Cudd i bawb ei farn

Un o brif nodweddion heneiddio, ar wahan i grud y cymalau ac anhunedd, yw tristáu wrth weld y byd yn mynd â’i ben iddo, a gwaredu rhag popeth newydd. Heno, yn nhrymder nos di-gwsg, nid henaint, ond rhai tueddiadau cyfoes yw achos y tristwch dan fy mron.

Yn gyntaf, (a bum yma o’r blaen), mae’r duedd fwyfwy amlwg i wrthod yr hawl i fynegi barn groes. ‘Mewn gwlad rydd’, meddai Erasmws, bum canrif yn ol, ‘dylai tafodau fod yn rhydd hefyd’, Ymgorfforwyd yr hawl sylfaenol hwnnw yn neddfwriaeth Prydain ers 1689, yn Ffrainc ers 1789, rhyddid barn yw cymal cyntaf Deddf Annibyniaeth yr Unol Daleithiau 1776, ac mae’n sylfaenol i Ddatganiad Hawliau Dynol 1948. Yr unig eithriad yw pan pan fo mynegi barn yn ennyn casineb, neu’n annog trais. Fel arall, ym mhob gwlad ddemocrataidd, ‘rhydd i bawb ei farn, ac i bob barn ei llafar yw hi’.

Neu ‘oedd hi’. Mae’n prysur gyrraedd y sefyllfa lle mae ‘Cudd i bawb ei farn yw hi, ( os yw’n groes i’n barn ni). A does le’n byd gwaeth am hyn na magwrfa   (dybiedig ) democratiaeth, ein prifysgolion, a hynny yn dilyn yn slafaidd y patrwm cynyddol i wrthod hawl i farn groes a welir ym mhrifysgolion yr UDA. Mae popeth annymunol yn dod atom ar draws yr Iwerydd yn ei dro ( fe ddaw Trump yn yr Hydref ).  Eleni mae mwy na hanner ein prifysgolion, neu undebau eu myfyrwyr, wedi rhoi cyfyngiadau ar ryddid barn, a’r mwyafrif helaeth wedi gwahardd rhywbeth neu’i gilydd sydd, mewn rhyw fodd,  yn tramgwyddo’r myfyrwyr, y rhai uchaf eu cloch, hynny yw. Does wiw tramgwyddo clustiau diniwed trwy  leisio barn groes, a gwaherddir y pethau rhyfeddaf. Dim ond mewn tair prifysgol trwy Brydain gyfan y gwaherddir pethau sy’n anghyfreithlon yn unig. Ai testun balchder, ynteu dristwch,  inni yw fod dwy o’n prifysgolion ni yng Nghymru tua brig rhestr y campysau sy’n gwahardd amrywiol bethau a gwahanol safbwyntiau. Da iawn, chi, Abertawe ac Aberystwyth am fod mor gynhyrchiol eich gwaharddiadau! Yn hytrach na dysgu i fyfyrwyr wrth–ddadlau safbwynt groes , caniateir  ‘gofod diogel’ iddynt  ( hynny yw, peidio gorfod gwrando ar farn wahanol i’r eiddynt hwy ). Mewn Prifysgol yn yr Unol Daleithiau yn ddiweddar bu i 400 o feddyliau ifanc miniocaf eu cenhedlaeth fynd i ddarlith gwyddonydd amlwg, am nad oeddynt yn cytuno a’i syniadau, gan weiddi ar ei draws nes ei orfodi i roi’r gorau i sgwrsio, a nacau hawl myfyrwyr eraill i’w glywed. Onid mewn gwladwriaethau eithafol, chwith a de,  y gwelsom bethau tebyg yn digwydd cyn hyn.

Nid yn unig mewn colegau mae’r duedd hon yn ymddangos ychwaith. Heddiw, bron nad  ystyrir siarad yn groes i farn y 52% deallus a bleidleisiodd o blaid Brecsit fel teyrnfradwriaeth. Mae fel petai fod arddel barn wahanol i eiddo’r mwyafrif yn anghyfreithlon. Mae’n sicr, fod y culhau hwn ar ein dull o feddwl yn ganlyniad uniongyrchol i’r cyfryngau cymdeithasol, lle na welir ond un ochr i ddadl, sef yr ochr a fynegir gan ein carfan ni o ‘ffrindiau’ cyfryngol. Honno yw’r safbwynt ‘ddilys’, wedyn. Nid oes safbwynt arall, ac nid ydys am weld un. Defnydd deheuig o’r cyfryngau newydd hyn , a’u dull o ledaenu mythau, ac unllygeidiogrwydd, oedd yn uniongyrchol gyfrifol am lwyddiant Brecsit a Trump. Yr un cyfryngau sy’n meithrin y sathru ar ryddid barn.

Yr ail duedd yw’r un gynyddol o atal tramgwyddo, trwy ganiatau i fyfyrwyr, mewn ambell gwrs golegol, beidio gorfod edrych ar, wrando ar, siarad am, glywed am , ac ati, unrhyw beth allai beri tramgwydd iddynt ar y cwrs. Ac, wrth reswm, fe all unrhyw beth dan haul beri tramgwydd  – o gyllell waedlyd Lady Macbeth, trwy drais a rhyfel, i welingtonau Paddington yr arth, a gwallt Jac y Jwg. Rhoddir rhybuddion o flaen ambell ddarlith neu gwrs, rhag brifo’r creaduriaid bach, tra dileir elfennau eraill o gyrsiau sy’n beryg o yrru myfyrwyr diniwed i wewyr a pherlewyg. Ymhellach, mae ambell brifysgol yn awr yn cynnig cymorth i fyfyrwyr sy’n dioddef trawma emosiynol oherwydd rhannau o’u cyrsiau, ac awgrymir y dylid cymryd hynny i ystyriaeth wrth eu hasesu, gan beidio bod yn hallt arnynt pe bu raid iddynt astudio unrhyw awgrym o rywbeth na hoffant. Gwych, meddaf i! Brysied y dydd ble  gellir astudio meddygaeth heb weld gwaed, neu lenyddiaeth heb unrhyw gyfeiriad at wrthdaro , troseddeg heb drosedd, neu hanes heb ryfel na thrais. Brysied, hefyd,  y dydd pan roddir ystyriaeth arbennig wrth asesu gwaith unrhyw fyfyriwr sydd wedi gorfod dod ar draws unrhyw annhegwch, neu greulondeb, neu drais tra’n astudio ar gyfer gradd mewn Astudiaethau Cyw. Awgrymaf bum marc ychwanegol am bob rheg, deg marc am bob awgrym o drais, a chan marc am bob enghraifft arall o amharu ar sensitifrwydd yr ifanc diniwed; y cyfan hyd at uchafswm o ddwy filiwn a hanner o farciau. Ddylai neb orfod dod ar draws dim byd na hoffant yn eu hastudiaethau. Wedi’r cyfan, yn y byd perffaith hwn, dim ond siwgwr plwm a phetalau rhosod gwynion sydd o’n cwmpas ym mhob man 

Perthyn i’r un maes mae’r drydedd duedd, yr un a grisielir yn yr idiom Drympaidd gyfoes, ‘ffaith ffug’ – nad oedd yn bod tan rhyw ychydig fisoedd yn ol. Rwan, roeddwn i o dan yr argraff mai ffaith yw ffaith, a bod unrhyw beth nad yw’n ffaith, yn gelwydd. Ond, na, yn ol y Donald a’i giwed, mae na ffeithiau a ffeithiau ffug. Hyd y gwela i, ffaith ffug yw un nad ydych yn cytuno efo hi; ffeithiau nad ydynt yn rhoi darlun ffafriol o sefyllfa, yw ffeithiau ffug. Ac mae ffeithiau ffug yn sail i newyddion ffug – sef newyddion nad yw rhai o’r darllenwyr yn hoff o’i weld. Canlyniad newyddion ffug , yn achos Trump a’i gyfeillion, oedd gwrthod hawl i rai asiantaethau newyddion gael gofyn cwestiynau, a, hyd yn oed, gwrthod mynediad i gynhadledd y wasg i rai, gan gynnwys rhai o asiantaethau mwyaf parchus y byd. Rydym wedi hen arfer gweld atal gwasg rydd mewn gwladwriaethau gormesol, yn arbennig, gwladwriaethau un plaid. Fe’i gwelsom, ac fe’i gwelwn, yn Rwsia, Almaen Natsiaid, Tseina, Gogledd Corea, Chile o dan Allende,Haiti o dan Papa Doc Duvalier, ac mewn sawl gwlad arall. Ond i’w weld yn cychwyn yn y wlad lle mae hawliau unigolion i ryddid barn wedi ei ymgorffori yn ei chyfansoddiad ers ei sefydlu, ( ynghyd a’r hawl sylfaenol, clodwiw, arall i gario gwn )  a’r wladwriaeth sy’n cael ei hystyried yn rheng flaen democratiaethau’r byd,mae hynny’n ddychryn. Yr hyn sy’n fwy o ddychryn ac ofn yw, fel yr ymddengys pethau, y byddai’r rhan fwyaf o fyfyrwyr croch ( nid myfyrwyr, sylwer ),  ein prifysgolion, yn cymeradwyo safbwynt y Donald. Os nad yw’n cydfynd gyda’ch cred chi, na rowch le iddo, a gwader ei ddilysrwydd. Yn wir, gwader ei fodolaeth

Mae gen i beth ofn henaint, a chrud y cymalau, ac anhunedd, ond y mae arnaf i kawer mwy o ofn gweld culni, a rhagfarn, a mygu rhyddid barn yn dod i deyrnasu. Ac mae arnaf i ofn, os na ddeffry’r mwyafrif yn ein cymdeithas yn fuan iawn, iawn,  mai ‘Cudd i bawb ei farn, ac i bob barn ei sathr’  fydd hi, onibai fod y farn honno yn dderbyniol i’r croch eu lleisiau, a’r cul eu gorwelion.

Ymddangosodd y rhefriad hwn gyntaf yn y cylchgrawn Barn