HAMDDEN

Darllen

 

I’r rhai ohonom sy’n ddarllenwyr brwd mae na sawl gwahanol fath o lyfr sy’n cael ei ddarllen. Rydym, yn sicr, yn darllen y llyfrau hynny sydd o ddiddordeb inni. Wrth reswm, mae na bron cymaint o ddiddordebau ag sydd o wahanol fathau o lyfrau. Yn fy achos i, llyfrau ffeithiol sy’n denu fy mryd gan amlaf, a’r rheiny yn llyfrau hanes , fel arfer. Dosbarth arall o lenyddiaeth sy’n tynnu dŵr o’m dannedd yw ffuglen sydd wedi ei gyfieithu o ieithoedd eraill, yn enwedig nofelau ditectif o wledydd Sgandinafia. Ar fy silffoedd mae holl nofelau Mankell, Larsson, a Nesbo, ynghyd â phob math o lyfrau ffeithiol ar hanes, ac enwau lleoedd. Ac mae llawer o lenyddiaeth amrywiol yn y ddwy iaith yn trwmlwytho’r silffoedd fyrdd. Bendith mawr i mi yw fy mod yn ddwyieithog, gan fy mod yn gallu manteisio ar lyfrau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

 

Druaned ydyw’r uniaith

Na ŵyr ond llyfrau un iaith

 

Rheswm pwysig, ar wahân i ddiddordeb, am ddarllen math arbennig o lyfr yw dyletswydd. Gall y dyletswydd hwn fod yn wahanol fathau o ddyletswydd. Nodais eisoes y credaf mai bendith yw’r ffaith fod gennyf ddwy iaith i fanteisio ar y llyfrau a gyhoeddir ynddynt. Ond, yn fwy na mantais, credaf ei bod yn ddyletswydd arnaf i ddarllen y llyfrau Cymraeg a gyhoeddir. Ar un adeg, pan oeddwn yn iau, tueddwn i brynu pob lyfr a gyhoeddid yn fy mamiaith, a hynny, yn syml, am eu bod yn cael eu cyhoeddi. Y canlyniad, yn aml, oedd fod rhai llyfrau oedd yn llenwi fy silffoedd un ai ond yn cael eu bras-ddarllen, neu heb gael eu darllen o gwbl, hyd yn oed. Erbyn heddiw, oherwydd fod cymaint mwy o lyfrau yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg, a diolch am hynny, mae’n amhosibl imi brynu pob un. Mae fy nghyfrif banc yn hynod ddiolchgar am hyn! Ond mae pob un a brynaf yn cael ei ddarllen.

Dyletswydd arall sy’n gyfrifol pam fod nifer o lyfrau ar fy silffoedd nad ydynt, lawer ohonynt, hyd yn hyn, wedi eu darllen, er fod rhai yno ers sawl blwyddyn bellach. Y rhain yw’r ‘clasuron’, sef y llyfrau rheiny – Saesneg, gan amlaf – y dywed rhai pwysicach na mi y dylai pob person ‘diwylliedig’ eu darllen cyn iddo roi cic i’r bwced fawr. Oni ddarllenasoch y rhain, meddent hwy, ni ellwch hawlio eich bod yn ddiwylliedig. Rydw i ar fy ffordd, felly, i hawlio fy mod yn ‘ddiwylliedig’; o leiaf, mae’r arfau gennyf. Onid ydynt hwy, holl nofelau Dickens, a Hardy, a Conrad, a sawl awdur arall, yn rhythu arnaf oddi ar y silffoedd o’m cwmpas, y cyfan yn barod i’m diwyllio, a’r un ohonynt a’i gloriau eto wedi ei agor Rhyw ddiwrnod, fy hen gyfeillion, rhyw ddiwrnod …

Dyletswydd arall, er fod cyfrifoldeb yn air mwy addas, yw’r llyfrau hynny yr oedd, neu y mae, rhai ohonom yn gorfod eu darllen oherwydd ein gwaith. Fe dreuliais i gyfnod helaeth yn athro Cymraeg, gan ddysgu llawer iawn o ddysgwyr tuag ar arholiadau’r Safon Uwch yn yr iaith a’i llenyddiaeth. Er mwyn gwneud hynny’n effeithiol, roedd hi’n angenrheidiol darllen yn helaeth o gwmpas y gwahanol bynciau, gan gadw gwybodaeth a syniadaeth yn gyfredol. Eto nid dyletswydd na chyfrifoldeb oedd gwneud hynny mewn gwirionedd; yn hytrach, pleser ydoedd. Os oes gan unrhyw athro, neu athrawes, ddiddordeb gwirioneddol ac ysol yn ei faes, fel sydd gen i, y mae darllen am y maes yn bleser pur.

Ac, yn olaf, mae na ddosbarth helaeth o ddeunydd darllen na ellir ei ddosbarthu o dan yr un teitl, nac mewn unrhyw gategori penodol. Y rhain yw’r cylchgronnau, pamphledi, a’r llyfrau amrywiol sydd wedi tynnu’r sylw, neu ennyn diddordeb y funud. Yn aml iawn, arwynebol ac amrywiol yw’r cynnwys, wedi eu darllen yn gyflym, unwaith yn unig, mwynhau’r mwyafrif ar y pryd, ac yna eu anghofio. Yn aml iawn, bydd nifer o’r rhain, yn enwedig yn llyfrau yn eu plith, yn cael eu rhoi i ryw siop elusen neu’i gilydd, er budd y elusen, ac er budd y chwilotwyr brwd hynny sy’n cribinio’r cyfryw siopau yn feunyddiol am ddeunydd darllen ysgafn, difyr, unwaith-ac-am-byth, fel u gwneuthum innau pan yn eu prynu. Rhag ofn i rywun feddwl mai oherwydd fy natur trugarog yr wyf yn rhoi nifer helaeth o lyfrau i siopau elusen, brysiaf i egluro mai’r prif, efallai’r unig, gymhelliad am eu symud o’r silff i’r siop yw er mwyn gwagio peth ar fy silffoedd gorlawn fy hun; hynny gyda’r bwriad o fynd allan i chwilio am fwy o gyfrolau i gymryd eu lle.

Cyn gorffen, fe glywaf ambell un yn gofyn pam nad wyf yn cadw’r holl lyfrau ar y teclyn digidol hwnnw sydd mor boblogaidd heddiw. Wel, mae gennyf un o’r rheiny; fe’i prynais rai blynyddoedd yn ôl, bellach, gyda’r union fwriad o ysgafnhau’r silffoedd crwmlwythog. Fe’i defnyddiais hefyd, am gyfnod byr, ond bellach does gen i mo’r syniad lleiaf ble mae’r teclyn. Chymrais i ddim ato o gwbl, dydy darllen o’i sgrin ddim byd tebyg i droi dalennau llyfr, ac, yn waeth na dim, fedrwch chi mo’i fodio fel bodio llyfr. Felly, hen ffasiwn neu beidio, parhau i ddarllen llyfrau a wnaf i, darllen er mwyn pleser, a pheth dyletswydd, a pharhau i lenwi, a gwagio, silffoedd siopau elusen, a silffoedd fy nghartref