Daeargryn addysgol

Mae daeargryn ar ei ffordd. Yn dilyn dirgryniadau o wahanol faintioli – ac effaith – gan Weinidogion Addysg  mwy amlwg, ymddengys fod y tawel Huw Lewis am greu daeargryn go iawn.  Ysgydwyd Graddfa Richter gan  Adroddiad Donaldson, yn ddiweddar. Fe’i dilynir gan ddwy arall ar hyfforddiant athrawon.

Mae Adroddiad Donaldson yn glir, yn gynhwysfawr, ac yn cynnig ffordd ymlaen a all, o’i dilyn yn weddol ddiwyro, lusgo addysg Cymru i’r oes fodern . Ond mae meini tramgwydd, mae bwganod, ac mae oblygiadau. Os na wynebir y rheiny, a’u goresgyn,  ni cheir dim ond yr un hen stori.

Cyn dechrau gweithredu argymhellion Donaldson, rhaid gofyn a ydym, fel cenedl, yn gytun beth yw pwrpas ysgol. Ar hyn o bryd mae addysg ac ysgol  â phwrpas gwahanol i wahanol garfannau ohonom – llwyddiant arholiadol, datblygiad cymdeithasol, hyfedredd llythrennedd a rhifedd, paratoi pobl ifanc ar gyfer y farchnad lafur, creu dinasyddion cyfrifol – mae gan bob un ei ladmerydd.  Cred rhai mai ysgol ddylai wneud y cyfan ddylai fod yn ddyletswydd rhieni – dysgu parch, ymddygiad gwaraidd, trin arian, addysg rhyw, bwyta’n iach, diogelwch personol, glanweithdra , a’r diweddaraf yw hyrwyddo dealltwriaeth o bartneriaethau unrhyw – fel petai rhiant ond i fod i brynu tatŵs a gemau Xbox i’w plant. ! Mae rhai’n disgwyl y cyfan gan ysgol- mewn 5 awr y dydd! Rhaid cytuno ar bwrpas syml ysgol; hebddo, ni fydd daeargryn, dim ond rhech mewn potel, yn uchel ei glec, ond byr ei argraff a’i barhâd.

Mae Donaldson yn argymell chwe maes addysgu a phrofiad yn lle’r pynciau unigol traddodiadol. Ydy’r Athro wedi rhagweld y crochlefain gan arbenigwyr pynciol ? Bu hyn yn faes trafod ers trigain mlynedd a mwy, ond gydag ychydig iawn, iawn o gynnydd tuag at ei wireddu.  Mae Gwyddoniaeth yn faes addysgu yn yr uwchradd, meddech; ffars, meddaf innau– tri phwnc unigol yn cael eu haddysgu mewn syrcas amserlennol, a’u arholi yr un modd. Dyna hanes Dyniaethau hefyd. Cofiwn mai paneli o arbeniwyr pwnc a wnaeth y Cwricwlwm Cenedlaethol yn anymarferol o drwsgl chwarter canrif yn ol, trwy fynnu gorlwytho eu pwnc ‘unigryw bwysig’ eu hunain, a chreu cyfanwaith cwricwlaidd camelaidd lle disgwylid ceffyl rasio. Treuliwyd chwarter canrif yn ceisio cliro’r llanast. Os am unrhyw gynnydd ar argymhelliad Donaldson,  bendith y tad , cadwch arbenigwyr pynciol mor bell ag y gellwch o’r cynllunio. Diddorol, hefyd, fydd gweld beth fydd oblygiadau’r argymhelliad canolog hwn i arholiadau TGAU. Fedrwch chi ddim arholi pwnc unigol, os nad ydych yn ei ddysgu! Ac oblygiadau hynny i’r Safon Uwch.

Pob athro i addysgu llythrennedd, rhifedd, a sgiliau digidol, wedyn. Tybed  pa mor gadarn yw’r sgiliau rheiny gan fwyafrif ein hathrawon presennol, ag eithrio athrawon pwnc-benodol, ac, yn sicr, sgiliau llythrennedd yn y Gymraeg? Oes amser ac arian i hyfforddiant digonol, ble methodd deunaw mlynedd o ysgol a choleg?

Llai  o asesu ffurfiol, meddai’r Athro. Call iawn! Aeth asesu yn obsesiwn yng Nghymru. Mae llu profion ac asesu yn arwain yn anochel i

  1. leihau ar yr amser sydd ar gael ar gyfer addysgu a dysgu
  2.  addysgu cyfyng, cul ar gyfer yr asesu yn unig  

Fodd bynnag, mae data asesiadau ffurfiol yn gallu dangos gwendidau athrawon unigol, hefyd. Tybed ai dyma un rheswm pam y croesawyd Adroddiad Donaldson gan yr undebau, gan y gall fod yn anos profi aneffeithlonrwydd ambell un o’u haelodau?

Heb asesiadau fyrdd, beth ddigwydd i’r Asiantaethau hynny sy’n dibynnu am eu hanadl einioes ar ddata ? Estyn, druan, gyda’i holl gyfundrefn wedi ei seilio ar ddata perfformiad. Mewn gwirionedd, does dim rhaid i Estyn yrru arolygwyr i mewn i ysgol i gynnal arolwg; mae’r farn wedi ei ffurfio trwy graffu data. Dim ond esgus i gyfiawnhau’r farn yw’r ymweld. Heb asesiadau fil, druan o Estyn, pa beth a wnant? A hwythau, Gwe, a’r asiantaethau cyffelyb, sy’n herio trwy ddata, pa beth a ddaw ohonynt hwythau ?

Ar yr wyneb, dydy newid hyfforddiant cychwynnol athrawon ddim yn broblem o gwbl.   Ond, os bydd systemau addysg Cymru a Lloegr yn ymwahanu mor sylfaenol, bydd raid i’r hyfforddiant ar gyfer mynediad i ddysgu yn y ddwy gyfundrefn fod yn hollol wahanol. Sut ymatebir i hynny?

Mae nifer o gwestiynau pwysig i’w gofyn am ail-hyfforddi’r  corfflu presennol o athrawon. Fydd yr hyfforddiant a roir iddynt yn ddigonol, neu a fydd raid i athrawon orfod gwneud yr hyn mae athrawon yn gorfod ei wneud bob amser – gwneud i gybolfa gwleidyddion ac ‘arbenigwyr’ weithio, heb fawr o gymorth, er mwyn y disgyblion. Pryd fydd unrhyw hyfforddiant yn digwydd, wedyn? Os colli oriau cyswllt, beth sy’n mynd i ddigwydd i’r disgyblion pan fydd eu hathrawon yn cael eu hyfforddi? Neu a fydd y cyfan yn torri asgwrn cefn proffesiwn sydd eisoes yn gwaedu hanner ei newydd-ddyfodiaid o fewn eu blwyddyn gyntaf yn y dosbarth?

Digon o gwestiynau, dim atebion. Mae llawer iawn, iawn i’w groesawu yn argymhellion yr Athro Donaldson, ond i bethau gael eu gwneud yn iawn, heb ymyrraeth y myrdd moch ,fydd yn honni diddordeb, ac yn rhoi eu trwynau hunanol yn y cafn – gan droi daeargryn yn rhech wlyb! Ar ôl cymaint o gamau gweigion, ar ôl cymaint o lwybrau’n cyrraedd wal, rhaid cael pethau’n iawn y tro yma, er mwyn ein plant a’n pobl ifanc. Dydw i ddim yn y byd addysg bellach, (mi fydda i’n diolch yn aml am hynny), ond mae gen i ŵyr ac wyres sy’n cymryd eu camau cyntaf ar y llwybr. Er eu mwyn hwy, rydw i’n gweddio y ceir pethau’n iawn y tro hwn.

A dylai miloedd eraill weddio, hefyd!

Ymddangosodd y rhefriad hwn gyntaf yn y cylchgrawn Barn