Mae garddwr ac mae gwn

Ymddangosodd y canlynol gyntaf yn Barn rhifyn Mehefin 2021

Ambell dro mae pethau yn dod yn bentwr efo’i gilydd,  nes peri i berson ddwys fyfyrio. Dyna sut wythnos fu hon i mi, wythnos a droes fy ngwydr hanner llawn arferol yn wydr hanner, onid tri chwarter, gwag.

Ddechrau’r wythnos dyma ddarllen am gynhadledd ‘OLL-BWYSIG’ a gynhelir fis Tachwedd eleni yn ninas Glasgow i drafod cynhesu byd-eang, un arall, meddwn i,  o’r cynhadleddau hynny ble mae pawb yn cytuno’n unfrydol a brwydfrydig i dorri allariadau carbon, ac yna yn ei throi hi  am adref yn eu hawyrennau anferth a’u cerbydau llwncfawr i barhau i losgi tanwydd ffosil wrth y dunnell. Un o’r ‘targedau gwleidyddion’ hynny ydy targedau torri allariadau carbon, targedau cau-cegau, taflu llwch i lygaid, targedau lleddfu cydwybod. Gan y byddai eu gwireddu yn golygu aberth mawr i bawb, chwi wyddoch mai yng nghefn y drôr waelod yr erys y targedau, i’w tynnu allan dim ond pan fydd angen tawelu’r dyfroedd. Yr un diwrnod dyma ddarllen am y Bonwr Bolsonaro, Arlywydd Brasil, sydd â’i fryd, mae’n amlwg, ar lwyr ddileu coedwigoedd glaw yr Amason gynted ag sy’n bosibl. I’r perwyl hwnnw mae’n paratoi i gyfreithloni pob meddiant anghyfreithlon ar y coedwigoedd, gan hyrwyddo mwy o feddiannu anghyfreithlon, a phrysuro difodiant y goedwig. Gwleidydd y llif gadwyn! A minnau’n cnoi cil ar hyny, dyma adroddiad yn cael ei chyhoeddi fod perygl, onid tebygrwydd, i ni, yma yng Nghymru, golli oddeutu 20% o’n bywyd gwyllt cyn diwedd y ganrif hon. Yn dynn ar ei hôl, dyma eitem o newyddion yn torri; bu rhywun, neu rywrai, ar lannau Llyn Brenig gyda llif gadwyn, yn torri i’r llawr y llwyfan a ddaliai nyth yr aderyn prin hwnnw, eryr y pysgod.  Ac yna, yn binacl ( neu’n gafn, efallai) i’r wythnos, dyma lythyr gan y WWF, y gymdeithas fyd-eang sy’n ceisio gwarchod bywyd gwyllt. Rydw i, fel miloedd eraill, ers blynyddoedd,  yn noddi’n ariannol sawl math o anifail prin, yn eu plith rhai o’r prinnaf, sef llewpart yr eira ym mynyddoedd yr Himalaya. Fe’m hysbysid yn y llythyr fod un o’r llewpartiaid a noddwn wedi cael ei ladd, yn fwy na thebyg, meddai’r llythyr, ‘am ei fod wedi dod yn rhy agos at aelod o’r hil ddynol’: ffordd neis o ddweud fod anifail sy’n byw yn yr unigeddau, ar lethrau uchel anhygyrch ac anghyfannedd yr Himalaya, wedi mentro’n rhy agos at heliwr gyda’i wn pwerus oedd yno’n fwriadol yn chwilio i’w ladd. Pa mor bell sydd rhaid ichi fod, tybed, i fod yn rhy agos?

A dyna’r ‘meddylie uwchben Pwllderi’, sef beth ydym ni’n wneud i’n planed, ei phlanhigion, a’i chreaduriaid,a  pha obaith sydd i’r blaned o dan ein dwylo? Wele restr – fras iawn – o’r anifeiliaid ‘cyffredin’ sydd mewn perygl o ddifodiant yn y degawdau nesaf, o ddiflannu’n llwyr o’r blaned – gorila, llew, teigr, cheetah, rheino, eliffant, orang-utang, chimpanzee, y llewpart eira ………. Mae dros 16,000 o greaduriad a phlanhigion mewn perygl enbyd o ddiflannu, gyda 41,500 mewn perygl. Mae’r enwau uchod yn anifeiliaid sy’n hollol gyffredin i ni, efallai mai geiriau yn unig fyddant i’n gorwyrion.

Ac nid yr anifeiliaid cyffredin yw’r unig rai sydd mewn perygl enbyd. Yr ydym, yn ôl y gwybodusion, yng nghanol proses a elwir y Chweched Difodiant, pryd mae miloedd o organebau mawr, mân, a meicrosgopig yn pendramynyglu i ebargofiant; diflannodd, o leiaf, 15 organeb yn 2020; yn wir, mae ambell un yn diflannu cyn i ddynoliaeth wybod am ei bodolaeth. Fel y dengys yr enw, bu pum difodiant mawr arall yn hanes y blaned, eithr y mae’r Chweched yn wahanol i’r lleill. Roedd y pum cyntaf yn ganlyniad rhyw newid amgylcheddol mawr, neu ddigwyddiad catastroffig; mae’r Chweched Difodiant yn ganlyniad uniongyrchol  gweithgaredd un creadur yn unig, y ni.

Mae sawl rheswm am effaith dynoliaeth ar ddiflaniad anifeiliaid gwylltion, megis eu hela i’w bwyta, eu hela er elw ariannol, a dim ond hela er hwyl. Yn bersonol, wneuthum i erioed ddeall y broses feddyliol sy’n digwydd yn y pennau bychain sy’n credu fod saethu jiraff o bell gyda gwn pwerus yn destun ymffrost. Ond, er mor ddifaol yw hela, prif achos difodiant creaduriaid a phlanhigion fel ei gilydd yw colli cynefinoedd, a dyn sy’n achosi hynny, trwy arddio pob gwylltir posibl yn dir i dyfu bwyd. Y garddwr, y gwn, a’r llif gadwyn sy’n difa!

Ac yn y fan hon y gorwedd gwir drasiedi yr hyn sy’n peryglu’r dyfodol; y mae gormod ohonom ar y blaned. Dim ond 30% o’r blaned sy’n ddaear, a dim ond 40% o hwnnw sy’n addas i fyw arno, a rhaid inni rannu hynny gyda’r myrdd organebau eraill sydd o’n cwmpas. Amcangyfrifir mai poblogaeth gynaladwy’r ddaear yw 1.4 biliwn o bobl; yn 1919 roedd 2 biliwn yma, erbyn heddiw mae 8 biliwn, ac mae posibilrwydd real y bydd rhwng 9 a 10.5 biliwn o bobl ar y ddaear erbyn 2050. Mae’r rhaeadr o ddatblygiadau gwyddonol presennol yn ein rhuthro tua’r nifer hwnnw. Wrth gwrs, mae’n rhaid ymfalchio ym mhob datblygiad meddygol sy’n achub, ac yn ymestyn, bywydau, ac, wrth reswm, y mae marwolaeth plant a’r diniwed yn drasiedi enfawr, ac mae meistroli plâu, pandemigau, ac afiechydon marwol yn rhywbeth i’w groesawu. Ond rhaid inni ddeall beth ydy’r oblygiadau; mae osgoi trasiedi i’r unigolyn yn gallu arwain i drasiedi’r llu. Mae’n rhaid inni gydymdeimlo gyda phob unigolyn sy’n ymdrechu i gynnal ei deulu; mae’n rhaid iddo gael bwyd, a rhaid wrth dir i’w arddu i dyfu bwyd, neu arian i’w brynu, ond yng nghyd-destun yr ymdrech hon am fara beunyddiol gan boblogaeth sy’n chwyddo’n syfrdanol y mae deall y difodiant mawr. Nid cyd-ddigwyddiad yw fod y cynnydd enfawr ym mhoblogaeth y blaned yn y ganrif ddiwethaf wedi cyd-fynd gyda cholli hanner coedwigoedd trofannol y byd. Diolch i Bolsonaro a’i debyg,fe ellir colli’r cyfan yn y degawdau nesaf, gyda phob oblygiad sydd i hynny. Mae’r cynnydd mewn poblogaeth, hefyd, yn cyd-fynd yn llwyr gyda’r Chweched Difodiant ym myd natur; ble bynnag y mae anifeiliaid gwylltion yn dod i gysylltiad â dynoliaeth, maent mewn perygl einoes, ac, mewn gwrthdaro, byddant yn sicr o golli. A phan nad ydynt yn dod i gysylltiad, mae rhai dynion yn mynd i chwilio amdanynt, dim ond er mwyn eu difa, boed hynny gyda llif gadwyn neu gyda gwn. Yn y pen draw, gobaith gwan oedd i fy llewpart eira i yn anghyfaneddau’r Himalaya. Rhaid cyfaddef fod miloedd o bobl yn brwydro’n ddewr i amddiffyn y blaned a’i hanifeiliaid, ond rhaid, hefyd, ofyn ai brwydro’n ganiwtaidd yn erbyn y llif y maent, boed hwnnw’n llif llythrennol, neu’n llif gadwyn.

Eto, er fy mod yn poeni’n fawr mai poeri yn erbyn y  gwynt yr ydw i, bu imi gynyddu fy nawdd i’r WWF a’r anifeiliaid, yn y gobaith y gellir atal y llif, ac y caiff plant fy mhlant weld anifeiliaid gwylltion mawr yn crwydro yn rhywle heblaw mewn hen lyfr llychlyd sy’n rhannu gwaelod drôr efo llu o dargedau anghofiedig.

Fedrwn ni ddim gadael i ddynion y llif gadwyn ennill – fedr dynoliaeth ddim fforddio hynny!