Dafydd Fôn Tachwedd 2020
Wedi ymgynghori am wythnosau, fe ddaeth y cyhoeddiad hir-ddisgwyliedig– ‘ Ni chynhelir arholiadau TGAU, UG, nag Uwch yng Nghymru yn haf 2020’. Mewn gwirionedd, nid oedd canlyniad arall y gellid dod iddo, a hynny am un rheswm sylfaenol; er mwyn cynnal arholiad yn genedlaethol, mae’n rhaid i’r holl ymgeiswyr fod wedi cael mynediad i’r un amodau cyn sefyll yr arholiad.
Mae pawb yn dilyn yr un cwrs, gyda’r un meysydd astudio/ pynciau y tu mewn i’r cwrs hwnnw. Mae’r cwrs hwnnw wedi ei gynllunio ar gyfer cyfnod o hyd penodol, megis blwyddyn, neu ddwy, ac mae pob ysgol yn rhoi nifer penodol o oriau i astudio’r cwrs, ac, er nad yw pob ysgol yn rhoi’r union un faint o oriau, mae pob un yn rhyfeddol o agos i’w gilydd, a hynny oherwydd unffurfiaeth y gofynion. Mae trefn y rhaglen astudio, wedyn, yn nwylo’r athrawon, gan nad yw honno yn golygu fod rhaid astudio’r gwahanol adrannau unigol mewn trefn benodol. Wrth reswm, mewn ambell bwnc, mae trefn benodol, gan mai cwricwlwm tebyg i risiau sydd iddynt, ble bod symud i un ris yn golygu gorfod meistroli sgil, neu wybodaeth, ar ris odditani. Mae hyn yn arbenig o wir am bynciau matemategol a gwyddonol.Fodd bynnag, mewn pynciau eraill, gellir astudio’r rhannau unigol, neu, hyd yn oed, is-rannau, mewn unrhyw drefn. I roi enghraifft, mewn cwrs llenyddiaeth, nid oes angen astudio nofel cyn symud ymlaen i ddrama, a’r tu mewn i gwrs barddoniaeth, gellir astudio’r cerddi unigol mewn unrhyw drefn. Mewn cyfnod arferol, felly, ar draws Cymru, gall yr holl ddisgyblion sy’n dilyn cwrs penodol fod yn astudio gwahanol rannau o’r cwrs yn ystod y flwyddyn, ond wedi ei gwblhau erbyn yr arholiad ar ei ddiwedd, fel petaent olla ar yr un daith, ond yn cymryd llwybrau gwahanol i gyrraedd ei phen draw. ‘Mewn cyfnod arferol’, ddywedais i, canys mewn cyfnod anarferol, fel yr hwn yr ydym ynddo eleni, mae pethau’n hollol wahanol.
Yn gyntaf, fe gynlluniwyd y rhaglen astudio ar gyfer cyfnod penodol o amser, gyda’r dealltwriaeth cytunedig, trwy gonsensws arholwyr ac athrawon profiadol, fod angen y cyfnod hwnnw i astudio’r rhaglen i’r dyfnder sy’n angenrheidiol i’r cymhwyster. Eisoes, eleni, fe gollwyd dros dri mis o ysgol oherwydd y clo mawr; mewn cwrs dwy flynedd, mae hyn oddeutu 20% o’r amser y dylid ei gael. Eto, oherwydd yr hyn a nodwyd, nid yr un rhan o’r cwrs mae pob ymgeisydd wedi ei ddilyn yn ystod gweddill yr amser addysgu. Canlyniad hynny yw na ellir gosod papur arholiad canolog; byddai rhai cwestiynau na allai rhai disgyblion eu hateb, am na fyddid wedi astudio’r meysydd hynny. Annhegwch fyddai hynny. Ac am weddill yr amser, mae amodau disgyblion unigol yn wahanol, gydag ambell grwp ysgol, disgyblion unigol, ac athrawon pwnc, wedi colli amser ychwanegol oherwydd hunan-ynysu; canlyniad hynny, yn amlwg, yw ychwanegu at yr annhegwch.
Yr unig bendrfyniadteg, felly, oedd peidio cael arholiadau. Ni allwn ond diolch nad ydym o dan fawd yr Adran Addysg yn Lloegr, sy’n credu y gellir gwneud iawn am yr holl gau ysgolion trwy gael tair wythnos yn fwy o addysgu. Nid oes paradwys …..
Ond, hold on Defi John! Cyn inni ganmol ein Adran Addysg ni yma yng Ngymru i’r cymylau, rhaid inni graffu ar eu cynlluniau. Yn hytrach nag arholiadau allanol ddiwedd blwyddyn, yr hyn a fwriadant yw profion yn y dosbarth cyn y Pasg, ynghyd ag amcanion athrawon. Bydd y profion hynny wedi eu gosod yn allanol, ac yn cael eu marcio’n allanol. Reit, gyfeillion, i’r rhai deallus ohonoch sy’n awdurdod ar wyrdroi ( Ai dyna’r cyfieithiad am ‘spin’?), tybed a fyddech cystal â’m goleuo beth yw’r gwahaniaeth rhwng ‘prawf wedi ei lunio’n allanol, a’i farcio’n allanol’ ag ‘arholiad allanol’? Onid twyll yw’r cyfan yn y bôn? Ac, os twyll, pam twyllo? Mae dau reswm, yn sylfaenol, am hynny, a’r rheini, chwarae teg i’r Gweinidog Addysg, yn hollol ddealladwy.
Yn gyntaf, dydy’r un llywodraeth, erioed, wedi ymddiried mewn athrawon, hynny yw, fel corff; mae aelodau unigol pob llywodraeth, ynghyd â’r llywodraethau eu hunain, yn uchel iawn eu cloch i athrawon unigol, ond yn amheus iawn o’r trwch fel corff. O’r herwydd, byddai gadael yr holl gyfundrefn gymhwysterau i asesiadau athrawon yn anathema i’r awdurdodau. Dyna oedd sail y gwrthwynebiad i ddileu TASau yng Nghymru dros bymtheg mlynedd yn ôl, a dyna oedd y pryder am ganlyniadau’r haf eleni. A hwnnw yw’r ail reswm. Mae’n rhaid cydnabod fod peth sail i bryderon am asesiadau athrawon, fel y dangoswyd eleni, ac mae hynny’n codi o ddau ffactor. Yn gyntaf, nid oes neb wedi diffinio sail yr amcanraddau a nodir fel asesiad. A ydynt yn cael eu rhoi am y safon ar y diwrnod y’u rhoddir, ar safon y gwaith yn gyffredinol, ar botensial, ar y canlyniad gorau y gall disgybl ei gael, ar ganlyniad realistig o dan amodau arferol, ac yn y blaen, ac yn y blaen? Mae’r diffyg hwn, heb ei wynebu, yn gyfrifol, am amrywiadau sylweddol. Rhowch hyn yn y pair efo awydd greddfol athrawon i wneud y gorau i’w disgyblion,ac fe welwch pam fod graddau’r haf eleni wedi chwyddo. Taflwch eto i’r pair anghysondeb athrawon unigol wrth wobrwyo, ac mae gennych broblem. Yr ail ffactor yw’r obsesiwn i fesur safon ysgol yn ôl ei chanlyniadau, obsesiwn sydd bellach wedi tyfu o egin hollol resymol codi safonau i’w llawn dwf yn ffon gnotiog i guro ysgolion ac athrawon bob cyfle posibl. Mae’r ffon hon, sydd, gyda llaw, yn nwylo sawl asiantaeth wahanol, er mwyn sicrhau ei bod yn cael defnydd helaeth, yn gyfrifol am roi pwysau anhraethol ar benaethiaid, a, thrwyddynt hwythau, ar athrawon unigol. Pan fo’r gyfundrefn asesu terfynol yn nwylo’r athrawon a’r ysgolion yn unig, mae’r pwysau hwn i ochel beirniadaeth am ganlyniadau is na’r norm yn affwysol ar athro, adran, ac ysgol. Pan ddilewyd y TASau Cenedlaethol yng Nghymru, cyn sicrhau cyfundrefn ddilysu gyhyrog, yr wyf yn cofio sawl disgybl yn gadael ambell Gyfnod Allweddol gyda lefel gan athro ac ysgol na fyddai fyth yn ei chyrraedd, hyd yn oed petai yn aros ym myd addysg hyd nes y byddai’n ddeugain oed!
Dyna, felly, y gornel gyfyng y mae’r Gweinidog Addysg yn ei chael ei hun ynddi; methu cynnal arholiadau terfynol oherwydd annhegwch, a methu derbyn asesiadau athrawon oherwydd nad yw’r gyfundrefn ddilysu yn ddigon cyhyrog a grymus. Felly, profion dilysu amdani, a phrofion dilysu yw enw arall ar arholiadau!
Ac, yn awr, dyma ni efo problem arall; gydag unrhyw drefn o brofion allanol mae strwythur cyhyrog yn gorfod cael ei ddilyn. Mae’r prawf ei hun yn cael ei lunio fisoedd lawer, ac yn cael ei ddilysu gan banel o athrawon – gall hyn olygu newid a threialu – er mwyn sicrhau ei fod yn addas i’w bwrpas, sef rhoi cyfle i bob ymgeisydd ddangos ei wir allu a chyrraedd ei botensial. Yna mae Cynllun Asesu yn mynd trwy’r un broses fanwl, ac, wedyn, rhaid hyfforddi’r arholwyr, er mwyn iddynt fod yn barod ar gyfer pob ateb ( cywir ) posibl. Yn awr, mae’r holl broses yn cymryd misoedd lawer. A dyma ble mae’r broblem fawr eleni; bwriedir cynnal y profion cyn y Pasg 2021, mewn cwta bedwar mis. Bydd sicrhau proses gyhyrog, ddilys, o brofion mewn pedwar mis yn ymylu ar, os nad yn, wyrth.
Dyna ni, un arall o’r myrdd problemau mae Cofid 19 wedi ei achosi. Os yw bywydau un carfan mewn perygl llythrennol o’i herwydd, mae bywydau carfan arall mewn perygl ffigurol, sef yr ifanc y mae eu dyfodol yn dibynnu ar ganlyniadau arholiadau. Yr wyf yn cydymdeimlo’n fawr gyda’r Gweinidog Addysg, a chyda’r Llywodraeth yn eu cyfyng gyngor i geisio sicrhau’r gorau o’r gwaethaf i bawb, ac yr wyf yn cydymdeimlo’n fawr gyda’r disgyblion sy’n gorfod mynd trwy’r felin hon. Fodd bynnag, mae gennyf gonsyrn mawr am yr athrawon; ni allaf ond gobeithio’r nefoedd na fydd y gyfundrefn a fwriedir yn rhoi mwy o bwysau fyth ar eu hysgwyddau hwy. Mewn deugain mlynedd yn y felin addysg, gwelais sawl cynllun yn cael ei wthio ar ysgolion oddi uchod heb i’r cynllunio manwl angenrheidiol fod wedi ei wneud, a gwelais y rhan fwyaf o’r cynlluniau hynny yn llwyddo, nid oherwydd y cynllunwyr, ond oherwydd yr ymarferwyr, yr athrawon, a weithiodd ewyn ac asgwrn, a chwysu chwartiau, i sicrhau eu bod yn llwyddo, a hynny er mwyn eu disgyblion.
Mae’n debyg mai’r un fydd y stori eleni!