Ymddangosodd y golofn hon gyntaf yn Barn Rhifyn Mai 2021
Wn i ddim amdanoch, ond rydw i wedi hen laru, wedi cael llond fy mol, wedi cyrraedd pen fy nhennyn. Mae’r flwyddyn ddiwethaf yma wedi bod yn hunllef, y pandemig, y cloi mawr, y dychryn, yr holl fyw mewn ofn parhaol, gan osgoi pawb a phopeth. Ar adegau, teimlaf fel cerdded yr ardal gyda chloch a ffon gan weiddi ‘Aflan, aflan!’. Ac mae ngwallt i fel llwyn o ddrain! Y fi yw Myrddin, y dyn gwyllt , gwalltog, o’r coed, sy’n osgoi pawb a phopeth.
Peidiwch â’m camddeall, rydw i’n deall, yn derbyn, ac yn llwyr gefnogol, i bob mesur a orfodir arnom o fae Caerdydd, gan wybod yn burion mai er diogelwch pawb ohonom y mae’r mesurau. Oherwydd hynny, yr wyf yn dilyn pob un gorchymyn yn ddeddfol. Doedd y clo cyntaf ddim mor ddrwg, roedd hi’n dywydd arbennig o braf am wythnosau, ac roedd digon o orchwylion a esgeuluswyd ers blynyddoedd yn sgrechian arnaf. Yn ogystal, roedd y ffaith y gallwn gamu o’m gardd ar f’union i’r Carneddau yn fendith. Ar gyfnod arferol nid yr Wyddfa mo’r Carneddau; nid ydynt yn bot mêl i’r miloedd, a gellwch eu tramwy am oriau heb gyfarfod fawr neb; yn ystod y clo mawr cyntaf doedd ond rhai cannoedd o ddefaid yn croesi fy llwybr. A dweud y gwir, fe wneuthum fwynhau’r clo cyntaf, neu’n hytrach dylwn ddweud nad oeddwn yn ei gasau. Erbyn heddiw, mae pethau’n wahanol. Mae’r gaeaf yn hir, mae’r gaeaf yn oer, yn wlyb, ac yn ddiflas o dywyll. Ac rydw i wedi hen alaru, wedi alaru arswydo rhag pob bod dynol arall ddaw i’m cwfr, wedi alaru gweiddi ar draws y ffordd wrth gyfarch cydnabod, wedi cael llond fy mol ar drafod y cofid. Ble gynt y cychwynnid pob sgwrs gyda chyfeiriad at ‘y tywydd ofnadwy ‘ma ’, y cwestiwn cyntaf heddiw ydy ‘ Ydach chi wedi cael y pigiad?’. Ar y gorau, dydw i ddim yn berson arbennig o gymdeithasol, a dydw i ddim wedi gwirioni efo siopa, ond, wir i chi, yr wyf yn colli’r dewis, y dewis o gymdeithasu, y dewis o siopa, y dewis o sefyll yng nghanol twrr o bobl. Eto rydw i’n dal i ufuddhau, a hynny oherwydd fy mod yn deall, a bod ofn arnaf.
Ac nid y fi ydy’r unig un sy’n dal i ufuddhau. Rydw i’n deall fod peth llacio, mae’r natur ddynol, ynghyd â hyd y clo, yn golygu fod pobl yn llacio peth ar eu gwyliadwriaeth. Eto, petaech yn credu’r cyfryngau, mae mwyafrif y boblogaeth yn torri rheolau’r clo yn rheolaidd, ac yn eithafol, mae unrhyw rai sy’n cael eu dal yn tramgwyddo yn stori fawr. Ond dyna ydy natur cyfryngau, y drwg sydd bob amser yn hudo’r diddordeb. Onid yw person sy’n teithio can milltir i brynu hwch yn llawer gwell stori a deng mil yn aros gartref, ac onid yw hanner dwsin yn cael parti yn fwy diddorol na mil yn meudwyo? Wrth gwrs fod ‘na rai sy’n gwrthod dilyn rheolau, unrhyw reol, ac unrhyw gyfraith; dyna pam mae llysoedd a charchardai yn bodoli. Ac mae rhai yn methu, neu’n gwrthod, dilyn rheolau’r clo, ond lleiafrif ydynt. Y gwirionedd amdani yw fod y mwyafrif llethol o’r boblogaeth yn dilyn cyfarwyddiadau’r clo, a hynny oherwydd y deallant pam y mae’r clo yn ei le, ac mai er budd pawb y mae. Maent, hefyd, yn gweld, o’r diwedd, fod golau ym mhen draw’r twnel, fod y brechlyn yn argoeli y daw pethau yn ôl i’w lle, a bod llacio yn dod o’r Bae.
Ydych chi wedi cael y brechlyn? Rydw i newydd gael yr ail, ac yn hynod werthfawrogol ohoni. Diolch amdano yw ymateb y rhan fwyaf o’r rhai a adwaenaf. Eto y mae rhai sydd yn gwrthod ei gymryd, rhyw 10% o’r rheiny sydd yn cael ei gynnig, yn ôl ystadegwyr. Mae eu rhesymau am wrthod yn amrywio o’r dealladwy i’r hurt hollol. Mae rhai yn gwrthod oherwydd rhesymau meddygol, rhai oherwydd rhyw gred grefyddol, eraill oherwydd eu cred ddiysgog yn eu hanfarwoldeb eu hunain, rhai oherwydd mympwy, ac eraill oherwydd y credant unrhyw stori dylwyth teg a glywant. Beth bynnag y rheswm, boed resymol neu hurt, boed ddilys neu ddisail, boed ddealladwy neu chwerthinllyd, mae’n rhaid parchu hawl pob unigolyn i ddewis drosto’i hun beth mae am ei roi yn ei gorff. Dyna yw hanfod rhyddid yr unigolyn. Ond mae’r rheiny sy’n tarannu am ryddid a hawliau’r unigolyn yn mynd gam ymhellach, un cam yn rhy bell, gan wrthwynebu unrhyw oblygiadau allai godi o wrthod brechlyn. Pan sonnir am ‘basport’ brechlyn, neu wrthod mynediad i rai gweithgareddau, neu fannau, heb fod wedi derbyn y brechlyn, mae bytheirio am amharu ar hawliau dynol, fel petai hawliau dynol yn benagored a diderfyn, a bod rhyddid yn gyfystyr â phenrhyddid. Wrth gwrs fod gan bob unigolyn ei hawliau, ond does dim hawl heb gyfrifoldeb, mae hawl a chyfrifoldeb yn ddwy ochr i’r un geiniog. Dydy rhyddid yr unigolyn ddim yn golygu’r hawl i wneud unrhyw beth a fynnir, ddim yn absoliwt, mae iddo ei gyfyngiadau, yn gyfreithiol, ac yn gymdeithasol. Wrth gwrs fod gan bawb yr hawl i wrthod brechlyn, dim ond iddynt ddeall fod oblygiadau i hynny. Dydy rhyddid unigolyn ddim yn gyfystyr â hunanoldeb myfïol; gallai gwrthod brechlyn beryglu bywyd rhywun arall. Dydy rhyddid yr unigolyn ddim i’w ennill ar draul caethiwed eraill. Mae’r rhai sy’n gweryru na ddylid cyfyngu ar weithgareddau unrhyw un sy’n gwrthod brechlyn yn anwybyddu sefyllfaoedd eraill cyffelyb. Mae gan bawb yr hawl i beidio dysgu gyrru cerbyd, ond rhaid iddynt dderbyn na chânt, wedyn, yrru. Gellir gwrthod archwiliad DBS, ond ni cheir gweithio efo plant heb y dystysgrif. Mae rhyddid i wrthod brechlynnau yn erbyn clefydau, megis y clefyd melyn, ond ni ellir teithio i rai gwledydd hebddynt. Mae rhyddid i bawb ysmygu, ond mae’r llefydd y gellir gwneud hynny wedi eu cyfyngu yn sylweddol. Dydy rhyddid yr unigolyn ddim yn rhoi’r hawl i’r unigolyn hwnnw wneud a fynn fynno, heb unrhyw ganlyniad. Yn fy marn i, yr unig rai y dylid caniatau’r rhyddid di-frechlyn iddynt yw’r rheiny na allant ei gymryd am resymau iechyd. Pawb arall, gwnewch eich dewis, a derbyniwch unrhyw ganlyniad; onid dyna hanfod sylfaenol dewis, pwyso a mesur gweithred a chanlyniad, drysau’n agor, drysau’n cau?
Ydw, rydw i wedi cael llond fy mol, ond mae gwawr yn torri, a diolch i’r brechlyn , a’r gwyddonwyr a’i dyfeisiodd, y mae hynny. Yn bersonol, ‘rwyf i yn barod i glochdar ar uchaf fy llais imi dderbyn y brechlyn, a chwifio fy nhystysgrif i bawb ei gweld. Gallaf yn awr fynd gyda’m pastwn a’m cloch, yn crochlefain nerth fy mhen
‘Diolch! Diolch!’
Ac mae’r Mistar Drakeford bach ffeind ‘na rwan yn gadael imi fynd i dramwyo’r wlad – wel, nid y wlad, dim ond fy ardal leol, ond mae dechrau yn gychwyn, on’d ydy? . Rydw i’n gweld y goleuni, rydw i’n gweld y wawr.
Ac rydw i yn mynd i gael torri ‘ngwallt yr wythnos nesaf!
Haleliwia!