Cyhoeddwyd gyntaf yn Barn Medi 2021
‘Does na’r un drwg nad ydy o’n dda I rywun’ meddai rhyw hen air.
Cymrwch y pandemig ‘ma fel enghraifft. I filiynau ar filiynau o bobl, gwynt drwg ydy o, gwynt drwg iawn, corwynt trallod. Y mae rhai miliynau wedi colli eu bywydau o’I herwydd, miliynau wedi colli anwyliaid, miloedd ar filoedd wedi colli busnesau a bywoliaeth, a miloedd ar filoedd wedi colli gobaith. Bu iddo chwalu cymdeithasau a chymdeithasu, bu iddo atal ein byw bach, a bu iddo ddatgymalu seiliau ein holl gyfeillachu. Gwynt drwg iawn, gwynt trychinebus! A phery i chwythu.
Ond nid i bawb, fe fu’n dda iawn i rai.
Cymrwch Lywodraeth San Steffan, y criw yna sydd mewn swyddi, yn sicr, nid ar eu gallu, ond, yn hytrach, ar eu parodrwydd i gowtowio, I eilunaddoli, ac i lafarganu bendithion Brecsit. Mewn un modd, mae’n wir i’r gweinidogion fod yn hynod o anffodus fod Cofid wedi dod ar eu gwarthaf gan ddangos eu hanallu cynhenid i gynllunio a rheoli, yn ogystal â’u hanallu i ddilyn rheolau onestrwydd, gan anwybyddu’r drefn gaffael er mwyn gwobrwyo cyfeillion a chefnogwyr yn ddigystadleuaeth.Eithr fe fu Boris a’I bypedau yn ffodus hefyd, a hynny yn y ffaith fod Cofid yn rhodio’r wlad ar yr union adeg pan oedd effeithiau Brecsit yn dechrau brathu. Daeth Cofid fel rhagluniaeth I gymryd y bai! Does dim digon o yrrwyr loriau i gludo bwyd o gwmpas y wlad: bai’r pandemig oherwydd fod gyrrwyr yn gorfod hunan-ynysu. Mae’r gyfundrefn 100,000 o yrrwyr yn brin, gyda 40,000 yn llai o yrrwyr o’r UE yma eleni, ond ar Cofid mae’r bai. Mae cnydau o ffrwythau a llysiau yn pydru yn y caeau, a hynny’n gyfangwbl oherwydd nad oes caniatad i’r casglwyr arferol ddod draw o’r Undeb Ewropeaidd. Bai Cofid, meddai’r Llywodraeth, dim i’w wneud efo Brecsit. Beth bynnag, mae digon o weithwyr o Brydain angen y gwaith. Breuddwyd ffôl! Dim digon o weithwyr gofal – Cofid! Bai Cofid yw popeth – y ciwiau yn y porthladdoedd, y prinder ar y silffoedd, y cnydau yn pydru, prinder ffiolau profion gwaed, popeth. Wrth reswm, does dim bai arnom ni, weinidogion, bai’r pandemig, yw pob dim. Yr un feddylfryd a welir gyda Protocol Gogledd Iwerddon – bai’r Undeb Ewropeaidd yw fod Llywodraeth Prydain yn gwrthod dilyn cytundeb yr arwyddodd I’w dilyn. Newidiwyd arwyddair Harry S Truman ar y ddesg ‘ The buck stops somewhere else’.
Ble bu Cofid yn wynt drwg iawn i fusnesau bychain, a siopau’r stryd fawr, fe fu’n wynt arbennig o dda gwmniau sy’n gwerthu ar y We, yn enwedig y cwmniau mawrion. Er i’r siopau bychain, hynny a allai, sylweddoli fod achubiaeth ar y We, fe gymrodd ychydig o amser iddynt fanteisio arni, ond nid felly’r cwmniau mawrion oedd eisoes yno. Yn mlwyddyn gyntaf y pandemig, fe gynyddodd elw’r behemoth marsiandiol hwnnw a enwyd ar ôl coedwig drofannol 84%, gan gynyddu elw, oedd eisoes yn anferth, i un sy’n annirnadwy, gan wneud ei berchennog y dyn cyfoethocaf yn y byd. Rhaid imi gyfaddef fy mod innau wedi cyfrannu at ei gyfoeth, er nad digon iddo sylwi, chwaith! Yn sgil llwyddiant y cwmniau, bu’n wynt da i’r gyrrwyr rheiny ar lawr gwlad, sy’n rhuthro o bant i bentan yn eu faniau gwynion, gan beledu parseli’r cwmnïau mawrion o fun ailgylchu I fun ailgylchu; eto, o’r hyn a glywaf, caiff nifer ohonynt hwythau eu trin fwy fel caethweision na gweision gan eu cyflogwyr.
A thra’r ydw I’n sôn am gyfoethogion, wyddech chi fod y pandemig wedi bod yn hynod o garedig wrth y rhai cyfoethog yn ein mysg, gan gynyddu gwerth cyfartalog pob un rhyw £50,000. Does dim rhaid crybwyll beth fu ffawd y tlodion. ‘Trechaf, treisied, gwannaf, gwaedded’. Ar union yr un adeg mae nifer o gyfoethogion San Steffan yn bwriadu tynnu’r £20 ychwanegol o gymorth y tlotaf, mae hwy a’u tebyg wedi elwa o filoedd: gwynt da iawn, ddywedwn i – os nad ydych yn dlawd.
Mae’r haf hwn yn profi’n hynod o dda I’r diwydiant ymwelwyr yma yng Nghymru – wedi cyfnod trychinebus y clo mawr, mae’n rhaid cyfaddef. Mae gwyliau adref yn profi’n llo aur proffidiol iawn yn yr ardaloedd hyn, gyda miloedd ar filoedd o ymwelwyr yn trajio ym mhob twll, traeth, cornel, a chopa. Dywedir fod poblogaeth Môn wedi cynyddu bumgwaith yr haf hwn; mae’n rhyfeddol na fuasai’r ynys wedi mynd o dan y don. Ond mae hynny’n wynt da iawn i rai, perchnogion llety gwyliau, er enghraifft. Erbyn hyn ymddengys fod bron pawb hysbysebu llety ar rent ar y safle enwog yna ar y we; maen’ nhw ym mhob man yma, yn gytiau, yn fythynnod, yn fyncws ( does gen I ddim obedeia beth ydy lluosog ‘byncws’, ond maen nhw’n lluosog!). A dweud y gwir wrthych chi, wrthi’n gwagio’r ddwy sied sydd yn yr ardd yma’r ydw i ar hyn o bryd; rhoi dwy gadair, hen wely, a bowlen a jwg ynddynt, a dyna fi, yn barod I wneud fy ffortiwn..
Ond, er cystal y sied, y ty yw’r trysor. Mae prisiau tai yn saethu i entrychion nefoedd, ond, er gwaethaf hynny, mae’r farchnad ar dân, gyda thai yn cael eu gwerthu bron cyn iddynt fynd ar y farchnad, a hynny am brisiau hollol anghredadwy, sy’n gwneud i’w perchnogion, a’r asiantwyr gwerthu, wenu’n foddhaus. Mae’n arwyddocaol iawn fod cwmniau mawrion a banciau yn awr yn buddsoddi mewn tai, gan weld fod arian mawr i’w wneud yn y fan hon. Gan amlaf, mae’r tai yn yr ardal hon yn mynd fel slecs i fodloni’r farchnad llety gwyliau, neu yn cael eu prynu gan ddieithriaid, ar gyfer tai haf, neu ar gyfer ‘adleoli’ ( un arall o eiriau mawr y pandemig) , gan greu gwynt hynod o ddrwg I’r ifanc sydd am brynu tai, ond heb obaith caneri o wneud hynny. Erbyn hyn, mae pris ty teras, yn yr ardal hon, tai a fu’n rhad fel baw, fwy na deg gwaith cyflog cyfartalog yr ardal. Dim gobaith caneri! Fydd na ddim tai I’w rhentu, ychwaith, gan y byddant oll ar y farchnad wyliau. Ac mae’n wynt hynod o ddrwg I ddyfodol y Gymraeg yn yr ardaloedd hyn; does dim angen dewin, na rhagweledydd craff, i sylweddoli fod y cymunedau lleol, Cymraeg, yn cael eu chwilfriwio gan yr hyn sy’n digwydd yma, a bod y pandemig yn gyrru’r chwilfriwio yn ei flaen ar garlam. Erbyn hyn, nid yn y pentrefi glan môr yn unig mae’r chwalu’n digwydd, ond ym mhle bynnag y mae ty.
Trist iawn, feri sad, Mistar Picton. Peidiwch â phoeni; rydw i a’m tebyg yn berchen ar ein cartrefi ein hunain, ac mae gwerth y rheiny yn saethu i fyny wrth yr awr.
Felly, sgiws mî, rwan, mae’n rhaid imi fynd i orffen clirio’r siediau yna. Yna rydw I’n mynd i eistedd o flaen fy nhy efo cyfrifannell yn fy llaw, yn wên o glust I glust. Biti am y Gymraeg, hefyd. Ond dyna fo ……
……does na’r un gwynt drwg ………..