ar gyd-destun asesiad . A ydynt yn cael eu rhoi am y safon ar y cyfnod y’u rhoddir, ar safon y gwaith yn gyffredinol, ar botensial, ar y canlyniad gorau y gall disgybl ei gael, ar ganlyniad realistig o dan amodau arferol, ar y dasg ddiweddaraf a gwblhawyd, ac yn y blaen, ac yn y blaen? i fod yn gyson, hefyd, dylai pob tasg gael yr un cynllun marcio ble bynnag y’i rhoddir. Mae’r amrywiaeth hwn, heb ei gysoni, yn gyfrifol, am amrywiadau sylweddol. Rhowch hyn yn y pair efo awydd greddfol athrawon i fod yn garedig efo’u disgyblion, ac fe welwch pam fod graddau’r haf diwethaf wedi chwyddo. Taflwch eto i’r pair anghysondeb athrawon unigol wrth wobrwyo, a chosbi, ac mae gennych broblem. Mae sylwadau’r Gweinidog Addysg yn ei chyhoeddiad yn dangos hynny’n glir, gan ei bod yn cyfeirio at swyddogaeth CBAC yn y broses deirgwaith mewn cyfnod byr, ac, er mai swyddogaeth cynnig cymorth a chyngor ar gais ysgolion yw hynny, mae’r ensyniad yn glir. Rhaid gofyn ai yno ar gyfer yr ysgolion y mae’r cyfeiriadau at CBAC, ai yno ar gyfer y rhai sy’n barod i feirniadu’r drefn? Ac fe fydd rhai!
Ychwaneger at hyn yr obsesiwn i fesur safon ysgol yn ôl ei chanlyniadau, obsesiwn sydd bellach wedi tyfu o egin hollol resymol codi safonau i’w llawn dwf yn bastwn cnotiog i guro ysgolion ac athrawon bob cyfle posibl. Mae’r pastwn hwn yn gyfrifol am roi pwysau anhraethol ar benaethiaid, a, thrwyddynt hwythau, ar athrawon unigol. Pan fo’r gyfundrefn asesu terfynol yn nwylo’r athrawon a’r ysgolion yn unig, mae’r pwysau hwn i ochel beirniadaeth am ganlyniadau is na’r norm yn affwysol. O’r herwydd, ni fydd unrhyw gyfundrefn sy’n ddibynnol ar asesiadau athrawon yn ddilys heb safoni allanol cadarn, a gwelwyd eisoes anhawster hyn. Ni chyhoeddwyd unrhyw gynluniau ar gyfer hyn, ar hyn o bryd.
Dyna, felly, y twll dwfn a chyfyng yr oedd y Gweinidog Addysg yn ei chael ei hun ynddo. Eto, fel y dywedodd Eirwyn Pontshan ‘ Os ych chi byth yn cael eich hun mewn twll, dewch mas’.
Ydy’r Gweinidog mas? Amser a ddengys! Yr wyf yn cydymdeimlo’n fawr gyda hi, yn ei chyfyng gyngor, ac yr wyf yn cydymdeimlo’n fawr gyda’r disgyblion sy’n gorfod mynd trwy’r felin hon. Fodd bynnag, mae gennyf hefyd gonsyrn mawr am yr athrawon; fe fydd y gyfundrefn a fwriedir yn rhoi mwy o bwysau fyth ar eu hysgwyddau hwy. Wedi i’r athrawon roi asesiad , bydd pob apêl yn erbyn hynny yn mynd yn uniongyrchol i’r ysgol neu’r coleg a’i dyfarnodd. Dyna ichi flwch Pandora, gan nad oes gan unrhyw ysgol drefn na phrofiad yn y sefyllfa hon, ble mae dyfodol unigolyn yn y fantol – a daw’r pwysau yn gyfangwbl uniongyrchol ar yr athro unigol a roddodd yr asesiad. Tybed sawl athro sy’n mynd i blygu o dan y pwysau i godi’r asesiad, y pwysau o du’r disgybl, a’i rieni, o du’r pennaeth, ac o du cydwybod nad yw am ddifetha gyrfa dysgwr? Mewn deugain mlynedd yn y felin addysg, gwelais sawl cynllun yn cael ei wthio ar ysgolion oddi uchod heb i’r blaengynllunio manwl angenrheidiol fod wedi ei wneud, a gwelais y rhan fwyaf o’r cynlluniau hynny yn llwyddo, nid oherwydd y cynllunwyr, ond oherwydd yr ymarferwyr, yr athrawon, a weithiodd pob gewyn ac asgwrn i sicrhau eu llwyddiant, a hynny er mwyn eu disgyblion. Ond welais i erioed gynllun sy’n rhoi mwy o bwysau ar athrawon unigol na hwn. Eto, fel bob tro o’r blaen, mae gen i ffydd disysgog yn yr athrawon i ddod â’r cwch i’r lan yn ddiogel unwaith eto.
Os daw’r Gweinidog Addysg mas o’r twll, oherwydd yr athrawon y digwydd hynny, nid oherwydd neb, na dim, arall.