Yng Ngwlad yr Ianci Bach

Dafydd Fôn Ionawr 2021

Neithiwr bum yn llygadrythu hyd oriau mân y bore ar sianel Americanaidd yn ffrydio golygfeydd o Washington bell i’m cartref clyd, llygadrythu mewn anghrediniaeth llwyr ar filoedd o derfysgwyr, yn ymosod ar eu senedd eu hunain, yn cario gynnau ac arfau eraill, a’u bryd ar ddisnistrio  calon democratiaeth fwya’r byd, gan yrru’r cynrychiolwyr etholedig i swatio’n ofnus mewn cuddfannau. Am eiliad, gallwn yn hawdd gredu im fod yn ôl yn yr 1930au, ac mai edrych ar y Reichstag yn llosgi neu glywed tincial arswydus y Krystalnacht yr oeddwn, ond, na, yng nghadarnle democratiaeth yr oedd hyn i gyd yn digwydd. Eto, wedi meddwl, efallai nad oedd yr hyn a ddigwyddai yn syndod mawr, a hynny am ddau reswm.

Yn gyntaf, i’m tyb i, mae’r UDA yn berwi o grincod eithafol gyda syniadau gwallgo’, yn enwedig am ryddid – mae trigolion unrhyw wlad sy’n credu yn yr hawl dwyfol i gario pob math o arfau yn gyhoeddus yn llwyr deilyngu’r disgrifiad ‘crincod’. Mae ganddynt obsesiwn gyda rhyddid, sef y rhyddid personol i wneud fel y mynnant; fel arfer, nid yw’r rhyddid hwnnw yn ymestyn i rywun arall, nac yn ystyried hawl yr arall i ddiogelwch. Efallai, a bod yn deg, mae gwlad a sefydlwyd, ac a adeiladwyd, gan bobl oedd yn chwilio am ryddid o erledigaeth crefyddol a hualau caethiwed tlodi, yn rhwym o fod yn gadarnle i’r awydd am ryddid. Y tristwch, wrth gwrs, yw nad oedd rhyddid i’r trigolion cynhenid, nac i gaethweision, yn rhan o psyche’r rhai oedd yn crochlefain am ryddid; rhyddid y myfi oedd hi o’r cychwyn, a rhyddid y myfi yw hi o hyd.

Yn ail, mae Arlywydd y wlad, yn fy marn i, yn berson atgas a ffiaidd, sy’n feddyliol ansefydlog, hollol  anfoesol, hunanol, tywyllodrus, yn ffynnu ar greu rhwygiadau , a defnyddio casineb a rhagfarn i’w fwriadau ei hun, gan fynnu, a chael, ffyddlondeb personol yr arweinydd cwlt. Pan ddatganodd ei fab, Eric, un arall gwrthnysig, nad y Blaid Ddemocrataidd oedd hi mwyach, ond Plaid Ddemocrataidd Donald Trump, dangoswyd yn glir feddylfryd y cwlt ar waith. Mae gweld, a chlywed, hurtrwydd dilynwyr Trump, gan gynnwys y rhai mwyaf ‘galluog’ a miniog eu meddyliau, yn atgoffa dyn o’r awyrenwyr a’r milwyr ‘kamikaze’ a fynnai farw dros eu Ymherawdr yn yr Ail Ryfel Byd, neu’r SS eithafol a ystyriai farw dros Hitler yn fraint, a dilynwyr sawl arweinydd cwlt arall. Mae arweinwyr cwlt yn medru argyhoeddi eu dilynwyr o unrhyw beth, pethau sydd, i reswm naturiol, yn ymddangos yn hollol wallgo; does ond angen meddwl am ddilynwyr David Icke a’r gred mewn ymlusgiaid yn rhith dynion, neu’r arweinwyr cwltiau niferus sydd wedi, ac yn, prophwydo diwedd y byd yn gyson. Heddiw, mae rhai o seneddwyr yr UDA yn credu yn syniadau hurt Qanon fod cynllwyn byd-eang ar droed gan arweinwyr cymdeithas sy’n baedoffiliaid i – ffaith sy’n profi mai arian, neu gysylltiadau cymdeithasol, ac nid y gallu i resymegu, yw’r prif angenrhaid i gael eich ethol i’r senedd.

Canlyniad, nid digwyddiad, oedd y dyrfa wallgo yn rhuthro’r Capitol, penllanw proses, nid achlysur heb gyd-destun. Fel pob arweinydd cwlt, mae Trump wedi cyflyru meddyliau ei ddilynwyr a hynny o’r cychwyn, wedi eu bachu fel pysgod, a’u tynnu i mewn ar lein yn araf ond yn sicr. Mae arweinwyr yn aml yn dweud celwyddau, ac arweinwyr cwlt yn benodol, yyn gwneud hynny’n rheolaidd, ond mae’n sicr mai Trump,  gyda cherbyd direolaeth cyfryngau cymdeithasol, yw’r arweinydd sydd wedi dweud y mwyaf o gelwyddau erioed, a hynny’n amlach na’r un arweinydd arall. Roedd yn dweud celwyddau, a lliwio’r gwir, cyn ei ethol, ac, ym mlwyddyn gyntaf ei dymor, roedd yn dweud cymaint ag ugain celwydd, neu ffaith anghywir, bob dydd. Roedd yr holl gelwyddau hyn fel diferion yn taro talcen, yn cyflyru ei ddilynwyr i gredu, ac yn paratoi ar gyfer y celwydd mawr. Os dywedwch chi rywbeth yn ddigon aml, fe fydd yr hygoelus yn hollol barod i’ch coelio; y syndod gyda Trump yw fod cymaint o bobl weddol ddeallus mor hygoelus. Elfen ganolog a chreiddiol o ddull Trump oedd beirniadu fel celwydd, y ‘newyddion ffug’ bondigrybwyll, unrhyw ffaith o gwbl nad oedd yn cytuno efo’i weledigaeth ef o realiti pethau, sef unrhyw beth oedd, mewn unrhyw ddull a modd, yn rhoi gwedd anffafriol ar sefyllfa Trump. Yn eu lle ceid ‘ alternative facts’, sef ffeithiau gwahanol’; gair arall am ffeithiau gwahanol yw ‘celwydd’. A dyna gelwyddau trump.Pwrpas yr holl gelwyddau ‘canolig’ yw paratoi dilynwyr at y celwydd mawr; Cofier Hitler a’r Iddewon, neu Stalin a’r newyn bwriadol yn Iwcrain. Roedd Hitler wedi paratoi ei ddilynwyr i gredu mai ar yr Iddewon yr oedd y bai am holl broblemau’r Almaen, gan adeiladu ar sibrydion disail mai’r rheswm sylfaenol i’r wlad golli’r Rhyfel Byd Cyntaf, oedd fod gwaed Iddewig yn y Caiser, yn dilyn perthynas anghyfreithlon. Celwydd mawr Stalin wedyn oedd cyfiawnhau llwgu i farwolaeth filynau o werin a ffermwyr yn yr Icrain trwy ledu’r cyhuddiadau mai cyfalafwyr oeddynt yn ceisio tanseilio’r drefn gomiwnyddol. Fel y ddau hynny, gyda’i gelwyddau, creodd Trump fyd o ffantasi a chelwydd i’w ddilynwyr – ac yn y byd hwnnw yr oedd terfysgwyr Washington yn bytheirio a dinistrio. Tros y blynyddoedd roedd Trump wedi cyhuddo’i wrthwynebwyr o ymyrryd gyda thegwch y drefn etholiadol yn yr UDA. Pan ddaeth hi’n weddol amwg iddo fisoedd cyn yr etholiad fod y polau piniwn yn dangos yn glir ei fod am golli, cynyddodd gyflymder adeiladu ei gelwydd mawr, sef, os na fyddai’r etholiad lywyddol o’i blaid ef, yna, yn amlwg, byddai twyll wedi digwydd gan ei wrthwynebwyr; nid yw posibilrwydd colli yn bodoli i rywun na all dderbyn colli.  Gyda’r celwydd hwn ar adain, doedd dim posibl i Donald golli; pe byddai’n ennill, dim problem, pe collai, roedd twyll wedi digwydd. Yn ei fyd ef, sefyllfa’r dywediad Saesneg ‘ Heads, I win, tails you lose’, oedd hi. Roedd miliynau o bysgod yn gaeth ar y lein, ac yn cael eu tynnu i mewn i’r rhwyd yn araf. Yr hyn oedd yma yn wahanol i sefyllfa’r pysgodyn yw fod y rhain am gael eu bachu. Pan droes y celwydd mawr yn wirionedd mawr ym meddyliau’r pysgod, , doedd ond ymosod ar y gyfundrefn yn mynd i ddigwydd, a’r Capitol oedd yr yr unig le i fynd iddo i sicrhau fod y celwydd mawr yn llwyddo. Onid oedd eu harlywydd, eu harweinydd, eu heilun, yno yn annog iddynt fynd, iddynt orymdeithio, iddynt godi cymaint o fraw ar seneddwyr fel y byddent yn gwyrdroi’r canlyniad swyddogol. Oedd, yr oedd ef am gerdded gyda hwy  …….. ond doedd ganddo ddim bwriad o wneud hynny; arwain o’r cefn yw natur arweinydd cwlt, yn enwedig pan fo hwnnw’n gachgi: os nad oedd ei draed yn ddigon da i fynd i Fietnam, yn sicr ddigon, doedden nhw ddim digon da i orymdeithio efo’r werin datws – ych a fi! – am y Capitol. Ar eu pennau eu hunain, heb eu harweinydd, hynny yw, y gorymdeithiodd y dorf i’r Capitol, fel anifeiliaid gwylltion heb reolaeth.Dywedodd Churchill unwaith fod pob unben yn marchogaeth teigr anhydrin, a bod y teigr, rywdro, rhyw ddiwrnod, yn sicr o daflu’i farchog, a’r diwrnod hwnnw byddai’n ddrwg ar hwnnw.  Ar y 6ed o Ionawr 2021, fe daflodd teigr Trump ei farchog oddi ar ei gefn, a rhuthrodd yn wyllt afreolus am y Capitol.

Rwan, does gen i affliw o ddim cysylltiad gyda’r UDA, ar wahân i hen ewythr imi fynd yno yn wr ifanc ddiwedd y 19eg ganrif, a dychwelyd ymhen rhai blynyddoedd i dreulio gweddill ei oes ym Môn yn pedlera chwedlau anhygoel am ryfeddodau’r baradwys y tu hwnt i’r dwr. O, ie, a’r tri brawd o’r Bryn, cyfyrdyr i’m tad, a aethant gyda’i gilydd i Chicaco wedi iddynt fod yn ymgymerwyr i gladdu John Williams, Brynsiencyn, ar y sail mai hynny oedd uchafbwynt eu bywydau, ac y byddai’n well iddynt gychwyn o’r newydd mewn gwlad newydd. Yn wahanol iddynt hwy, fum i erioed yno, a ddeisyfais i erioed fynd; does gen i ddim diddordeb yn yr UDA, mwy nag sydd gan fochyn mewn crempog. Ond mae gen i ddiddordeb mewn democratiaeth, ac mae’n bryder mawr i mi weld sut mae egwyddorion sylfaenol democratiaeth dan warchae y dyddiau hyn, a hynny yn ei gadarnleoedd. Roedd Trump yn bytheirio wrth ei addolwyr fod democratiaeth mewn perygl oherwydd iddo ef golli’r etholiad arlywyddol, ac fe’u hanogodd i newid y dyfarniad ‘er mwyn amddiffyn democratiaeth’, tra, mewn gwirionedd, ef yw’r bygythiad mawr i ddemocratiaeth yn ei wlad. Doedd neb o’r dilynwyr cibddall yn meddwl am eiliad fod dim o gwbl o’i le efo democratiaeth yn y mannau hynny ble’r oedd Trump wedi ennill – dim ond ble y collodd! Rhyfeddol a dychrynllyd yw rhesymeg yr unllygeidiog!

Eto rhaid sylweddoli nad yw pawb o gefnogwyr Trump yn unllygeidiog, ac mae gan wahanol garfannau resymau gwahanol am ei gefnogi. Mae carfan yn credu’n angerddol yn ei allu, mae carfan arall yn credu ei fod yn achubiaeth yn erbyn yr asgell chwith eithafol, mae carfan gref wedi hen alaru ar wleidyddiaeth sy’n gwneud dom iddynt hwy, mae nifer o grincod asgell dde eithafol , crincod crefyddol eithafol, a chrincod hiliol yn gweld eu cyfle, wrth gefnogi Trump, i gael maen eitafiaeth i’r wal. Yna mae’r gefnogaeth gan wleidyddion, y rhan fwyaf yn uchelgeisiol, y gweddill yn ofnus am eu swyddi, sy’n gweld y byddai gwrthwynebu Trump yn gelyniaethau ei gefnogwyr o bleidleiswyr, ac yn poeni am effaith hynnyar eu dyfodol gwleidyddol hwy. Yr amrywiol resymau hyn sydd y tu ôl i’r gefnogaeth i Trump ymosod ar ddilysrwtdd yr eholiad a gollodd.

Rwan, mae ymosod ar ddilysrwydd etholiad yn ymosodiad ar hanfod sylfaenol democratiaeth, a phan fo’r ymosodiad yn ddilys, tynnu sylw at ganlyniadau chwerthinllyd, neu ddulliau twyllo, yw sail hynny. Pan fo canlyniad etholiad mewn ambell ‘ddemocratiaeth’ yn rhoi 99% o’r pleidleisiau i’r enillydd ( yr arweinydd, wrth gwrs ), mae hynny’n chwerthinllyd, ac yn arwydd hollol sicr mai rhywbeth heblaw democratiaeth sydd ar waith yno. Nid chwerthinllyd oedd canlyniadau etholiad arlywyddol 2020 yr UDA, ond annerbyniol  i’r un a gollodd. Roedd tueddiadau ystadegol yr holl ganlyniadau o fewn paramedrau disgwyliedig, hynny yw, i bawb ond yr un a gollodd. Ni allai narsisydd egotistaidd dderbyn colli, nac egluro hynny ond trwy weiddi ‘Twyll!’, ac roedd y dilynwyr, a baratowyd trwy gelwyddau, hwythau’n gweiddi ‘Twyll”.

Er fod y cynnwrf i gyd ar hyn o bryd oherwydd yr ymosodiad ar y Capitol gan dyrfa o derfysgwyr, yn y waedd honno o ‘Dwyll’, nid yn yr ymosodiad, y mae perygl i seiliau democratiaeth. Gellir delio gyda therfysgwyr, ond mae’n llawer anos delio gyda cyhuddiad o dwyll, er nad oes un iot o dystiolaeth. Mae perygl mawr i’r sylw yn yr UDA yn awr droi o’r mater pwysig, ond anodd ei gael o feddyliau’r argyhoeddiedig, sef yr honiad ‘haniaethol’disail o dwyll, i’r mater ‘diriaethol’, sef yr ymosodiad ar y Senedd. Mae’n llawer haws delio gyda’r terfysgwyr na chyda’r cred yn neu pennau. Dyna’r ffordd y deliodd yr awdurdodau ym Mhrydain gyda’r rhai oedd, yn y 19eg ganrif, yn brwydro am hawliau dinasyddiaeth, ymosod ar y gelyn diriaethol, nid gyda’r gelyn haniaethol. Am na allent ddelio gyda syniadau, fe droesant y frwydr am y syniadau hynny yn derfysg, gan ladd nifer o bobl ddiniwed ym maes Peterloo; gwnaed yr un peth gyda’r Siartwyr yng Nghasnewydd, a chrewyd merthyron. Rhaid i’r awdurdodau yn yr UDA wylio rhag dilyn yr un trywydd, a throi’r terfysgwyr yn ferthyron. Fe greodd Trump, a’i gwn rhech, syniad, y syniad o dwyll etholiadol, er mwyn ceisio sicrhau na allai golli etholiad, ac, er bod y syniad yn un disail a chyfeiliornus, fe’i plannodd ym meddyliau ei ddilynwyr, ac yna aed ati, yn ofalus, ac yn fwriadol, i feithrin y syniad. Fel Gwydion gynt, aeth ati i greu, a chrewyd merch o flodau, merch nad oedd iddi wreiddiau na Sylfaen, ond merch a hudai ddynion. Blodeuwedd o syniad yw syniad Trump o dwyll etholiadol, syniad disylwedd sy’n hudo. Ei ddull yw creu’r cyhuddiad, ei ailadrodd dro ar ôl tro, a’i gefnogi gyda thystiolaeth anecdotal, ail a thrydydd llaw, gan dorri’r garreg gyda dyfal donc; mae’r amheuaeth yn llawer pwysicach na’r prawf. Y dystiolaeth anecdotal hwn sy’n gyfangwbl gyfrifol am i holl achosion llys Trump gael eu gwrthod; mae a wnelo llys â thystiolaeth uniongyrchol; sail y ddamcaniaeth cynllwyn yw fod rhywun wedi clywed gan ffrind i ffrind fod rhywun wedi gweld.

Fel y nodwyd, ymosod ar yr allanolion y mae’r terfysgwyr, mae Trump a’i gynghorwyr yn ymosod ar y craidd, ac yn hynny y mae’r perygl einioes i ddemocratiaeth. Os gellir cael pobl i amau dilysrwydd un etholiad, yna mae dilysrwydd pob un etholiad, mawr a bach, yn mynd i gael ei hamau, a’i herio, gan y sawl sy’n colli, ac onid hanfod democratiaeth yw fod y collwr, beth bynnag fo’i deimladau, yn derbyn y canlyniad. Dod yn ei ôl i frwydro ddiwrnod arall yw dilyniant colli, nid herio’r un frwydr drosodd a throsodd, a gwneud hynny ar sail cyhuddiadau celwyddog.

Yma, ar draws yr Iwerydd, gwelir arwyddion o’r un perygl, hefyd, er nad i’r un graddau â’r hyn a welwyd gan Trump. I’r miliynau ohonom a oedd yn ysol gredu yn yr Undeb Ewropeaidd, roedd colli’r bleidlais yn 2016 yn dorcalon, ac yn drasiedi, ac, er y bwriwyd amheuaeth ar wirionedd nifer o ddadleuon y gwrthwynebwyr, ac y gofynnwyd am ail bleidlais, ni awgrymwyd un waith fod unrhyw dwyllo yn y bleidlais, ni soniwyd am ddiystyru, na dyblygu, pleidleisiau, nac am beiriannau tywyllodrus. Ond eto mae arwyddion o berygl i ddemocratiaeth yma. Mae elfennau’r cwlt i’w weld yn etholiad Boris Johnson fel arweinydd y Ceidwadwyr, sef ei ethol ar sail poblogrwydd personol, ar ei allu i hudo etholwyr, ac nid ar allu i gyflawni’r swydd.Y mae pob un aelod o’i lywodraeth wedi eu hapwyntio yn unig ar eu teyrngarwch i’r arweinydd, ac nid ar eu gallu  i reoli eu portfolio, ac mae hynny’n arwain i reolaeth gan rai sydd, ar y gorau, o allu canolig, ac yn uniongyrchol i’r anrhefn wrth ddelio gyda’r pandemig.

Fodd bynnag, nid yn y cwlt, yn y bôn, y mae’r perygl mwyaf i ddemocratiaeth, ond yn yr ymosodiad ar sylfaen democratiaeth. Elfen waelodol democratiaeth yw hawl unigolyn i fynegi ei farn, boed hynny gyda llais, neu bleidlais, beth bynnag fo’r farn  honno, ar unrhyw bwnc dan haul, cyhyd â nad yw’n torri unrhyw gyfraith, yn ymfflamychol, nag yn annog unrhyw dorcyfraith. ‘Rhydd i bawb ei farn, ac i bob barn ei llafar’. Ond mae’r egwyddor ddemocrataidd honno o dan ymosodiad o sawl cyfeiriad erbyn hyn. Mae hi wedi mynd yn frwydr go iawn mewn prifysgolion i gael yr hawl i fynegi unrhyw farn a all frifo clustiau tyner unrhyw wrthwynebydd, mae nifer o saiaradwyr gwâdd yn cael eu gwrthod am fod ganddynt farn wahanol, mae, hyd yn oed, ddarlithwyr mewn perygl o golli eu swyddi oherwydd fod ganddynt farn ‘amhoblogaidd’ ar ryw bwnc neu’i gilydd. Mae ‘bradwr’ wedi mynd yn air llawer rhy gyffredin i’w daflu at unrhyw un sy’n coleddu barn wahanol. Ac yn y gymdeithas yn gyffredinol, yn rhy aml, yr ymateb i farn groes yw ei boddi gyda chrochlefain, neu enllibio diddiwedd ar y cyfryngau cymdeithasol, nid cyflwyno gwrth-ddadl, gyda’r canlyniad mai ond y dewr iawn, bellach, sy’n mentro mynegi barn groes i farn y mwyafrif.  Yn y sefyllfa gynyddol hon mae egin gorfodi unffurfiaeth barn a thotalitariaeth safbwynt. Bydded inni gofio mai camau bychain iawn, iawn sydd o wrthod hawl unigolyn i fynegi barn sy’n groes i’n un ni, i ymosod ar etholiad fel un ffug am nad yw’r canlyniad o’n plaid, i ymosod ar galon cymdeithas ddemocrataidd.

Fe oroesodd democratiaeth yn yr UDA y tro hwn – ond y tro nesaf?